Thabo Mbeki
Gwleidydd o Dde Affrica a fu'n Arlywydd o 1999 hyd 2008 yw Thabo Mvuyelwa Mbeki (ganed 18 Mehefin 1942).
Thabo Mbeki | |
---|---|
Ganwyd | 18 Mehefin 1942 Mbewuleni |
Dinasyddiaeth | De Affrica |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd, economegydd |
Swydd | Deputy President of South Africa, Aelod o Gynulliad Cenedlaethol De Affrica, Chairperson of the African Union, Arlywydd De Affrica, Cadeirydd-mewn-Swydd y Gymanwlad, Secretary General of the Non-Aligned Movement |
Prif ddylanwad | Nelson Mandela |
Plaid Wleidyddol | African National Congress |
Tad | Govan Mbeki |
Mam | Epainette Mbeki |
Priod | Zanele Dlamini Mbeki |
Gwobr/au | Marchog Cadlywydd Urdd y Baddon, Marchog Croes Fawr Urdd San Fihangel a San Siôr, Champions of the Earth, Uwch Groes y Marchog gyda Choler Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Order of Excellence, Order of the Eagle of Zambia, honorary doctor of the Peoples' Friendship University of Russia, doethur anrhydeddus Prifysgol Glasgow, honorary doctor of the University of Johannesburg, honorary doctor of the University of Sussex, honorary doctorate from the University of Nice-Sophia Antipolis, Order of Good Hope, Urdd y Baddon, Urdd San Fihangel a San Siôr, Urdd Sant Ioan, Urdd Anrhydedd Gweriniaeth yr Eidal, Urdd José Martí |
llofnod | |
Ganed Mbeki yn Idutywa, yn fab i Govan Mbeki, a sefydlodd adran ieuenctid yr ANC gyda Nelson Mandela. Daeth yn aelod o'r ANC ei hun, a threuliodd 28 mlynedd mewn alltudiaeth. Yn y cyfnod yma, astudiodd economeg ym Mhrifysgol Sussex yn Lloegr, yna'n gweithio i'r ANC yn Llundain. Yn 1970, symudodd i'r Undeb Sofietaidd. Roedd yn flaenllaw yn y trafodaethau gyda llywodraeth De Affrica a arweiniodd at ddiwedd apartheid ac ethol Nelson Mandela yn Arlywydd yn 1994.
Olynodd Mbeki ei gyfaill Mandela fel Arlywydd ar 16 Mehefin 1999. Beirniadwyd ef yn 2000 oherwydd ei gred nad oedd yr afiechyd AIDS yn cael ei achosi gan y feirws HIV. Credai ef y byddai ymladd yn erbyn tlodi yn fwy effeithiol nag ymladd yn erbyn HIV i leihau AIDS.
Ymddiswyddodd Mbeki fel Arlywydd ar 25 Medi 2008, yn dilyn dyfarniad gan farnwr fod Mbeki wedi bod a rhan yn y penderfyniad i erlyn Jacob Zuma am dderbyn llwgrwobrwyon, a bod hyn ar sail wleidyddol am fod Zuma yn wrthwynebydd gwleidyddol. Olynwyd ef gan Kgalema Motlanthe.
Swyddi gwleidyddol | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Nelson Mandela |
Arlywydd De Affrica 14 Mehefin 1999 – 24 Medi 2008 |
Olynydd: Kgalema Motlanthe |