Agor y brif ddewislen

Llannerch-y-medd

gymuned yn y sir Gymreig Môn, yng Nghymru, a leolir ar arfordir gogledd orllewin y sir
(Ailgyfeiriad oddi wrth Llanerchymedd)

Pentref a chymuned ar Ynys Môn yw Llannerch-y-medd (hefyd Llannerchymedd). Fe'i lleolir ger Llyn Alaw yng nghanol yr ynys. Am ganrifoedd bu'n adnabyddus am ei ffair a ddenai gwerthwyr a phrynwyr o bob rhan o'r ynys.[1]

Llanerchymedd
Entering Llanerch-y-medd - geograph.org.uk - 231550.jpg
Math Cymuned, anheddiad dynol Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Ebrill 1974 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Ynys Môn, Gwynedd Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Yn ffinio gyda Tref Alaw Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 53.327248°N 4.387343°W Edit this on Wikidata
Cod SYG W04000028 Edit this on Wikidata
Cod OS SH4110483805 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)
AS/au Albert Owen (Llafur)
Hen Swyddfa bost, Llannerch-y-medd

Ceir yma ysgol gynradd, siop gyffredin, siop flodau a siop sglodion yn Llannerch-y-medd yn ogystal a chlwb ieuenctid a pharc.

Tarddiad yr enwGolygu

 
Llannerch y medd tua 1875

Mae dwy ran i'r enw: llannerch sy'n golygu "lle agored wedi ei glirio" a medd, sef diod alcoholaidd wedi'i gwneud o fêl); mae'n bosib fod yn yr ardal, felly, ddigon o wenynwyr yn y gorffennol.[2]

 
Ellis Wirion un o gymeriadau Llannerch-y-medd

CapeliGolygu

  • Capel Ifan 1838
  • Capel Mawr 1818
  • Y Tabarnad 1818

ClorachGolygu

Prif erthygl: Clorach

Tua milltir a hanner i'r dwyrain o'r pentref ceir hen blasty Clorach (fferm heddiw), a fu'n gartref i Gwilym ap Tudur a chyrchfa i'r beirdd yn yr Oesoedd Canol Diweddar. Yn ôl traddodiad llên gwerin a ysbrydolodd gerdd gan Syr John Morris-Jones, arferai'r seintiau cynnar 'Seiriol Wyn' a 'Chybi Felyn' gyfarfod bob wythnos yng Nghlorach am ei fod yng nghanol yr ynys. Lewis Morris yw'r cyntaf i sôn am hynny, yn y 18g. Gan fod Seiriol yn cerdded â'r haul ar ei gefn yno ac yn ôl arhosodd ei wyneb yn wyn, ond y gwrthwyneb yn achos Cybi gan droi ei wyneb yn felyn.

Côr Meibion y FoelGolygu

CryddionGolygu

Yn 1832 oedd yna 250 o gryddion yn gweithio yn Llannerchymedd ond erbyn 1893 dim ond 10 o gryddion yn gweithio yno. Nid oedd y cryddion yn gweithio ar ddydd Sul nac ar ddydd Llun.

Pobl o Lannerch-y-meddGolygu

Damwain RheilfforddGolygu

Rheilffordd canolbarth Môn - trên cyntaf ar y 1af o Orffennaf, 1866. Digwyddodd y ddamwain ar y 29ain o Dachwedd, 1877. Digwyddodd law trwm, dychrynllyd, a gorlifodd Llyn y Pandy dros yr argae. Rhuthrodd y trên yn ôl i stesion y Llan ac ail gychwynodd am Rosgoch gyda 3 person arni, y gyrrwr, taniwr a arolygydd y rheilffordd. Ond, roedd y glaw dal i fynd a syrthiodd y trên i fewn i'r afon a'i thrwyn i fyny. Ail adeiladwyd pont newydd o gerrig ac roedd y bont yn cael ei gydnabod fel 'Pont y ddamwain.' Ac mae'r pont dal i sefyll yno rwan.

India Roc 'nymbar 8 Llan'achmedd'Golygu

Yn y 1800au, cafodd yr 'India roc' ei chyflwyno i Lannerch-y-medd. Redd ganddo rif 8 arno oherwydd roedd pobl yn dylunio ffurf 'neidr' i greu rhif 8. Roedd yna fasiwn beth a 'pin' 8 pwynt, ond doedd neb yn gwybod pam. Ar ôl i'r dyn cyntaf i gyflwyno India roc farw, cymerodd ei fab Huw y busnes drosodd. Roedd yr India roc yma'n cael ei werthu ym marchnadoedd Llangefni ac roedd yr India roc yn cael ei chadw a'i bacio mewn bocsys bananas.

Cyfrifiad 2011Golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llannerch-y-medd (pob oed) (1,360)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llannerch-y-medd) (952)
  
73.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llannerch-y-medd) (999)
  
73.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llannerch-y-medd) (207)
  
36.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

CyfeiriadauGolygu

  1. Dafydd Wyn William, 'Ffair, Marchnad a Phorthmyn', yn Atlas Môn (Llangefni, 1972).
  2. Melville Richards, 'Enwau Lleoedd', yn Atlas Môn (Llangefni, 1972).
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y di-waith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.