Y Groes Naid
Crair gysegredig y credid ei bod yn ddarn o'r Gwir Groes a oedd yn un o greiriau pwysicaf Teyrnas Gwynedd yn yr Oesoedd Canol oedd Y Groes Naid neu Y Groes Nawdd (cyfeirir ati yn Saesneg weithiau fel The Cross of Neith). Roedd yn cael ei chadw er diogelwch yng ngofal mynachod Abaty Aberconwy (a hefyd yn Abaty Cymer ar un achlysur o leiaf) ar ran Tywysogion Gwynedd. Credai'r tywysogion a'r Cymry yn gyffredinol ei bod yn cynnig nawdd ac amddiffyn dwyfol iddynt ac felly daeth i gael ei hystyried yn grair cenedlaethol.
Enghraifft o'r canlynol | crair Cristnogol, croes Gristnogol, staurotheke |
---|---|
Deunydd | pren |
Dechrau/Sefydlu | 920s |
Ni wyddom sut yn union y daeth i Wynedd yn y lle cyntaf, ond un posiblrwydd yw ei bod wedi ei dwyn yn ôl i Gymru o ddinas Rhufain gan y Brenin Hywel Dda pan aeth ar bererindod i'r ddinas sanctaidd tua'r flwyddyn 928. Yn ôl traddodiad, cafodd ei throsglwyddo o dywysog i dywysog hyd amser Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru, a'i frawd Dafydd.[1] Ymddengys fod gan y Groes Naid le arwyddocaol yn seremoni coroni brenhinoedd a thywsogion Gwynedd. Mae'n bosibl hefyd fod arglwyddi Gwynedd a deiliaid eraill o Gymru yn tyngu llw o ffyddlondeb i frenin Gwynedd arni.[2]
Ar ôl goresgyniad Tywysogaeth Cymru a Gwynedd gan Edward I o Loegr a dal a dienyddio Dafydd ap Gruffudd ym Mehefin 1283, cafodd y Groes Naid, a chreiriau crefyddol a seciwlar eraill cysylltiedig â Gwynedd a theulu brenhinol Aberffraw, megis Talaith Llywelyn, ei chipio gan y Saeson. Mae Alms Roll o 1283 yn cofnodi bod clerigwr o'r enw Huw ab Ithel wedi cyflwyno'r Groes i Edward I yn Aberconwy; ymddengys mai gweithred bersonol gan yr ysgolor o Rydychen oedd hynny yn hytrach na chyflwyniad gan yr Abaty ei hun. Bu ym meddiant y brenin Seisnig am weddill ei amser yng Nghymru cyn cael ei dwyn i ddinas Llundain lle cafodd ei harddangos, gyda creiriau eraill o Gymru, mewn gorymdaith fuddugoliaethus ym mis Mai 1285, gyda brenin a brenhines Lloegr, eu plant, arglwyddi mawr a 14 esgob yn cymryd rhan.
Mae ei hanes ar ôl hynny yn ddirgelwch a cheir sawl damcaniaeth yn ei chylch. Mae rhai haneswyr yn tybio iddi gael ei dinistrio ar orchymyn Oliver Cromwell yn 1649 ond mae rhai haneswyr Cymreig yn dadlau fod y Groes dal ar gadw yn Lloegr.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "Law and Government Under the Tudors: Essays Presented to Sir Geoffrey Elton"
- ↑ J. Beverley Smith, Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru (Caerdydd, 1998), tud 236 et seq.
Darllen pellach
golygu- J. Beverley Smith, Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru, 1998), tt. 236, 333-335 a 580-581.
- Calendar of Welsh Rolls, tt. 273-4 0531893631
- T. H. Parry-Williams, Croes Naid, Y Llinyn Arian (Aberystwyth, 1947), 91-94.
- W. C. Tennant, 'Croes Naid', Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru (1951-2), tt. 102-115.
- https://archive.org/details/the-welsh-cross-mystery-2020
- https://www.academia.edu/44309905/The_Welsh_Cross_Mystery_2020_