Grŵp pop o Gaerdydd yn yr 1990au cynnar oedd Y Gwefrau.

Y Gwefrau
Enghraifft o'r canlynolband Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru

Roedd y ddau ddyn; Siôn Lewis ac Huw Bunford yn gyn-aelodau o'r grŵp Edrych am Jiwlia a sefydlwyd yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf. Roedd tair merch yn y band; y ddwy gantores, Gwenllian Lewis (chwaer Siôn) a Rebecca Evans ac yna Pippa Mahoney ar y gitâr ac Owen Stickler ar y drymiau (drymiwr hefyd gyda'r Crumblowers).

Cafwyd sawl cân poblogaidd iawn yn dynwared ac ysbrydoli gan gerddoriaeth ac eiconograffeg yr 1960au.

Rhyddahwyd sawl cân gan label recordiau Ankst a gwnaethpwyd sawl fideo ar gyfer cyfres Fideo 9 a rhaglenni pop eraill S4C.

Aelodau golygu

  • Siôn Lewis - gitâr flaen
  • Huw Bunford - gitâr fâs
  • Pippa Mahoney - gitâr
  • Gwenllian Lewis - llais
  • Rebecca Evans - llais
  • Owen Sticker - drymiwr

Disgyddiaeth golygu

Y Gwefrau (12") - ANKST 010, 1990

Fideos golygu