Teyrnas Rhufain

(Ailgyfeiriad o Y Deyrnas Rufeinig)

Yn ôl traddodiad, sefydlwyd Rhufain ar 21 Ebrill 753 CC gan Romulus a Remus, disgynyddion Aeneas o Gaerdroea. Efeilliaid oeddynt, meibion y duw Mawrth a Rhea Silvia, merch chwedlonol Numitor, brenin Alba Longa. Cafodd yr efeilliaid ifainc eu taflu i Afon Tiber gan Amulius, oedd wedi diorseddu Numitor. Cawsant eu golchi i'r lan a'u magu gan fleiddiast. Yn ddiweddarach fe'u darganfuwyd gan fugail a'u mabwysiadu ganddo.

Teyrnas Rhufain
Mathcyfnod o hanes Edit this on Wikidata
PrifddinasRhufain, Rhufain Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 21 Ebrill 753 CC Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Lladin Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolyr henfyd Edit this on Wikidata
LleoliadLatium Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholLegislative Assemblies of the Roman Kingdom Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
King of Rome Edit this on Wikidata
Crefydd/Enwadardal o fewn Rhufain hynafol Edit this on Wikidata
Romulus a Remus yn cael eu magu gan y fleiddiast.

Yn nes ymlaen sefydlasant ddinas Rhufain ar y llecyn lle cawsant eu golchi i'r lan. Dywedir i Romulus a Remus sefyll ar ddau fryn a gwylio am arwyddion. Gwelodd Remus chwech fwltur, ond gwelodd Romulus ddeuddeg, ac felly ef gafodd osod sylfaen y ddinas. Cododd Romulus y ddinas ar allt Palatein.

Tyfodd y ddinas yn raddol o sefydliadau bychain o gwmpas rhyd dros Afon Tiber. Bu cyfres o frenhinoedd ar Rufain, hyd nes i'r brenin olaf, Lucius Tarquinius Superbus, gael ei ddiorseddu a'i alltudio tua 510 neu 509 CC. Ystyrir hyn fel dechreuad Gweriniaeth Rhufain.

Brenhinoedd Rhufasin golygu

Dyddiadau yn dilyn Marcus Terentius Varro.