William Robert Grove
Dyfeisydd a ffisegydd o Gymru oedd William Robert Grove (11 Gorffennaf 1811 – 1 Awst 1896). Yn enedigol o Abertawe, ef oedd dyfeisiwr y gell danwydd a gwnaeth lawer o waith ar gadwraeth egni. Roedd hefyd yn gyfreithiwr ac yn farnwr Uchel Lys.
William Robert Grove | |
---|---|
Ganwyd | 11 Gorffennaf 1811 Abertawe |
Bu farw | 1 Awst 1896 Llundain |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | cemegydd, barnwr, dyfeisiwr, ffisegydd, cyfreithiwr, ffotograffydd, naturiaethydd, bargyfreithiwr |
Swydd | aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig |
Plant | Florence Crauford Grove, Coleridge Grove |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Medal Brenhinol, Bakerian Lecture, Marchog Faglor |
Astudiodd y clasuron yng Ngholeg y Trwyn Pres, Rhydychen 1829–32, cyn iddo ddod yn gyfreithiwr. Fe'i galwyd i'r bar yn Lincoln's Inn, Llundain, yn 1835. Yn y flwyddyn honno daeth yn aelod o Sefydliad Brenhinol (Royal Institution) yn Llundain, sefydliad ar gyfer addysg wyddonol ac ymchwil, a hefyd daeth yn aelod sefydlu'r Swansea Philosophical and Literary Society (Cymdeithas Athronyddol a Llenyddol Abertawe).
Ym 1839 dyfeisiodd ffurf newydd o gell drydan, y Gell Grove, a ddefnyddiodd electrodau sinc a phlatinwm a oedd yn agored i ddau asid ac a wahanwyd gan lestr ceramig hydraidd.
Ym 1840 dyfeisiodd un o'r lampiau trydan cyntaf a ddefnyddiodd fỳlb gwynias.
Yn 1842 lluniodd berthynas rhwng egni mecanyddol, gwres, golau, trydan a magneteg trwy eu trin fel amlygiadau o un "grym" (egni yn nhermau modern). Yn 1846 cyhoeddodd ei ddamcaniaethau yn ei lyfr On the Correlation of Physical Forces. Mae'r cysyniad hwn yn sail i egwyddor cadwraeth egni.
Yn 1842 creodd y gell danwydd gyntaf, sef batri a gynhyrchodd drydan trwy gyfuno hydrogen ac ocsigen.
Yn y 1840au chwaraeodd ran bwysig wrth foderneiddio a diwygio'r Gymdeithas Frenhinol.
Yn ddiweddarach yn y 1840au gwnaeth lai o ymchwil wyddonol a chanolbwyntiodd ar ei yrfa fel bargyfreithiwr. Fe'i penodwyd yn farnwr ym 1871.
Llyfryddiaeth
golygu- William Robert Grove, On the Correlation of Physical Forces (Llundain, 1846)
- Iwan Rhys Morus, William Robert Grove: Victorian Gentleman of Science (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2017)