William Williams (Gwilym ab Ioan)
Roedd William John Williams (Gwilym ab Ioan) (1800 – 28 Ionawr 1868) yn fardd Cymraeg yn yr Unol Daleithiau.[1]
William Williams | |
---|---|
Ganwyd | 1800 Llanycil |
Bu farw | 28 Ionawr 1868 Dinas Efrog Newydd |
Dinasyddiaeth | Cymru UDA |
Galwedigaeth | bardd, clerc banc, golygydd |
Cefndir
golyguGanwyd Gwilym ab Ioan yn y Tyddyn Du, Llanycil, Sir Feirionnydd yn blentyn i John Williams gweithiwr amaethyddol a bardd gwlad. Fe'i haddysgwyd mewn ysgol elfennol a gynhaliwyd gan Y Parch Richard Jones, Y Parc yng Nghapel y Methodistiaid Calfinaidd yn Llanuwchllyn. Dysgodd cerdd dafod fel aelod o Gymdeithas Cymreigyddion, Llanuwchllyn.[2]
Gyrfa
golyguWedi ymfudo i'r Unol Daleithiau ym 1824 bu'n gweithio mewn cangen o fanc Nasau yn Ninas Efrog Newydd. Roedd yn aelod amlwg o gymdeithas Cymraeg y ddinas, yn aelod blaenllaw o Gymdeithas Elusengar Dewi Sant ac yn ysgrifennydd Cymdeithas Fuddiol Dewi Sant.[3]
Cafodd llwyddiant eisteddfodol efo'i ganu. Enillodd wobr o gini aur a medal yn Eisteddfod y Fenni 1837 am gyfres o 12 o englyn er cof am Thomas Price (Carnhuanawc). Enillodd nifer o wobrau mewn eisteddfodau yn yr Unol Daleithiau hefyd gan gynnwys dwy fedal arian am gerdd ar ffieidd-dra rhyfel ac am gerdd yn clodfori elusengarwch. Cyhoeddodd nifer fawr o gerddi ym mhapurau a chylchgronau Cymraeg America. Roedd yn cael cystadlaethau creu englyn byrfyfyr gyda'i gyfaill a chyd bardd Edward Jones (Eos Glan Twrch); wedi marwolaeth Gwilym, cyhoeddodd yr Eos nifer o'r englynion yn y papurau Cymraeg.[4] Rhwng 1853 a 1856 bu'n cyd-olygydd Y Cylchgrawn Cenedlaethol Cylchgrawn llenyddol misol, Cymraeg am lenyddiaeth, barddoniaeth a cherddoriaeth a gyhoeddwyd yn Efrog Newydd.[5]
Teulu
golyguYm 1828 priododd Gwilym ab Ioan â Jane Reed o Oneida County, Efrog Newydd. Bu iddynt bump o blant.
Marwolaeth
golyguBu farw Gwilym ab Ioan o anhwylder yr arennau yn 68 mlwydd oed, a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Cypress Hill, Long Island, Efrog Newydd.[6] Y flwyddyn ganlynol enillodd ei gyfaill barddol Y Parch Richard Foulkes Edwards (Risiart Ddu o Wynedd) prif wobr Eisteddfod Utica am bryddest er cof amdano.[7]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ WILLIAMS, WILLIAM (‘Gwilym ab Ioan’; 1800 - 1868), bardd yn U.D.A.;. Y Bywgraffiadur Cymreig Adferwyd 26 Hyd 2020
- ↑ "Y DIWEDDAR GWILYM AP lOAN - Y Drych". Mather Jones. 1885-09-10. Cyrchwyd 2020-10-26.
- ↑ Y Cyfaill o'r Hen Wlad yn America Cyf. XXXI rhif. 385 [376] - Ebrill 1868 William J Williams Adferwyd 26 Hyd 2020
- ↑ "Englynion Pummynydol Gwilym Ab loan ac Eos Glan Twrch - Y Drych". Mather Jones. 1886-04-29. Cyrchwyd 2020-10-26.
- ↑ Cylchgronau Cymru; Llyfrgell Genedlaethol Cymru - Y Cylchgrawn Cenedlaethol Adferwyd 26 Hyd 2020
- ↑ Y Cenhadwr Americanaidd Cyf. 29 rhif. 341 - Mai 1868 William J Williams Adferwyd 26 Hyd 2020
- ↑ Jones, R. Mawddwy Cofiant a gweithiau Risiart Ddu o Wynedd (Y Bala 1906) tud 273 Pryddest: Gwilym ab Ioan Adferwyd 26 Hyd 2020