Y Bibyl Ynghymraec
Testun rhyddiaith Cymraeg Canol yw Y Bibyl Ynghymraec. Cyfieithiad ydyw o ran o'r Promptuarium Bibliae gan y diwinydd Ffrengig Petrus Pictaviensis, enghraifft o Biblia pauperum ("Beiblau'r tlodion"), sy'n cynnwys crynodeb o enwau, achau, a straeon y Beibl Cristnogol, o'r cread hyd at ferthyru'r saint Pedr a Paul. Deillia mwyafrif y testun o lyfrau hanesiol y Beibl ond ceir peth deunydd o'r Apocryffa a gwaith awduron fel Josephus ac Orosius.[1]
Ymddangosir yn aml mewn llawysgrifau gerllaw Ystorya Dared, Brut y Brenhinedd, a Brut y Tywysogyon, sy'n awgrymu bod ysgolheigion yr Oesoedd Canol yn ei gwerthfawrogi fwy fel ffynhonnell hanesyddol yn hytrach na thestun crefyddol. Ychwanegwyd cyswllt at chwedl gychwynnol Ynys Brydain yn y testun Cymraeg drwy olrhain achau Eneas Ysgwydwyn, un o gyndadau Brutus, yn ôl at Jaffeth, mab Noa.[2] Mae rhan olaf Y Bibyl Ynghymraec hefyd yn olrhain achau Ylus at Priam, Brenin Caerdroea, yr hyn a draethodir ei hanes yn Ystorya Dared.[3]
Ceir yr enghraifft gyflawnaf o Y Bibyl Ynghymraec yn llawysgrif Peniarth 20 o hanner cyntaf y 14g. Mewn fersiwn hirach ohono, a gopiwyd yn yr 16g gan Thomas Wiliems, Trefriw, ceir cyfieithiad Cymraeg o Lyfr Genesis ar ddechrau'r gwaith.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Brut y Tywysogion Archifwyd 2020-08-04 yn y Peiriant Wayback, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Adalwyd ar 28 Ionawr 2019.
- ↑ 2.0 2.1 John T. Koch (gol.), Celtic Culture: A Historical Encyclopedia (Santa Barbara, Califfornia: ABC-CLIO, 2006), t. 213.
- ↑ Patricia Williams (gol.), Historical Texts from Medieval Wales (Llundain: Modern Humanities Research Association, 2012), t. xxiv.
Darllen pellach
golygu- Thomas Jones (gol.), Y Bibyl Ynghymraec, sef cyfieithiad Cymraeg Canol o'r 'Promptuarium Bibliae' (Caerdydd, 1940).