Un o rywogaethau ffuglennol y fasnachfraint Pokémon a greuwyd gan Satoshi Tajiri yw Wobbuffet (Japaneg: ソーナンス - Sōnansu). Mae Wobbuffet yn un o'r cymeriadau mwyaf adnabyddadwy o fewn y gyfres, o ganlyniad i'w rôl bwysig yn yr anime, y manga a'r gemau fideo, a ddiolch i ei ymddangosiad anarferol.

Wobbuffet

Cymeriad

golygu

Daw'r enw Wobbuffet o'r geiriau Saesneg wobble (i siglo) a buffet (i baeddu). Daw'r enw Japaneg Sōnansu o ymadrodd bachod y digrifwr Japaneg Sanpei Hayashiya (林家三平; 1925–1980) "Sō nansu, okusan" (そうなんす、奥さん) ("Fel mae yn, madam"). Mae Hayashiya-san yn enwog am roi ei law er ei dalcen wrth dweud hyn a mae gwneud hyn (wrth gweiddu "Sōōōōnansu!!!") yn nodwedd o ymddygiad Wobbuffet. Fel Pikachu cafodd Wobbuffet ei ddylunio gan Ken Sugimori (ffrind agos i Satoshi Tajiri, crëwr Pokémon) a mae'n cael ei leisio yn yr anime gan Yuji Ueda (Japaneg) a Kayzie Rogers (Saesneg).

Ffisioleg

golygu
 
Sōōōōnansu!!!

Mae Wobbuffet (fel pob Pokémon mae'r enw yn lluosog ac unigol) yn Pokémon seicig glas golau gyda cynffon du (a llygaid mawr gwyn arni). Mae gan Wobbuffet breichiau tenau heb ddwylo, gwen od parhaol er ei wyneb a phedwar traed crwn ar waelod ei gorff. Ni all Wobbuffet ymosod ar ei wrthwynebyddion, ond mae'n cael y pŵer i adlamu unrhyw ymosodiad. Mae hefyd gan Wobbuffet y pŵer i atal ei elynnion rhag ymgilio.

Ymddygiad

golygu

Wrth i ddau Wobbuffet cwrdd, bydd nhw'n trio i brofi eu ddygnedd.

Cynefin

golygu

Caiff Wobbuffet eu ffeindio dwfn yn ogofâu.

Mae Wobbuffet yn llysysydd sydd yn bwyta aeron, ffrwythau a llysiau.

Ieithoedd Gwahanol

golygu
  • Almaeneg: Woingenau - sy'n meddwl "I ble?"
  • Ffrangeg: Qulbutoke - o Culbot (yr enw Ffrangeg am "Weebles") ac Okay (ocê)
  • Coreeg: 마자용 Majayong - o Majayo; "Mae hynny'n gywir"