Witches of East End (cyfres deledu)
Cyfres deledu drama oruwchnaturiol Americanaidd yw Witches of East End. Seilir y gyfres ar y llyfr o'r un enw gan Melissa de la Cruz.[1] Darlledwyd y gyfres gyntaf ar Lifetime 6 Hydref 2013.[2] Mae'r gyfres yn dilyn teulu o wrachod - Joanna Beauchamp (Julia Ormond) a'i dwy merch Freya Beauchamp (Jenna Dewan Tatum) ac Ingrid Beauchamp (Rachel Boston), yn ogystal â'i chwaer Wendy Beauchamp (Mädchen Amick), oll yn oedolion. Maent yn byw mewn tref ffug ar lan y môr o'r enw 'East End'.
'Witches of East End' | |
---|---|
Seiliwyd ar | Witches of East End gan Melissa de la Cruz |
Genre | Drama oruwchnaturiol Ffantasi Comedi-drama |
Datblygwyd gan | Maggie Friedman |
Cyfarwyddwyd gan | Wendy Melvoin, Lisa Coleman, Peter Nashal (peilot yn unig) |
Serennu | Julia Ormond, Mädchen Amick, Jenna Dewan Tatum, Rachel Boston, Daniel Di Tomasso, Christian Cooke, Eric Winter |
Gwlad/gwladwriaeth | Yr Unol Daleithiau |
Iaith/ieithoedd | Saesneg |
Nifer cyfresi | 2 |
Nifer penodau | 16 (Rhestr Penodau) |
Cynhyrchiad | |
Cynhyrchydd gweithredol |
Maggie Friedman, Erwin Stoff (peilot yn unig), Jessica Tuchinsky (peilot yn unig), Mark Waters (peilot yn unig) |
Cynhyrchydd | Kelly A. Manners (peilot yn unig), Shawn Williamsom |
Lleoliad(au) | Wilmington, Gogledd Carolina (peilot yn unig), Vancouver, British Columbia, Canada |
Amser rhedeg | 43 munud |
Cwmnïau cynhyrchu |
3 Arts Entertainment, Curly Girly Productions, Fox 21 |
Darllediad | |
Sianel wreiddiol | Lifetime |
Darllediad gwreiddiol | 6 Hydref 2013 |
Dolenni allanol | |
Gwefan swyddogol |
Ar 22 Tachwedd 2013, cadarnhawyd bod Lifetime Witches of East End wedi ariannu ail gyfres o 13 pennod,[3] a ddarllenwyd gyntaf ar 6 Gorffennaf 2014.[4]
Darllediadau
golyguDarlledwyd Witches of East End yn y Deyrnas Unedig ar 5 Tachwedd 2013 gyntaf, ar ail noson y sianel deledu newydd i'r DU, Lifetime UK.[5] Yn Awstralia, darlledwyd Witches of East End gyntaf ar Eleven ar 4 Awst 2014.[6]
Trosolwg
golyguMae'r cyfresi'n serennu Julia Ormond yn brif gymeriad o'r enw Joanna Beauchamp, gwrach a mam Freya Beauchamp (Jenna Dewan Tatum) ac Ingrid Beauchamp (Rachel Boston), sy'n rhan o'r genhedlaeth nesaf o wrachod. Cyd-serenna Mädchen Amick yn chwaer chwareus a gwrach o'r enw Wendy Beauchamp. Seiliant hwy ar blot y llyfr, gydag un newid, sef nad yw Freya nac Ingrid yn gwybod am eu pwerau hudol nhw i ddechrau.[7]
Cast a chymeriadau
golygu- Julia Ormond fel Joanna Beauchamp, chwaer hŷn Wendy, mam Ingrid a Freya. Mae sawl pŵer hudol ganddi.
- Mädchen Amick fel Wendy Beauchamp, chwaer iau Joanna, modryb Ingrid a Freya. Mae gan Wendy y pŵer i weddnewid yn anifail.[a]
- Jenna Dewan Tatum]] fel Freya Beauchamp, chwaer iau Ingrid. Mae ganddi'r pŵer i greu edlyn (diod hudol) cryf iawn.
- Rachel Boston fel Ingrid Beauchamp, chwaer hŷn Freya. Hi ydyw un o'r gwarchod mwyaf grymus a chanddi'r gallu i ysgrifennu swynion nad ydynt yn bodoli eto.
- Daniel Di Tomasso fel Killian Gardiner, brawd iau Dash.
- Eric Winter fel Dash Gardiner, cyn-ddarpar ŵr Freya a brawd hŷn Killian.
- Christian Cooke fel Frederick Beauchamp (cyfres 2), gefell a brawd iau Freya ac Ingrid.[4]
Nodiadau: a^ Gwestai ym mhennod 1, yn serennu o bennod 2 ymlaen.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Lifetime’s ‘Witches Of East End’ Picked Up To Series. Deadline.com.
- ↑ TCA: Lifetime's 'Witches Of East End' Debuts Oct. 6. Deadline.com.
- ↑ "Witches of East End" Renewed for Second Season by Lifetime. TV By The Numbers.
- ↑ 4.0 4.1 "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-01-17. Cyrchwyd 2014-08-18.
- ↑ "Lifetime UK Sets Premiere Date For 'Witches Of East End'". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-01-22. Cyrchwyd 2014-08-18.
- ↑ Update: Witches of East End. TV Tonight (22 Gorffennaf 2014).
- ↑ Gwall wrth ddefnyddio Nodyn:Dyf gwe: mae'r paramedrau url a teitl yn angenrheidiol.. Hollywood Reporter.
Dolenni allanol
golygu- Gwefan swyddogol Witches of East End
- (Saesneg) Witches of East End ar wefan Internet Movie Database
- Witches of East End ar TV.com Archifwyd 2014-08-17 yn y Peiriant Wayback