Mae Wonderfully Wild wedi ei leoli ar Ynys Mon rhwng Biwmares a Llangoed.

Wonderfully Wild

Cefndir golygu

Cwmni 'glampio' (o'r Saesneg "glamour camping") ar Ynys Môn yw Wonderfully Wild. Perchnogion y cwmni yw Robin a Victoria Roberts, sydd yn byw chwrater milltir o'r cwmni ei hun.

Cychwynodd y cwmni pan roedd Robin a Victoria eisiau defnyddio tir amaethyddol y fferm ar gyfer rhywbeth heblaw am gadw anifeiliaid arno gan benderfynu creu lle gwersylla 'glampio' . Dechreuodd y cwmni yn 2013, ond cymerodd dros ddwy flynedd i adeiladu y pebyll i gyd. Yn 2017 roedd yna pedair pabell ar un cae, a dwy babell newydd mewn cae arall.[1]

Llety golygu

Mae'r pebyll wedi eu adeiladu o bren, a ffram metel. Mae yna bedwar gwely mewn un pabell. Mae yna wely dwbl, dau wely sengl a gwely dwbl mewn cwpwrdd uchel iawn. Mae yna farbeciw ym mhob pabell, a Stof Losgi Pren sydd wedi cael ei adeiladu yno. Nid oes trydan na rhyngrwyd di-wifr yn y pebyll na chwaith modd o wefru ffonau symudol.

Diwrnod Agored golygu

Mae'r cwmni wedi bod yn llwyddiannus ers agor.[angen ffynhonnell] I ddathlu'r llwyddiant, mae Diwrnod Agored Wonderfully Wild yn cael ei gynnal pob blwyddyn. Mae pobl sydd wedi aros yn Wonderfully Wild o'r blaen yn dod i'r Diwrnod Agored, a theulu Robin a Victoria. Mae modd archebu pabell ar y wefan. Mae modd aros am gyfnod neu cynnal digwyddiad megis priodasau.

Gweithgareddau golygu

Mae yna lawer o weithgareddau posib ar y cae, er enghraifft, defnyddio'r parc chwarae, nofio yn yr afon, a dringo coed. Hefyd mae posib mynd i'r pentrefi cyfagos sef Biwmares a Llangoed, lle mae llawer o bethau i wneud i deuluoedd.

Y Dyfodol golygu

Mae cynlluniau bras i adeiladu llyn ar dir Wonderfully Wild er mwyn galluogi i ymwelwyr nofio.

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan Anglesey Tipi and Yurt Holiday

Dolenni allanol golygu