Gitarydd, cyfansoddwr a chyfarwyddwr o Gymru yw Richard Siôn Pierce Lewis (ganwyd 6 Ionawr 1968), neu Siôn Lewis, neu Siôn Pierce Lewis, neu Sion Pierce Lewis a fu'n gitarydd gyda sawl band Cymraeg, hefyd yn canu a chwarae allweddellau, bâs a sielo.

Siôn Lewis
Ganwyd1968 Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgitarydd, pianydd, sielo, canwr, cyfansoddwr, cyfarwyddwr teledu, athro Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar ac addysg

golygu

Ganed Siôn yng Nghaerdydd. Mae'n fab i'r cyfarwyddwr teledu, Richard Lewis ac yn ŵyr i'r prifardd, L. Haydn Lewis, enillydd y Goron yn Eisteddfodau Y Rhos 1961 ac Barri, 1968. Yn Ysgol Feithrin Conway Road yng Nghaerdydd tua 1971-72 pan oedd yn dair neu bedair oed, gofynodd yr athrawes (bosib taw Eileen James, chwaer Bryan James - dirprwy Glantaf ar un adeg) i feddwl am eiriau ar gyfer pennill arall i'r gân 'Mi welais Jac y Do'. Am fod llyfr Gwasg y Dref Wen Yr Eliffant Pinc a Smotiau Melyn yn y dosbarth, wnaeth Siôn awgrymu "Mi welais eliffant pinc, yn eistedd yn y sinc!" fel jôc. Mae'n rhaid fod hwn wedi sticio a cael ei basio lawr dros y blynyddoedd trwy ysgol Bryntaf wedyn, ac yna ledled Cymru, oherwydd yn eisteddfod Mynyddygarreg tua 2012 clywodd Siôn blentyn (Harri Gibbon mae'n credu) yn canu'r geiriau hynny mewn unawd o'r gân ar y llwyfan, gyda "winc winc winc winc winc winc" wedi eu hychwanegu! Felly pasiwyd y geiriau yma lawr trwy chwedloniaeth o ddyddiau Ysgol Feithrin Heol Conwy, Pontcanna, Caerdydd. Mynychodd Ysgol Gynradd Gymraeg Bryntaf ac Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf (1979-1986), ac wedyn astudiodd Gerddoriaeth ym Mhrifysgol Cymru Caerdydd (Prifysgol Caerdydd bellach)

Bu'n gerddor gyda sawl grŵp pop Cymraeg yn yr 1980au ac 1990au. Roedd yn brif gitarydd a chyfansoddwr Edrych am Jiwlia, Y Gwefrau, Profiad Rhys Lloyd, Y Profiad, Diffiniad a Cwtsh. Dechreuodd chwarae'r Bas gyda U Thant yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, ond ar ôl blwyddyn neu ddwy, ffurfiodd Edrych am Jiwlia gyda Siôn Jobbins, Rhisiart Williams, ac yna Huw Bunford. Bu'n gyfrannydd cerddorol ysbeidiol i Tynal Tywyll a Diffiniad. Yn ogystal â gitâr bu'n canu'r soddgrwth ar sawl cân ac yn canu llais cefndir ac harmoni. Rhyddhawyd sawl un o ganeuon y grwpiau hyn ar Label Ankst. Cyfansoddodd y caneuon 'Y Parchedig Pop' a 'Camu Mlaen' gyda Alun Owens.

Bu'n gyfarwyddwr teledu i sawl cyfres gan gynnwys Pobol y Cwm a Rownd a Rownd, a nifer o raglenni ffeithiol, cerddorol, dogfennol a chwaraeon i Teledu Opus, Rondo Media yn ogystal a chwmniau annibynnol, a BBC ac HTV. Mae hefyd wedi cynhyrchu rhaglenni Radio gyda chwmni Chihuahua, ac hefyd yn cyd-rhedeg Radio YesCymru sy'n creu rhaglenni ar Youtube a'r platfformau ffrydio radio.

Mae'n gyfrifol am greu seidr Seidr y Mynydd.

Enillodd ar y gystadleuaeth Cyfansoddi emyn-dôn yn Eisteddfod Rhondda Cynon Taf ac Elai 2024 gyda ei dôn 'Ton Pentre', o dan y ffugenw 'Eryl', i eiriau gan y Prifardd Gwynfor Dafydd, ac mae'r emyn-dôn wedi ei chyhoeddi yn y Cyfansoddiadau a'r Beirniadaethau. Ysbrydoliwyd y darn gan y dyddiau o ymweld â chartref ei famgu Lili a'i dadcu Y Prifardd L. Haydn Lewis, rhieni ei dad Richard Lewis, yn y mans 'Eryl' yn Upper Canning Street, Ton Pentre, pan oedd Haydn yn weinidog yng Nghapel Jerusalem Ton Pentre.

Pan nad yw'n Cynhyrchu/Cyfarwyddo ym myd teledu, neu'n dysgu gitâr a piano a gwneud gwaith cyflenwi, mae'n cyfansoddi ar gyfer ei fand diweddara 'Cwtsh', ac yn cyfrannu at sgwennu y geiriau a'r themâu yn y caneuon. Mae nhw wedi cynhyrchu 2 CD - 'Gyda'n Gilydd' (2021) a 'Llinell Amser' (2024) yn Sonic One Studio, Llangennech, gyda'r peiriannydd a'r Cynhyrchydd Tim Hamill.

Bywyd personol

golygu

Symudodd o Gaerdydd i Mynydd-y-garreg, Sir Gaerfyrddin yn 2011 ar ôl priodi, mae ganddo ddau blentyn, ac yn awr yn byw yng Nghydweli.

Pêl-droed

golygu

Mae e wrth ei fodd gyda gwylio a chwarae Pêl-droed, ac wedi chwarae i dimau Ysgol Bryntaf a Glantaf, yng Nghyngrair Cardiff And District League i Clwb Cymric (Ail dîm rhan fwyaf), i Inter-Ifor yn y Cardiff Astroturf League, ynghyd a'r Gym Gym Cardiff University Inter-Mural League tra yn y coleg. Chwaraeodd fel ymosodwr neu Canol-cae ymosodol (Rhif 10 fel arfer), heblaw am un stint fel Centre Half i'r Gym-Gym. Dyma rhestr o'i gemau/goliau mewn 11-bob-ochr (Dyma faint rwy'n cofio, ond mae'n siwr fod yna fwy o gemau - dros 200, a falle un neu ddwy gôl ychwanegol!):

Bryntaf - 11 gêm, 0 gôl
Glantaf - 18 gêm, 7 gôl
Mackintosh Rangers (U14) - 4 gêm, 1 gôl
Whitchurch YC (U16) - 34 gêm, 15 gôl
Whitchurch Earl Haig - 2 gêm, 1 gôl
Tongwynlais - 20 gêm, 4 gôl
UWCC Chem Soc - 2 gêm, 0 gôl
UWCC Gym Gym - 18 gêm, 2 gôl (fel amddiffynwr canol)
Prifysgol Aber 2nds/3rds - 6 gêm, 4 gôl
Inter-Ifor - 41 gêm, 25 gôl
Inter-Tafarn - 1 gêm, 1 gôl
Clwb Cymric 2nds/1sts - 62 gêm, 33 gôl
Tafarn y Glôb - 2 gêm, 3 gôl
Loco Glantaf - 4 gêm, 8 gôl
Celebrity Stars - 1 gêm, 0 gôl

Cyfanswm: 226 gêm, 104 gôl

Chwaraeon Eraill

golygu

Pan yn yr ysgol, enillodd ras 800m yn y treialon Sir yn Stadiwm Maendy yn 14 oed (Blwyddyn 3) ac yn sgîl hyn, cafodd wahoddiad gan yr hyfforddwyr Alan Clayton i fynd i ymarfer gyda chlwb Athletau Amatur Caerdydd - CAAC (Cardiff Amateur Athletic Club). Bu'n cystadlu tipyn ar ran y clwb ar yr 800m a weithiau yr 1500m, yn teithio ar y bws gyda, ymysg eraill, Colin Jackson, i lefydd fel Leicester, Birmingham, Nottingham, Cwmbran a Tonypandy. Enillodd cwpwl o weithiau ar y 800m a'r 400m yn Mabolgampau Ysgol Glantaf hefyd, a fu'n dal y record am yr 800m am ei oed am flynyddoedd. Mae hefyd yn mwynhau chwarae Tenis, Badminton a Tenis Bwrdd, a buodd yn fuddugol yn Nghystadleuaeth Tenis Bwrdd y Chwaraeon Ryng-golegol yng Nghaerdydd ym 1990, wrth drechu Alun Owens yn y rownd derfynol!

Dolenni cerddorol

golygu