Y Blitz yng Nghymru

Cyfnod o fomio parhaus gan Natsïaid yr Almaen rhwng y 7fed o Fedi 1940 a'r 10fed o Fai 1941 yn ystod yr Ail Ryfel Byd oedd y Blitz. Mae'r enw yn dalfyriad o Blitzkrieg, y geiriau Almaeneg am "fellt" a "rhyfel".[1]

Adnoddau Dysgu
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma
CBAC
Datblygu Rhyfela
Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg

Y ddwy dref a fomiwyd waethaf ac yn fwyaf cyson yng Nghymru oedd Abertawe a Chaerdydd. Am dair noson ym mis Chwefror 1941, ymosododd 250 o awyrennau’r Almaen ar Abertawe gan ollwng 1,320 o fomiau ffrwydrol a thua 56,000 o fomiau tân.

Bwriad gwreiddiol y cyrch oedd dinistrio dociau’r dref a’i ffatrïoedd diwydiannol trwm, ond collodd yr Almaenwyr eu targedau gan fomio canol Abertawe yn lle hynny. Roedd y bomiau tân wedi achosi cymaint o danau fel ei bod yn bosibl eu gweld dros hanner can milltir i ffwrdd. Bu farw llawer o sifiliaid (tua 387), a dinistriwyd llawer iawn o adeiladau’r dref. Dioddefodd Caerdydd hefyd. Mewn un cyrch, ar 2 Ionawr 1941, lladdwyd 151 o ddynion, 147 o fenywod a 47 o blant, a dinistriwyd tua 600 o dai.[2]

Caerdydd golygu

 
Trigolion Abertawe, ychydig cyn neu ar ôl y bomio.

Rhwng Gorffennaf 1940 a mis Mawrth 1944 gollyngwyd tua 2,100 o fomiau ar ddinas Caerdydd, gan ladd 355 o sifiliaid. Difrodwyd tua 33,000 o dai a dinistriwyd dros 500. Y prif darged oedd y dociau, ond bu sawl ymosodiad ar ochr orllewinol y ddinas, yn enwedig ardal Treganna a Glanyrafon lle lladdwyd 50 o bobl mewn un stryd – Stryd De Burgh – ar 3 Ionawr 1941. Honnodd yr Almaenwyr eu bod yn dial ar ôl i Brydain fomio Bremen.

Bu llai o gyrchoedd awyr yn 1943, ond un o’r mwyaf nodedig oedd ymosodiad a ddigwyddodd ar 17 Mai. Credwyd bod yr Almaenwyr yn talu’r pwyth yn ôl am gyrchoedd enwog y Dambusters ar ganolfannau diwydiannol ac argaeau trydan dŵr yr Almaen. Yng Nghymru y cafodd aelodau’r RAF eu hyfforddi ar gyfer y cyrchoedd hyn. Datblygodd y cynllunydd awyrennau Barnes Wallis y ‘bom sboncio’ (bouncing bomb), ar ôl cynnal profion ar argae Nant y Gro yng Nghwm Elan, ger Rhaeadr Gwy, Powys. Hwn oedd y bom a ddinistriodd ac a ddifrododd rai o brif argaeau’r Almaen adeg yr Ail Ryfel Byd.

Abertawe golygu

Gweler hefyd: Blitz Abertawe

Cafodd Abertawe ei thargedu rhwng mis Mehefin 1940 a mis Chwefror 1943, a dioddefodd 44 cyrch awyr. Parodd yr ymosodiad gwaethaf dros dair noson ym mis Chwefror 1941, gan ddinistrio hanner canol y dref. Cafodd 30,000 o fomiau eu gollwng; llosgwyd 575 busnes; dinistriwyd 282 o dai a difrodwyd 11,084 ymhellach. Lladdwyd 227 o bobl, ac roedd 37 o’r rhain o dan 16 oed. Dinistriwyd rhannau mawr o Frynhyfryd, Townhill a Manselton. Roedd Caerdydd ac Abertawe yn dargedau amlwg oherwydd eu dociau a'u gweithfeydd diwydiannol, ond ymosodwyd ar fannau eraill hefyd. Bomiwyd ffatrïoedd ordnans, purfeydd olew, gweithfeydd mwyngloddio a hyd yn oed cymunedau gwledig, fel arfer gan awyrennau a oedd ar goll neu’r rhai a oedd yn awyddus i ollwng eu bomiau cyn hedfan adref.

Ardaloedd eraill yng Nghymru golygu

Yn Sir Gaernarfon, a oedd yn agos at lwybr hedfan yr awyrennau bomio ar eu ffordd i Lerpwl, lladdwyd pump o bobl mewn cyrchoedd bomio yn ystod y rhyfel. Ym mis Ebrill 1941, collodd 27 o bobl eu bywydau mewn cyrch yng Nghwm-parc yn y Rhondda; roedd chwech ohonynt yn blant, gan gynnwys pedwar faciwî.

Amcangyfrifon Cymru, Mehefin 1940-Mai 1944 golygu

Lleoliad Marwolaethau Anafiadau
Abertawe 387 412
Caerdydd 355 502
Casnewydd 51 63
Morgannwg 82 120
Penfro 45 42
Mynwy 25 36
Dinbych 18 10
Caerfyrddin 14 13
Caernarfon 5 14
Y Flint 3 6
Mon 0 3
Cyfanswm 985 1,221

Cyfeiriadau golygu

  1. BBC History-The Blitz
  2. "Datblygu Rhyfela" (PDF). CBAC. Cyrchwyd 15 Chwefror 2020.