Peter Hughes Griffiths

gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac awdur, gŵr Annie Janes Hughes Griffiths

Ganwyd 6 Awst 1871 yn Ffynnon Ynyd, Glan-y-fferi, Sir Gaerfyrddin, mab y Parch. John Griffiths ac Anna ei briod. Cafodd ei addysg ym Mharcyfelfed, Caerfyrddin, a bu mewn siop yn Aberpennar, Morgannwg. Dechreuodd bregethu yno a chafodd addysg bellach yn ysgol y Gwynfryn a Choleg Trefeca. Bu'n weinidog cynorthwyol yn eglwys Bresbyteraidd Saesneg Waterloo, Lerpwl, cyn ei ordeinio yn sasiwn Cwmbwrla, 1900. Bugeiliodd eglwys y Crug Glas, Abertawe, am ddwy flynedd; symudodd i Capel Charing Cross, Llundain, yn 1902, ac yno y bu weddill ei oes. Pregethai'n wreiddiol, a nodweddid ei weinidogaeth gan asbri ysbrydol.[1]

Peter Hughes Griffiths
Ganwyd6 Awst 1871 Edit this on Wikidata
Glan-y-fferi Edit this on Wikidata
Bu farw1 Ionawr 1937 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgweinidog yr Efengyl, ysgrifennwr, cynorthwyydd siop Edit this on Wikidata
PriodAnnie Jane Hughes Griffiths Edit this on Wikidata

Priodi golygu

Priododd ddwywaith. Ei wraig gyntaf oedd Mary Howell o Ben-coed. Ei ail wraig oedd Annie Jane, gweddw T. E. Ellis, Aelod Seneddol Meirionnydd bu farw'n ifanc a disymwth iawn. Adnabu Annie Jane unai wrth ei chyfenw Ellis neu, yn amlach wrth cyfenw ei phriodas â Peter Hughes Griffiths.[1]

Cynghrair y Cenhedloedd golygu

Roedd Peter Hughes Griffiths yn gefnogwr pybur o Cynghrair y Cenhedloedd a sefydlwyd yn dilyn galanst y Rhyfel Byd Cyntaf.

Roedd ei wraig, Annie Jane Hughes Griffiths, hefyd yn weithgar iawn yn cefnogi Cynghrair y Cenhedloedd ac achos heddychiaeth yng Nghymru. Daeth yn ffigwr mwy adnabyddus yn y maes na'i gŵr. Bu iddi arwain dirpwyaeth Apêl Heddwch Menywod Cymru a gynhwysau deiseb o 390,000 o fenywod ar draws Cymru yn galw ar i'r Unol Daleithiau ymuno â Chynghrair y Cenhedloedd er mwyn arwain yn frwydr dros heddwch byd-eang. Yn ôl confensiwn yr oes, fe'i hadnebir weithiau fel 'Mrs Peter Hughes Griffiths'.[2]

Awdur golygu

Ysgrifennodd lawer i'r cylchgronau Cymraeg, a cheir detholiad o'i ysgrifau yn Llais o Lundain 1912. Golygodd Gweithiau Gwilym Teilo (d.d.), ac ymddangosodd Cofiant W. E. Prytherch yn 1937, ar ôl ei farw.[3]

Bu farw 1 Ionawr 1937, a'i gladdu ym mynwent Salem, Pen-coed.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 "Peter Hughes Griffiths". Y Bywgraffiadur Cymreig Arlein. Cyrchwyd 23 Ionawr 2024.
  2. "Plac porffor i ymgyrchydd heddwch o Geredigion". BBC Cymru Fyw. 3 Tachwedd 2023.
  3. "Ffotograff o Peter Hughes Griffiths ar wynebddalen llyfr Cofiant W.E. Prytherch". Gwefan Casgliad y Werin Cymru. Cyrchwyd 23 Ionawr 2024.

Dolenni allanol golygu