Agor y brif ddewislen

Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 1938

Meini'r Orsedd, Parc Cathay, Caerdydd.

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 1938 yng ngerddi Soffia, Caerdydd. Am y tro cyntaf ers blynyddoedd yr oedd y cystadlaethau llenyddol yn Gymraeg i gyd. Hefyd penderfynodd y Pwyllgor Gwaith nad oedd neb i gael llywyddu yn yr Eisteddfod hon oni byddai naill ai yn gwasanaethu Cymru ar hyn o bryd neu â chysylltiad byw â hi. Yn ôl erthygl yn Atgofion Eisteddfod 1938 yn Rhaglen y Dydd, Eisteddfod 2008, cafwyd o'r diwedd Babell Lên deilwng o'r Eisteddfod, Theatr Tywysog Cymru at wasanaeth y ddrama, a Neuadd y Ddinas i'r Arddangosfa Celf a Chrefft.

Yn ôl yr un erthygl, cynhaliwyd brynhawn Mercher gyfarfod yn Neuadd y Ddinas, dan nawdd Undeb Cenedlaethol y Cymdeithasau Cymraeg i ystyried safle gyfreithiol yr iaith Gymraeg. Penderfynwyd mynd ymlaen â'r Ddeiseb Genedlaethol i hawlio cydnabyddiaeth swyddogol i'r iaith yn llysoedd barn Cymru ac yn ei bywyd cyhoeddus. Ddydd Llun, cynhaliodd Cymdeithas y Cymmrodorion gyfarfod i ystyried cyhoeddi Geiriadur Bywgraffyddol Cenedlaethol o dan olygiaeth R.T. Jenkins a J.E. Lloyd.

Rhoddwyd y gadair gan Gymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd am awdl ar un o ddau destun, sef 'Rwyn edrych dros y bryniau pell' neu 'Trystan ac Esyllt'. Y beirniaid oedd T. Gwynn Jones a Saunders Lewis.

Ymwelodd y John F. Kennedy ifanc â'r Eisteddfod gyda'i dad Joseph P. Kennedy, Sr., Llysgennad yr Unol Daleithiau i'r Deyrnas Unedig ar y pryd.[1]

Prif Gystadlaethau
Cystadleuaeth Teitl y Darn Ffugenw Enw
Y Gadair Rwy'n Edrych Dros y Bryniau Pell - Gwilym R. Jones
Y Goron Peniel - Edgar Thomas
Y Fedal Y Graith - Elena Puw Morgan


CyfeiriadauGolygu

  1.  Croeso Wncwl Sam!. BBC (5 Tachwedd 2013). Adalwyd ar 21 Tachwedd 2013.
Eginyn erthygl sydd uchod am Gaerdydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato