Testun traddodiadol ym mhaentiadau Tsieina yw Y Blaswyr Finegr (Tsieineeg: 三酸圖/三酸图 "llun y tri sur"; 嘗醋翁/尝醋翁 "hen ddynion yn blasu finegr"; 嘗醋圖/尝醋图 "llun blasu'r finegr"), a ymledodd wedyn i wledydd eraill Dwyrain Asia.

Y Blaswyr Finegr
Enghraifft o'r canlynolthema mewn celf Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Mae llun Y Blaswyr Finegr yn dangos Conffiwsiws, Bwdha a Laozi dros gafn o finegr. Maent yn ystyried y finegr yn sur, yn chwerw ac yn felys yn eu tro.
Llun gan un o arlunwyr ysgol Kanō, Japan, cyfnod Muromachi, 16eg ganrif.

Mae'r ddelwedd alegorïaidd hon yn dangos tri hen ddyn yn blasu finegr, ond gall hunaniaeth y tri dyn amrywio. Mae fersiynau Tsieineaidd yn aml yn dehongli mai Su Shi, Huang Tingjian a mynach o'r enw Foyin ydyn nhw. Mae amrywiadau eraill yn darlunio'r tri dyn fel sylfaenwyr prif draddodiadau crefyddol ac athronyddol Tsieina: Conffiwsiaeth, Bwdhaeth a Thaoaeth. Mae'r tri dyn yn rhoi eu bysedd mewn cafn o finegr ac yn ei flasu. Mewn ymateb, golwg sur sydd ar wyneb un dyn, golwg chwerw sydd ar un arall a golwg felys sydd ar yr un olaf. Dyma Gonffiwsiws, Bwdha a Laozi yn eu tro ac mae golwg pob un yn cynrychioli agwedd amlycaf ei athroniaeth. Roedd Conffiwsiaeth yn meddwl bod bywyd yn rhywbeth sur a bod angen rheolau i gywiro dirywiad pobl. Roedd Bwdhaeth yn ystyried bywyd yn chwerw ac yn llawn poen a dioddefaint oherwydd dibyniaeth pobl ar eu heiddo a'u chwant materol. Gwelai Taoaeth fywyd yn felys gan ei fod yn berffaith yn y bôn yn ei gyflwr naturiol. Dehongliad arall o'r paentiad yw, gan fod y tri dyn yn ymgasglu o amgylch un gafn o finegr, mai'r un yw'r tair athrawiaeth.

Dehongliadau

golygu
 
Paentiad gan Kanō Isen'in.
Japan, cyfnod Edo, 1802-1816.

Conffiwsiaeth

golygu

Roedd Conffiwsiaeth yn ystyried bywyd yn rhywbeth sur. Credai fod angen rheolau i gywiro dirywiad pobl, bod y presennol yn anghydnaws â'r gorffennol ac nad oedd gan y llywodraeth na'r werin ddealltwriaeth o ffordd y Nefoedd. Credai mai addoli'r hynafiaid oedd yr ateb cywir i hyn oll.[1]

Roedd Conffiwsiaeth, am ei bod yn ymwneud â'r byd corfforol, yn gweld y finegr fel "gwin llygredig".

Bwdhaeth

golygu

Yn ystod pregeth gyntaf Bwdha, datganodd: "nad eithafon ymfoddhad nac eithafon asgetigiaeth oedd yn dderbyniol fel ffordd o fyw ac y dylid osgoi'r eithafon hyn a cheisio byw yn y ffordd ganol. Felly, nid cyrraedd cyflwr dedwydd mewn rhyw nefoedd yw nod ymarfer Bwdhaeth, ond yn hytrach, diddymu taṇhā [yn fras, "chwant, blys"]. Unwaith y diddymir taṇhā, fe ryddheir unigolyn o gylch bywyd (geni, diddodef, marw ac aileni)"[2], dim ond yna y byddent yn cyrraedd Nirfana

Gan fod Bwdhaeth yn ymdrin â'r hunan felly, dehonglir ei bod yn gweld y finegr yn llygru corff yr un sy'n ei flasu oherwydd ei flas eithafol. Dehongliad arall o'r ddelwedd yw bod Bwdhaeth yn adrodd y ffeithiau fel y maent, sef mai finegr yw finegr ac nad yw'n felys ar y tafod. Mae honni ei fod yn felys yn gwadu'r gwirionedd tra bo ymateb yn negyddol i'w surni yr un mor niweidiol.

Taoaeth

golygu
 

Mae Taoaeth yn ystyried bywyd yn felys oherwydd ei fod yn berffaith yn y bôn yn ei gyflwr naturiol.

O safbwynt Taoaeth, mae surni a chwerwder yn deillio o'r meddwl ymyrgar ac anystyriol. Melys yw bywyd ei hunan pan gaiff ei ddeall a'i ddefnyddio am yr hyn ydyw. Dyna neges "Y Blaswyr Finegr".

—Benjamin Hoff, The Tao of Pooh

Yn llun Y Blaswyr Finegr, mae golwg felys ar Laozi o ganlyniad i sut mae dysgeidiaeth Taoaeth yn gweld bodolaeth. Mae pob peth naturiol yn dda yn ei hanfod cyn belled ag y parhao'n driw i'w natur. Mae'r safbwynt hwn yn caniatáu i Laozi brofi blas y finegr heb ei farnu. Efallai ei fod yn meddwl, "Ah, dyma finegr!" Golyga'r safbwynt hwn nad oes angen i'r blas fod yn felys, yn sur, yn chwerw nac yn ddiflas. Yn syml, blas finegr ydyw. Trwy brofi finegr yn ddidduedd fel finegr, mae Laozi yn cydnabod ac yn cymryd rhan yng nghytgord natur. Gan mai dyma nod Taoaeth, beth bynnag fo blas finegr, mae'r profiad yn un da.

Wrth wraidd athrawiaeth Taoiaeth, mae'r cysyniad o'r Tao neu "y ffordd". Yn ôl athroniaeth Daoaidd, mae pob dim yn tarddu o'r Tao hwn. Mae'r Tao yn hollgynhwysol, yn bodoli unrhyw le ac ym mhobman er ei fod yn anweledig. Mae'n esgor ar y cyfan sydd yn bodoli, sydd wedyn yn esgor ar bopeth sydd ynddo. Fel hyn felly, y grym gyriadol y tu ôl i bopeth yw'r Tao.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Huston Smith, The World's Religions (Efrog Newydd: Harper Collins, 1958), t.8
  2. Lewis M. Hopfe, Religions of the World (Pearson Prentice Hall, 2007), t.176