Agor y brif ddewislen
Wikipedia
Argraffiad Swlw Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd

Mae Swlw (isiZulu yn Swlw) yn iaith a siaredir yn Affrica Ddeheuol (yn arbennig yn Ne Affrica, ond hefyd yn Gwlad Swasi a Mosambic, yn bennaf gan grŵp ethnig y Zulu). Mae'n perthyn i deulu ieithyddol yr ieithoedd Niger-Congo ac is-deulu’r ieithoedd Bantŵ.

Mae tri phrif fath o gytsain glec yn Swlw sy'n cyfateb yn fras i Q, C a X. Un o ieithoedd swyddogol De Affrica ydy hi. Deellir Swlw gan siaradwyr Xhosa a Swati hefyd, oherwydd i'r ieithoedd hynny berthyn i grwp Nguni yr ieithoedd Bantŵ. Tua 10 miliwn o bobl sydd yn medru Swlw yn Ne Affrica.

Creole GautengGolygu

Ceir tafodiaeth neu creole sy'n seiliedig ar ramadeg Swlw yn maestrefi talaith Gauteng ac yn enwedig Soweto. Ei enw yw isiCamtho. Cyfeirir ato hefyd, weithiau, gan y term sydd wedi dod yn generic i ddatblygiadau tafodiaeth o'r fath fel Tsotsitaal.


CyfeiriadauGolygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am iaith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Affrica. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato