William Davies (AS Sir Benfro)

cyfreithiwr, gwleidydd (1821-1895)

Roedd Syr William Davies (23 Awst 182123 Tachwedd 1895) yn wleidydd Rhyddfrydol Cymreig a gynrychiolodd Sir Benfro fel Aelod Seneddol.

William Davies
Ganwyd23 Awst 1821 Edit this on Wikidata
Hwlffordd Edit this on Wikidata
Bu farw23 Tachwedd 1895 Edit this on Wikidata
Hwlffordd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgwleidydd, cyfreithiwr Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 24ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 23ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 22ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata
Gwobr/auSyr, Marchog Faglor Edit this on Wikidata

Bywyd Personol

golygu

Ganwyd William Davies yn Hwlffordd yn fab i Thomas Davies, Prendergast.

Derbyniodd addysg elfennol yn ysgol y Parchedig Brown Hwlffordd gan ymadael a'r ysgol yn 14 oed.

Yn 14 oed aeth i weithio fel prentis yn swyddfa gyfreithiol Cwmni William Rees, Hwlffordd. Wedi darfod ei brentisiaeth daeth yn glerc wedi ei gyfamodi i Mr Rees ac wedi derbyn ei erthyglau clercio cymhwysodd fel cyfreithiwr, gan ddod yn bartner yng nghwmni William Rees. Bu Davies yn gysylltiedig â'r cwmni am weddill ei oes. Ym 1854 sefydlodd Rees a Davies yr Haverfordwest and Milford Haven Telegraph fel papur newyddion Rhyddfrydol.[1]

Ychydig cyn ei farwolaeth aeth ei fusnes i drafferth ariannol ac fe'i gwnaed yn fethdalwyr wedi ei farwolaeth.[2]

Gyrfa wleidyddol

golygu

Bu Davies yn gweithio fel asiant etholiadol i Syr Hugh Owen Owen yn is etholiad Sir Benfro ym 1861, lle gollodd o drwch y blewyn, ac yna yn isetholiad Bwrdeistref Penfro ychydig fisoedd yn ddiweddarach lle fu Syr Hugh yn llwyddiannus, yn etholiad cyffredinol 1865 bu'n gweithredu eto fel asiant i Syr Hugh a hefyd fel asiant David Davies, Llandinam yn etholaeth Ceredigion.

Ar farwolaeth Syr John Henry Scourfield aelod Ceidwadol Sir Benfro ym 1876 safodd Davies fel yr ymgeisydd Rhyddfrydol aflwyddiannus yn yr isetholiad, ond llwyddodd i gipio'r sedd yn yr etholiad cyffredinol canlynol ym 1880 gan dal y sedd hyd ei ymddeoliad o'r senedd ym 1892. Fe'i olynwyd fel AS Sir Benfro gan ei fab William Rees Morgan Davies.

Ym 1893 fe'i urddwyd yn farchog am ei gyfraniad disglair i wasanaeth cyhoeddus a gwleidyddol.[3]

Priodasau a marwolaeth

golygu

Bu Davies yn briod dwywaith priododd ei wraig gyntaf Martha Rees Morgan ferch hynaf Thomas Morgan, Hwlffordd a nith i William Rees ym 1859, bu iddynt chwe mab ac un ferch; bu h farw ym 1872 mab iddynt oedd olynydd Davies fel AS Sir Benfro, Syr William Rees Morgan Davies. Ei ail wraig oedd Mary Merch Thomas Herbert, cyfrifydd yng nghwmni Davies a nith arall i William Rees fu iddynt un mab a bu hi farw ym 1914[4]

Bu farw Davies yn ei gartref Spring Gardens, Hwlffordd a chladdwyd ei weddillion ym Mynwent capel Bedyddwyr Macpelah ar gyrion Hwlffordd[5]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Death of Sir William Davies" (yn Saesneg). South Wales Daily Post. 23 November 1895. Cyrchwyd 19 December 2020.
  2. Weekly Mail 16 Tachwedd 1895 Sir William Davies' Affairs [1] adalwyd 27 Mehefin 2015
  3. Cardiff Times 30 Tachwedd 1895 Interesting Biography [2] adalwyd 27 Mehefin 2015
  4. Haverfordwest and Milford Haven Telegraph -18 Mawrth 1914 Local News [3] adalwyd 27 Mehefin 2015
  5. South Wales Daily Post 28 Tachwedd 1895 The funeral of Sir W Davies [4] adalwyd 27 Mehefin 2015
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
James Bevan Bowen
Aelod Seneddol Sir Benfro
18801892
Olynydd:
William Rees Morgan Davies