William Roberts (meddyg)
Meddyg o Gymru oedd Syr William Roberts (18 Mawrth 1830 – 16 Ebrill 1899). Ganwyd Roberts ym Modedern ar 18 Mawrth 1830. Roedd yn fab i David a Sarah Roberts. Addysgwyd yn Mill Hill School ac ym Mhrifysgol Llundain. Graddiodd hefo BA yn 1851. M.B yn 1853 a M.D yn 1854. Treuliodd rhan o'i amser yn Ffrainc a'r Almaen wrth astudio am ei radd.
William Roberts | |
---|---|
Ganwyd | 18 Mawrth 1830 Bodedern |
Bu farw | 16 Ebrill 1899 Llundain |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | meddyg |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Cymrawd Coleg Brenhinol y Meddygon Llundain, Araith Harveian |
Dyddiau cynnar
golyguAr ôl cwblhau ei addysg ym meddyginiaeth, penodwyd yn brif lawfeddyg yn Manchester Royal Infirmary a daeth yn aelod o'r Royal College of Surgeons. Penodwyd yn Athro Meddyginiaeth yn Owens College, Manceinion o 1863 i 1883. Ei faes penodedig oedd afiechydon arennol.
Manceinion
golyguSymudodd un o'i frodyr i Fanceinion a daeth yn llewyrchus yn y busnes dillad (drapery). Roedd nifer o aelodau o'r teulu wedi symud i'r ardal hon oherwydd y busnes. Roedd gan Manceinion Clafdy ac ysgol feddygol boblogaidd. Roedd yn lle delfrydol i feddyg ifanc newydd raddio.[1] Penderfynodd Roberts symud yno a daeth yn brif lawfeddyg yn y Royal Informary. Yn ystod y blynyddoedd cyntaf ym Manceinion fe syrthiodd mewn cariad hefo Elizabeth Johnson a phriododd y ddau. Roedd hefyd yn ddarlithydd mewn anatomeg a ffisioleg yn y Royal School of Medicine ym Manceinion.[1] Ar ôl dau ddeg pedwar blynedd ym Manceinion symudwyd Roberts i Lundain lle dreuliodd ei ymddeoliad. Roedd yn rhannu ei amser rhwng Llundain a'i ystâd, Y Bryn yn Llanymawddwy.
Marwolaeth
golyguBu farw Syr William Roberts yn Llundain yn 1899. Claddwyd yn y fynwent yn Llanymawddwy.