Dyfan Roberts
Actor a chynhyrchydd o Gymru yw Dyfan Roberts (ganwyd Mehefin 1949). Mae'n adnabyddus am chwarae'r brif ran yn Un Nos Ola Leuad ac fel llais yr adroddwr ar Superted. Roedd Dyfan yn un o sylfaenwyr Theatr Bara Caws a bu'n actio yng nghynyrchiadau cynnar Cwmni Theatr Cymru o'r 1970au. Ym mis Mai 2009, dechreuodd weithio fel Swyddog Datblygu'r Celfyddydau ym Mhrifysgol Bangor.
Dyfan Roberts | |
---|---|
Ganwyd | Dyfan Edwards Roberts Mehefin 1949 Dolgellau |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, cynhyrchydd teledu, dynwaredwr, actor llais |
Bywyd cynnar
golyguFe'i magwyd yn Nolgellau ac aeth i'r Ysgol Ramadeg yn y dref (Ysgol y Gader erbyn hyn).[1]. Mae'n frawd i'r canwr gwerin Arfon Gwilym.
Gyrfa
golyguYmunodd â Chwmni Theatr Cymru yn 1970, cwmni oedd yn cael ei arwain gan Wilbert Lloyd Roberts, ac am bedair blynedd roedd y cwmni yn teithio yn creu perfformiadau mewn neuaddau pentre a neuaddau ysgol. Agorwyd Theatr Gwynedd ym Mangor yn Rhagfyr 1974 gan greu cartref proffesiynol i theatr yng ngogledd-orllewin Cymru. Roedd Dyfan yn un o'r actorion cyntaf i berfformio ar lwyfan y theatr a'r cynhyrchiad proffesiynol cyntaf yno oedd pantomeim Pwyll Gwyllt gyda Dyfan yn chwarae'r prif gymeriad 'Gwenyn'.[2]
Roedd yn un o sefydlwyr Cwmni Theatr Bara Caws yn 1976.
Yn yr 1980au roedd yn nodedig fel digrifwr a dynwaredwr ar nifer o raglenni adloniant S4C yn cynnwys Goglis, Y Cleciwr, Plu chwithig, Sebon a bocs a Tebyg at ei debyg. Bu'n cydweithio gyda Caryl Parry Jones ar raglenni comedi fel Caryl a Dyfan yn y bocs, Bocs Dolig Caryl a Dyfan a oedd yn dynwared sêr S4C y cyfnod.
Mae wedi lleisio nifer o gymeriadau ar gyfer cartwnau a drosleisiwyd i'r Gymraeg yn cynnwys Asterix, Sion Hafard - Gofotwr a Smot.
Yn y 1990au cychwynnodd gwmni teledu Llun y Felin gyda'i wraig Angela. Cynhyrchodd y cwmni cyfresi plant fel Anturiaethau Jini Mê, Cabarê Cwasar, Bolgi Bach ac Yr Awr Cyn y Wawr[3] yn ogystal a'r ffilm Y Mynydd Grug (1997).
Ffilmyddiaeth
golygu- The Corn Is Green (1979) (ffilm deledu) .... Gwyn
- Superted (1982) (cyfres deledu, animeiddio) .... Adroddwr
- Anturiaethau Syr Wynff a Plwmsan (1982) (cyfres deledu) .... Heddgeidwad, Postman Robaji, cymeriadau eraill
- The District Nurse (1984) (cyfres deledu, 1 pennod) .... Shwn Rodway
- Penyberth (1985) (drama deledu, BBC Cymru)
- Stormydd Awst (1988) (ffilm deledu)
- Anturiaethau Jini Mê (1991) (cyfres deledu) .... Adroddwr
- Un Nos Ola' Leuad (1991) .... Dyn
- The Cormorant (1993) (teledu) .... Glyn
- Brad (1994) (ffilm deledu) ....Adolf Hitler
- Byd Guto Gwningen a'i Gyfeillion (1994) (animeiddio, 1 pennod) .... Teiliwr Caerloyw, Llygod, lleisiau eraill
- Smot a Swyn y Nadolig (1996) (animeiddio) .... Sam, Bili, Siôn Corn, lleisiau eraill
- Nodi - Anturiaethau Gwlad y Teganau (1996) (animeiddio, 5 pennod) .... Adroddwr, Cled Clustiau, Wil Tŷ Croes, Mr. Eli yr Eliffant, Tybi Bach, Ging-Grong y Coblin, Clown Cloc, Jac y Ffermwr, lleisiau eraill
- Y Mynydd Grug (1997) .... Stiward
- Smot yn y Carnifal (1998) (animeiddio) .... Sam, Taid, Bili, lleisiau eraill
- Tecwyn y Tractor (1998) (cyfres deledu) .... Llais
- Porc Peis Bach (2000) (cyfres deledu) .... Arwerthwr
- Dic a Dei a Delyth (2001) (animeiddio) .... Llais
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Pum Cynnig i Gymro, addasiad Dyfan Roberts o lyfr John Elwyn Jones. Art Scene in Wales (19 Chwefror 2015). Adalwyd ar 26 Awst 2016.
- ↑ Cofio cartre'r theatr Gymraeg , BBC Cymru Fyw, 27 Ebrill 2016. Cyrchwyd ar 26 Awst 2016.
- ↑ Codi Stiwdio. Eco'r Wyddfa (Tachwedd 1995). Adalwyd ar 26 Awst 2016.