Wynne Samuel
Gwleidydd o Gymru oedd Wynne Islwyn Samuel (1912 – 5 Mehefin 1989).
Wynne Samuel | |
---|---|
Ganwyd | 17 Hydref 1911 Ystalyfera |
Bu farw | 5 Mehefin 1989 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gweithredydd gwleidyddol, gwleidydd, bargyfreithiwr |
Wedi'i eni yn Ystalyfera, bu farw rhieni Samuel pan yn ifanc. Aeth i Ysgol Ramadeg Ystalyfera, a daeth yn ddiacon a phregethwr lleyg yn Eglwys y Bedyddwyr. Er iddo gael cynnig chwarae dros Clwb Criced Morgannwg, cafodd ei berswadio i beidio â gwneud hynny gan ei fodryb. Daeth yn glerc i Gyngor Tref Abertawe yn lle hynny.[1].
Ymunodd Samuel â Plaid Cymru yn y 1930au cynnar a daeth yn weithredol yn y blaid pan gollodd ei swydd wrth iddo wrthod arwyddo datganiad yn cefnogi Yr Ail Ryfel Byd. Samuel oedd trefnydd y blaid yn neheubarth Cymru o 1940 tan 1950, gan olygu The Welsh Nation, sef cylchgrawn Saesneg y blaid, ac yn cyfrannu at Y Ddraig Goch.
Bu Samuel yn un o gynghorwyr cyntaf Plaid Cymru yn y deheubarth. Safodd yn etholaeth Castell-Nedd yn yr is-etholiad yn 1945 (gan ennill 16.2% o bleidleisiau), a'r etholiad cyffredinol hefyd yn 1945; yn is-etholiad Aberdâr yn 1946 a'r etholiadau cyffredinol yna yn 1950 a 1951. Safodd ym Mhenfro yn 1970 ond chafodd e erioed ei ethol i Dŷ'r Cyffredin.[1].
Yn ei ganol oed, enillodd raddau yn y gyfraith (Ll.B a Ll.M) o Prifysgol Llundain. Enillodd ddoethuriaeth gan Brifysgol Genedlaethol Iwerddon am ei waith am Cyfraith Hywel ac anerchodd sawl gwaith ar statws menywod o fewn Cyfraith Hywel. Cafodd ei alw i'r bar yn 1956 a chafodd cynnig swydd gan y Cenhedloedd Unedig yn Genefa.
Fe ddaeth yn gynghorydd cyfreithiol Cyngor Sir Dyfed pan ffurfiwyd yn 1974 tan iddo ymddeol, a fe oedd sylfaenydd Cymdeithas Bro a Thref Cymru.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Dr John Graham Jones, "SAMUEL, WYNNE ISLWYN", Welsh Biography Online