William Roberts (awdur)

gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, golygydd, ac awdur

Gweinidog o Gymro oedd William Roberts (25 Medi 18091887).

William Roberts
Ganwyd25 Medi 1809 Edit this on Wikidata
Llannerch-y-medd Edit this on Wikidata
Bu farw1887 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgweinidog yr Efengyl, ysgrifennwr Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Ganwyd yn Llanerchymedd. Offeiriad o'r enw John Richards a addysgwyd William Roberts. Mynychodd a ysgol William Griffith, gweinidog gyda'r Annibynwyr, Caergybi. Yn 1829 dechreuodd Roberts bregethu yng nghapel Hyfrydle, Caergybi. Aeth ymlaen i Ddulyn am ychwaneg o addysg. Daeth rai o Gymry Dulyn at ei gilydd, gan ffurfio eglwys Gymraeg yn y ddinas. Creda llawer mai ef yw un o bregethwyr mwyaf poblogaidd Sir Fon erioed.

Cafodd ei ordeinio yn 1848. Yn 1855, aeth i fugeilio eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yn Efrog Newydd, ble ddaru arolygu argraffiad y Beibl Cymraeg cyntaf a gyhoeddwyd yn 1858.[1]

Blynyddoedd Olaf golygu

Yn 1877 symudodd o Efrog Newydd i fugeilio eglwys Mariah, Utica, ac arhosodd yno am 10 mlynedd, tan bu farw yn 1887.

Ffynonellau golygu

  • Moriah, Utica, N.Y., U.S.A., 1830-1930, 1830-1930, 16-7;
  • T. S. Griffiths, Hanes y Methodistiaid Calfinaidd yn Utica, N.Y. (Utica 1896), 1936, 92-104.

Cyfeiriadau golygu

  1. "ROBERTS, WILLIAM (1809 - 1887), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, golygydd, ac awdur | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-01-16.