Y Blaid Democrataidd Cenedlaethol a Llafur

Roedd Y Blaid Democrataidd, Cenedlaethol a Llafur (Saeneg: National Democratic and Labour Party) a adweinir wrth y llythyrau NDP yn blaid wleidyddol fyrhoedlog yn y Deyrnas Unedig.

Y Blaid Democrataidd Cenedlaethol a Llafur
Enghraifft o'r canlynolplaid wleidyddol Edit this on Wikidata
Daeth i ben1922 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1918 Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Gwreiddiau'r Blaid golygu

Cododd y blaid allan o rwyg yn y Blaid Sosialaidd Brydeinig, yn bennaf oherwydd agweddau tuag at y Rhyfel Byd Cyntaf. Ym 1915 ffurfiwyd Pwyllgor Amddiffyn Cenedlaethol Sosialaidd gan y sosialwyr blaenllaw Victor Fisher, Alexander M. Thompson a Robert Blatchford. Bwriad y pwyllgor oedd cefnogi y syniad tragwyddol o genedligrwydd a hyrwyddo mesurau sosialaidd yn ymdrech y rhyfel.[1]

Ym 1916, ffurfiodd y pwyllgor Cynghrair Gweithwyr Prydain a oedd yn disgrifio ei hun fel grŵp llafur gwladgarol ac yn canolbwyntio ar enyn cefnogaeth i'r rhyfel a'r Ymerodraeth Brydeinig. Roedd y Gynghrair yn cael ei ariannu gan yr Arglwydd Milner, ac yn cael ei gefnogi gan Aelodau Seneddol Llafur megis William Abraham, James O'Grady a Stephen Walsh. Nod y Gynghrair oedd herio heddychwyr a oedd am fod yn ymgeiswyr Seneddol Llafur. Roedd un ar ddeg o'r 38 AS Llafur yn rhoi eu cefnogaeth i Gynghrair Gweithwyr Prydain, gan achosi rhwyg yn y Blaid Lafur er bod y mwyafrif wedi aros yn driw i Lafur pan drodd y pwyllgor yn blaid wleidyddol.

Ym 1918 penderfynodd y Blaid Lafur i ymadael a'r Llywodraeth Clymblaid a fu'n llywodraethu ar adeg y Rhyfel, ond fe wrthododd George Barnes, AS Glasgow Blackfriars ac arweinydd y Blaid Lafur i ymadael gan ymddiswyddo o'r Blaid Lafur swyddogol a sefyll fel Llafur y Glymblaid yn Etholiad Cyffredinol 1918

Er mwyn dangos eu cefnogaeth i Barnes trodd Cynghrair Gweithwyr Prydain i mewn i'r Blaid Democrataidd Cenedlaethol a Llafur. Enillodd y grŵp gefnogaeth Undeb y Cerddorion a rhannau o undebau eraill, gan gynnwys rhai adrannau o Ffederasiwn Glowyr Prydain.[2][3]

Yn etholiad cyffredinol 1918 safodd wyth ar hugain o ymgeiswyr yn enw'r Blaid Democrataidd Cenedlaethol a Llafur neu yn enw Llafur y Glymblaid gan gipio deg sedd.

Aelodau Seneddol golygu

Diwedd y Blaid golygu

Etholiad Cyffredinol 1922 penderfynodd Barnes i beidio ac amddiffyn ei sedd a safodd gweddill yr Aelodau Seneddol yn enw'r Blaid Ryddfrydol Genedlaethol. Cafodd y blaid ei ddirwyn i ben yn ffurfiol ym 1923.

Cyfeiriadau golygu

  1. John Callaghan, Socialism in Britain (1990), t. 74.
  2. By any other Name LLGC Papurau Cymru arlein Merthyr Pioneer 8 Mehefin 1918 [1] Adalwyd 21 Rhagfyr 2014
  3. Peter Barberis, John McHugh, Mike Tyldesley entry on British Workers League Encyclopedia of British and Irish Political Organizations (Continuum International Publishing Group, 2005), t. 274.