Y Cleciwr
Rhaglen gomedi ddychanol oedd Y Cleciwr a ddarlledwyd ar S4C rhwng 1985 ac 1988. Cynhyrchwyd y gyfres gan HTV Cymru.
Y Cleciwr | |
---|---|
Genre | Comedi dychanol |
Gwlad/gwladwriaeth | Cymru |
Iaith/ieithoedd | Cymraeg |
Nifer cyfresi | 4 |
Cynhyrchiad | |
Amser rhedeg | 30 munud |
Cwmnïau cynhyrchu |
HTV Cymru |
Darllediad | |
Sianel wreiddiol | S4C |
Fformat llun | 576i (4:3 SDTV) |
Rhediad cyntaf yn | 1985 – 1988 |
Roedd y gyfres wedi ei osod mewn swyddfa cylchgrawn dychmygol ac yn bwrw golwg ar ddigwyddiadau'r wythnos drwy sgetsus a chaneuon dychanol. Roedd y perfformwyr yn cynnwys Bryn Fôn, Sara Harris-Davies, Siwan Jones, Dyfan Roberts, Sian Naiomi ac Emyr Roberts.[1]