Y Dydd Olaf (albwm)
albwm gan Gwenno Saunders
Albwm cyntaf y gantores Gwenno yw Y Dydd Olaf. Rhyddhawyd yr albwm yn Nhachwedd 2014 ar y label Recordiau Peski.
Y Dydd Olaf | |||||
---|---|---|---|---|---|
Albwm stiwdio gan Gwenno | |||||
Rhyddhawyd | Tachwedd 2014 | ||||
Label | Recordiau Peski, Recordiau Heavenly | ||||
Cronoleg Gwenno | |||||
|
- Erthygl am gasgliad o ganeuon gan Gwenno Saunders yw hon, am y nofel wyddonias gan Owain Owain, gweler yma.
Yn dilyn casgliad o EPs dros y ddwy flynedd flaenorol, cafodd albwm cyntaf y frenhines electro-pop ei ryddhau ar ddiwedd 2014. Record gysyniadol wedi’i hysbrydoli gan nofel ffuglen wyddonol Owain Owain, sy’n rhannu enw’r albwm, a ryddhawyd ym 1976. Mae’n record wyddonol, mae’n record alluog, ac mae’n record sy’n torri tir newydd yn y Gymraeg.
Dewiswyd Y Dydd Olaf yn un o ddeg albwm gorau 2014 gan ddarllenwyr cylchgrawn Y Selar.[1]
Canmoliaeth
golyguMae Y Dydd Olaf yn gasgliad o ganeuon sy’n ymddangos, ar yr wyneb efallai, yn bop synthetig, ond tu mewn i’r haenau cymhleth y mae pwll o emosiynau a syniadau dwfn
—Lois Gwenllian, Y Selar
Traciau
golygu- Chwyldro - 5:18
- Patriarchaeth - 3:29
- Calon Peiriant - 5:08
- Sisial Y Môr - 5:41
- Dawns Y Blaned Dirion - 1:30
- Golau Arall - 3:31
- Stwff - 4:59
- Y Dydd Olaf - 4:15
- Fratolish Hiang Perpeshki - 4:37
- Amser - 4:44 (yn Cernyweg)