William Pritchard Morgan
Roedd William Pritchard Morgan Brenin Aur Cymru (1844 – 5 Gorffennaf 1924) yn gyfreithiwr, mwynwr aur a gwleidydd Rhyddfrydol Cymreig. Bu'n berchennog ar waith aur y Gwynfynydd, Dolgellau ac yn Aelod Seneddol Bwrdeistref Merthyr Tudfil rhwng 1888 a 1900.[1]
William Pritchard Morgan | |
---|---|
Cartŵn o William Pritchard Morgan AS o Papur Pawb 1893 | |
Ganwyd | 1844 |
Bu farw | 5 Gorffennaf 1924 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | cyfreithiwr, gwleidydd |
Swydd | Aelod o 26ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 25ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 24ain Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
Aur Awstralia
golyguCyn dod yn ôl i Gymru, fe wnaeth William Morgan ennill cyfoeth yn rhuthr aur Awstralia.[2]
Aur Gwynfynydd
golyguBu William Pritchard Morgan yn cloddio yn ddirgel am aur yng Ngwynfynydd ac ym mis Gorffennaf 1887, cyhoeddwyd darganfyddiad gywhtien newydd o aur. Roedd William yn gobeithio cadw'r darganfyddiad yn gyfrinach cyn creu sioe a chyflwyno'r bar cyntaf o aur i Frenhines Fictoria.[2]
Ar ôl cyhoeddiad y newyddion, aeth degau o rai yno i gloddio a newyddiadura a bu'n rhaid i William wneud cais i'r llysoedd lleol i gadw dau gwnstabl ar y safle. Daeth William yn fwy cyfoethog byth ac adnabyddywd fel 'Brenin Aur Cymru'.[2]
Roedd William Pritchard Morgan eisoes wedi ennill ei ffortiwn yn ystod Rhuthr Aur Awstralia ond diolch i'w ddarganfyddiad ym Meirionnydd daeth Morgan yn fwy cyfoethog fyth.[2]
O dan berchnogaeth Morgan, cyflogwyd 200 o weithwyr yng Ngwynfynydd. Roeddent yn cloddio mewn twneli cul i fewn i'r graig dan olau cannwyll.[2]
Cyfeiriadau
golyguSenedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Henry Richard |
Aelod Seneddol Bwrdeistref Merthyr Tudfil 1888 – 1900 |
Olynydd: Keir Hardy |