Wormwood Scrubs (Carchar EM)
Carchar lleol Categori B yn Lloegr ydy'r Wormwood Scrubs ("The scrubs" yn anffurfiol), sy'n derbyn carcharorion i'w cadw yn y ddalfa neu ar ôl cael eu dedfrydu. Lleolir i'r de o Wormwood Scrubs ym Mwrdeistref Llundain, Hammersmith a Fulham. Adeiladwyd yn yr 1880au, gan ddefnyddio llafur y carcharorion. Roedd yn dal carcharorion benywaidd a gwrywaidd hyd at 1902. Mae llety ar gyfer 1256 o garcharorion ym mhum adain yr adeilad heddiw.
Math | HM Prison |
---|---|
Ardal weinyddol | Bwrdeistref Llundain Hammersmith a Fulham |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Wormwood Scrubs |
Sir | Llundain Fwyaf (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 51.5167°N 0.2403°W |
Rheolir gan | His Majesty's Prison Service |
Carcharorion enwog
golygu- David James Jones (Gwenallt): Bu'r llenor, un o feirdd Cymraeg mwyaf adnabyddus yr 20g, yn garcharor yn y Scrubs ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf oherwydd ei safiad fel gwrthwynebydd cydwybod i wasanaeth milwrol. Seilir ei nofel Plasau'r Brenin (1934) ar ei brofiad.
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Prison service information Archifwyd 2011-02-06 yn y Peiriant Wayback
- (Saesneg) Prisons and penal system, Victorian London
- (Saesneg) George Blake escape
- (Saesneg) Troubled history of the Scrubs, BBC
- (Saesneg) Amnesty International - Public statement on Wormwood Scrubs
- (Saesneg) The Home Office - HMP Wormwood Scrubs - Significant improvements under pressure Archifwyd 2005-03-01 yn y Peiriant Wayback