Coleg Penybont
Mae Coleg Penybont (Saesneg: Bridgend College) yn goleg addysg bellach wedi'i leoli ym Mhen - y - bont ar Ogwr, ym Morgannwg. Fe'i sefydlu ym 1928 fel Sefydliad Mwyngloddio a Thechnegol Pen-y-bont ar Ogwr, [1] mae gan y coleg heddiw bedwar campws: y nhref Pen-y-bont ar Ogwr, Pencoed, Heol y Frenhines a Maesteg .
Math | coleg |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Pen-y-bont ar Ogwr |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.5°N 3.57°W |
Ar hyn o bryd mae'r coleg yn cyflwyno darpariaeth ar gyfer dros 6,000 o fyfyrwyr ac yn cyflogi dros 700 o aelodau staff ar draws ei bedwar campws. Cafodd ei enwi yn Goleg AB y Flwyddyn y Times Educational Supplement yn 2019. [2] Mae'r Coleg yn aelod o rwydwaith y sector, ColegauCymru.
Campysau
golyguMae'r Coleg wedi ei rhannu ar bedwar gwahanol gampws, dau yn nhref Penybont ei hun, a dau mewn trefi cyfagos.
- Campws Pen-y-bont ar Ogwr (51°29′59″N 3°34′20″W / 51.4997°N 3.5721°WCyfesurynnau: 51°29′59″N 3°34′20″W / 51.4997°N 3.5721°W )
- Campws Pencoed (51°31′33″N 3°29′24″W / 51.5259°N 3.4899°W )
- Campws Heol y Frenhines51°29′54″N 3°33′12″W / 51.4984°N 3.5532°W
- Campws Maesteg51°36′36″N 3°39′30″W / 51.6101°N 3.6583°W
Gweithrediadau
golyguYn 2017, sefydlodd Coleg Pen-y-bont bartneriaeth ag Ysgol Gyfun Pencoed i greu Coleg Chweched Dosbarth Pen-y-bont. [3] Trwy'r bartneriaeth, derbyniodd 29.3% o fyfyrwyr radd A*- A tra sicrhaodd 83.8% ganlyniadau A*-C. Y radd a dderbyniwyd ar gyfer A* - E oedd 99.4%.
Ym mis Ionawr 2019, datgelodd Coleg Pen-y-bont gynlluniau ar gyfer adeiladu Academi STEAM newydd ar Gampws Pencoed, a fydd yn agor ym mis Medi 2021. [4] Bydd yr academi yn adeilad newydd a fydd yn cynnwys cyfleusterau addysgu, dysgu a chymorth ar gyfer Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, y Celfyddydau a Mathemateg. [4]
Ym mis Gorffennaf 2019, torrodd y coleg 34 o swyddi a chaeodd ei Academi Gelfyddydau Caerdydd oedd wedi gwneud colled oherwydd "heriau ariannol". [5]
Ym mis Gorffennaf 2020 cyhoeddwyd y byddai ysgolion uwchradd Pen-y-bont ar Ogwr yn cadw eu chweched dosbarth, yn hytrach nag agor un ganolfan chweched dosbarth ar gyfer y sir. Yn lle hynny, mae canolfan ragoriaeth yn cael ei hystyried ar Gampws Pencoed Coleg Pen-y-bont ar Ogwr. [6]
Cyrsiau
golyguMae Coleg Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig Diplomâu, is-ddiplomâu, Diplomâu estynedig, Tystysgrifau, Safon Uwch, Dyfarniadau, cymwysterau proffesiynol ac NVQs . Mae'r coleg hefyd yn cynnig cyrsiau addysg uwch, gan gynnwys HNCs, HNDs, Graddau Sylfaen a Graddau a ddyfernir trwy Brifysgol De Cymru, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, CMI a Pearson.
Perfformiad
golyguMae'r coleg wedi'i ddilysu'n ddiweddar fel y Coleg Addysg Bellach sy'n Perfformio Gorau ar gyfer pob cymhwyster yng Nghymru gyfan. Daw’r wybodaeth o astudiaeth a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru sy’n rhoi Coleg Penybont ar frig y tabl cynghrair ar gyfer pob cymhwyster, gyda chyfradd llwyddiant o 90.4%.
Ym mis Ebrill 2018, pleidleisiwyd Coleg Pen-y-bont y Coleg AB Gorau yng Ngwobrau WhatUni Student Choice Awards, [7] yn ogystal â bod yn enillwyr balch Gwobr RSM am Arweinyddiaeth a Llywodraethu o Wobr Beacon Cymdeithas y Colegau yn 2017. [8]
Ym mis Medi 2018, lansiodd Coleg Pen-y-bont ar Ogwr raglen interniaeth mewn partneriaeth yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ochr yn ochr â sefydliadau cenedlaethol DFN Project SEARCH, Engage to Change ac Asiantaeth Cyflogaeth â Chymorth Elite. Nod Interniaeth â Chymorth Prosiect SEARCH yw cyflwyno rhaglen amser llawn sy’n cefnogi carfan o ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) i gael blas ar gyflogaeth amser llawn. Mae'r rhaglen wedi'i lleoli o fewn adeilad cyflogwr cynnal ac mae interniaid yn ymgymryd â thri lleoliad gwaith yn ystod y flwyddyn. [9]
Yn 2018, enwyd Campws Heol y Frenhines Coleg Penybont yn Ddarparwr Hyfforddiant Prentisiaeth y flwyddyn ar gyfer Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Y Gymraeg a'r Coleg
golyguMae oddeutu 200 o fyfyrwyr y Coleg yn gallu siarad Cymraeg a rhai staff, ond Saesneg yw prif iaith cyfrwng dysgu y Coleg ond ceir ymrywiad yn unol gyda Safonau’r Gymraeg wyddfa Comisynydd y Gymraeg i roi mynediad cyfartal i wasanaethau a phrofiadau yng Ngholeg Penybont i staff, myfyrwyr ac ymwelwyr sy’n siarad Cymraeg. Cynhelir digwyddiadau ar draws y coleg yn amrywio o ddathlu achlysuron fel Diwrnod Shwmae Sumae, Dydd Santes Dwynwen a Dydd Gŵyl Dewi i’r Clwb Brecwast a’r Clwb Cinio – cyfle i gwrdd â myfyrwyr eraill a staff sy’n siarad Cymraeg, neu sy’n dysgu’r iaith. Mae hefyd gyfle i ennill cymwysterau ychwanegol yn y Gymraeg.[10]
Arweinyddiaeth
golyguArweinir y coleg gan ei Bennaeth a’i Brif Weithredwr, Simon Pirotte, a’r Dirprwy Bennaeth Viv Buckley. [11] Yn 2018 enwyd Priote yn Gyfarwyddwr y Flwyddyn - Sector Cyhoeddus/Trydydd Sector yng Ngwobrau Cyfarwyddwr Cenedlaethol y Flwyddyn Sefydliad y Cyfarwyddwyr . [12] Enwyd Bucklry yn enillydd gwobr Arwain Cymru yn y Sector Cyhoeddus yn 2018. [13]
Cymrodorion Er Anrhydedd
golyguBob blwyddyn mae Coleg Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnal ei wobrau Addysg Uwch ar Gampws Pencoed ac yn anrhydeddu unigolion sydd wedi gwneud cyfraniadau i addysg, y gymuned ac i'r coleg trwy ddyfarnu Cymrodoriaeth er Anrhydedd. Mae Cymrodyr Er Anrhydedd yn cynnwys: [14]
Blwyddyn | Enw |
---|---|
2019 | David Evan Roberts CBE |
2019 | Claire Birkenshaw |
2018 | Neil Robinson OBE |
2018 | Madeleine Moon AS |
2017 | Charles Middleton |
2017 | Richard Parks |
2016 | Barbara Wilding CBE |
2016 | Janice Gregory |
2015 | Menna Richards OBE |
2014 | Helen Jenkins |
2014 | Nathan Stephens |
2013 | Laura McAllister |
2013 | Bill Goldsworthy |
2012 | Steve Dalton OBE |
2012 | Terry Coles |
2012 | Aled Davies |
2011 | Roger Burnell |
2011 | Dr John Graystone |
2010 | John Bevan |
2010 | Stan Peate |
2009 | Carwyn Jones AC |
2008 | Gareth Bray |
2007 | Godfrey Hurley |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Our History". www.southwales.ac.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-08-04.
- ↑ "Bridgend College wins at Tes FE Awards 2019". Tes (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-08-04.
- ↑ "Sixth form shake-up as panel makes post-16 recommendations – Oggy Bloggy Ogwr" (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-08-04.
- ↑ 4.0 4.1 Bradfield, Elizabeth (2019-01-23). "Bridgend College's new academy plans for Pencoed campus". walesonline. Cyrchwyd 2020-08-04.
- ↑ Wightwick, Abbie (2019-07-10). "Bridgend College sheds 34 jobs and shuts Cardiff operation". walesonline. Cyrchwyd 2020-08-04.
- ↑ "County's schools to keep their sixth forms". BBC News (yn Saesneg). 2020-07-22. Cyrchwyd 2020-08-04.
- ↑ "Best Universities 2018 | UK University Rankings by Whatuni". www.whatuni.com. Cyrchwyd 2020-08-04.
- ↑ "Shortlist for 2017-18 Beacon Awards announced". Association of Colleges. 2017-11-02. Cyrchwyd 2020-08-04.[dolen farw]
- ↑ "Project SEARCH Celebrates Double Graduation". ELITE Supported Employment (yn Saesneg). 2019-07-09. Cyrchwyd 2020-08-04.
- ↑ "Y Gymraeg". Gwefan Coleg Penybont. Cyrchwyd 23 Mai 2023.
- ↑ "College aims to support students and staff with their mental health and wellbeing". Glamorgan Gem Ltd (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-08-04.[dolen farw]
- ↑ "National Director of the Year Awards UK Finals WINNERS 2018". Director of the Year 2018 (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-04-03. Cyrchwyd 2020-08-04.
- ↑ "Leading Wales Awards 2018 Winners | The Leading Wales Awards" (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-09-27. Cyrchwyd 2020-08-04.
- ↑ "Honorary Fellows » Bridgend College". Bridgend College (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-09-24. Cyrchwyd 2020-08-04.
Dolenni allanol
golygu- Gwefan Coleg Penybont dwyieithog
- Twitter Coleg Penybont @ColegPenybont (cyfrif Cymraeg)
- Facebook Canolog Coleg Penybont /BridgendCollege
- Facebook Cymraeg Coleg Penybont /CymraegColegPenybont