William Rees Morgan Davies
Roedd Syr William Rees Morgan Davies (11 Mai 1863 – 14 Ebrill 1939) William Rees-Davies yn gyfreithiwr Cymreig a fu'n gwasanaethu fel barnwr yng Ngwasanaeth Cyfreithiol yr Ymerodraeth Brydeinig bu hefyd yn gwasanaethu fel Aelod Seneddol Rhyddfrydol Sir Benfro rhwng 1892 a 1898[1]
William Rees Morgan Davies | |
---|---|
Ganwyd | 11 Mai 1863 Aberdaugleddau |
Bu farw | 14 Ebrill 1939 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | barnwr, bargyfreithiwr, gwleidydd |
Swydd | Aelod o 26ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 25ain Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
Bywyd Personol
golyguGanwyd Rees-Davies yn Aberdaugleddau, yn fab i Syr William Davies, cyfreithiwr a Martha Rees Morgan ferch hynaf Thomas Morgan, Hwlffordd, ei wraig. Bu Syr William yn rhagflaenydd Rees-Davies fel AS Sir Benfro.
Cafodd ei addysgu yng Ngholeg Eton a Neuadd y Drindod, Caergrawnt, gan raddio'n BA ym 1885.
Priododd Florence Beatrice ym 1898, roedd hi yn ferch i John Birkett, o Rickmansworth, Swydd Hertford. Ni fu iddynt blant. Bu hi farw ym 1910 [2]. Ym 1913, priododd Hilda Kathleen, merch W. E. Blennerhasset Atthill o Faversham, Swydd Gaint. Bu iddynt un mab sef William Rupert Rees-Davies AS Ceidwadol etholaethau ardal Thanet Caint rhwng 1953 a 1983.
Gyrfa
golyguWedi graddio aeth Rees-Davies i astudio yn y Deml Ganol, gan gael ei alw i'r Bar ym 1887. Bu'n gweithio fel bargyfreithiwr ar gylchdaith Deheudir Cymru gan wasanaethu fel erlynydd y goron, gan amlaf[3]. Bu'n gwasanaethu fel Ynad Heddwch ar fainc Sir Benfro, mainc Swydd Gaint a mainc Aberdaugleddau.[4]
Gyrfa Wleidyddol
golyguYm 1891 cyhoeddodd Syr William Davies nad oedd am amddiffyn ei sedd yn yr etholiad nesaf. Dewiswyd ei fab yn olynydd iddo. Llwyddodd Rees-Davies i gadw'r sedd i'r Rhyddfrydwyr yn etholiad cyffredinol 1892 ac i'w amddiffyn yn etholiad cyffredinol 1895. Bu'n gwasanaethu fel Ysgrifennydd Seneddol Preifat i Ganghellor y Trysorlys, Syr William Harcourt, rhwng 1893 ac 1895.
Ym 1898 cafodd swydd gyflogedig gan y goron, sef swydd Twrnai Cyffredinol y Bahamas a bu'n rhaid iddo ildio ei sedd seneddol.
Gwasanaeth ymerodrol
golyguPenodwyd Rees-Davies yn Dwrnai Cyffredinol y Bahamas ym 1898. Ym 1902 fe'i penodwyd yn Adfocad y Brenin ar Ynys Cyprus.
Ym 1907, fe'i penodwyd yn Dwrnai Cyffredinol Hong Cong. Fel Twrnai Cyffredinol roedd hefyd yn aelod o Gyngor Gweithredol a Chyngor Deddfwriaethol y diriogaeth.
Fe'i penodwyd yn Gwnsler y Brenin ym 1908.
Ym 1912, fe'i penodwyd yn Brif Ustus Hong Cong gan ddal y swydd hyd iddo ymddeol ym 1924.
Marwolaeth
golyguWedi ymddeol, symudodd i Folkestone, Caint. Lle fu farw yn 75 mlwydd oed.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (2007-12-01). Davies, Sir William Rees-, (11 May 1863–14 April 1939), KC; JP Pembrokeshire and Kent; JP Haverfordwest yn WHO'S WHO & WHO WAS WHO Adalwyd 27 Rhagfyr 2017
- ↑ "FamilyNotices - The Pembroke County Guardian and Cardigan Reporter". Henry Whiteside Williams. 1910-07-01. Cyrchwyd 2017-12-28.
- ↑ Alumni Cantabrigienses: A Biographical List of All Known Students, Graduates and Holders of Office at the University of Cambridge, from the Earliest Times to 1900
- ↑ "THE PROPOSED CANDIDATE - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1891-03-14. Cyrchwyd 2017-12-28.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Syr William Davies |
Aelod Seneddol Sir Benfro 1892 – 1898 |
Olynydd: John Philipps |