Y Gorlan (cylchgrawn)

Cylchgrawn Capel Charing Cross, Llundain 1902 - 1965

Cylchgrawn crefyddol, dwyieithog, Capel Methodistiaid Calfinaidd Cymraeg Charing Cross Road, Llundain oedd Y Gorlan. Prif gynnwys y cylchgrawn oedd newyddion o'r capel a'r ysgol Sul, ynghyd ag erthyglau crefyddol. Ymhlith golygyddion y cylchgrawn oedd y gweinidogion Peter Hughes Griffiths (1871-1937), Ebenezer Gwyn Evans (1898-1958) ac J. B. Jenkins. Roedd yn wreiddiol yn gylchgrawn misol daeth yn un chwarterol rhwng 1941-1953 a 1966-1982, ac yn daufisol rhwng Mai 1953 a Thachwedd 1965.[1]

Y Gorlan
CyhoeddwrEglwys Bresbyteraidd Cymru Edit this on Wikidata
IaithCymraeg, Saesneg Edit this on Wikidata
DechreuwydIonawr 1902 Edit this on Wikidata
Daeth i ben1965 Edit this on Wikidata

Archif Ar-lein golygu

Dydy holl rifynnau'r cylchgrawn heb eu cadw neu'u digido. Dim ond y rhifynnau rhwng y rhifyn gyntaf un ym mis Ionawr 1906 a Rhagfyr 1910 sydd i'w darllen ar-lein ar wefan Cylchgronau Cymru Ar-lein, is-wefan gan y Llyfrgell Genedlaethol.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Y Gorlan". Cylchgronau Cymru Ar-lein. Cyrchwyd 1 Chwefror 2024.

Dolenni allanol golygu