Cyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg
Mae cyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg yn draddodiad hen iawn yng Nghymru. (Taith y Pererin- ymddangosodd yr argraffiad Cymraeg cyntaf yn 1688, wedi ei gyhoeddi gan Stephen Hughes fel Taith neu Siwrnai y Pererin, ) Cyfieithwyd llawer o lyfrau o'r Saesneg i'r Gymraeg, gan gynnwys Taith y Pererin ac Harri Potter. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae Tŷ Cyfieithu Cymru wedi ei sefydlu gan yr Academi i cyfieithu barddoniaeth o un iaith leiafrifol i'r llall yn digwydd drwy gyfrwng un o'r ieithoedd mawr, ond y Saesneg yn bennaf.[1]
Gwaith a gyfieithwyd
golyguUnol Daleithiau America
golygu- Mewn Tywyllwch a Drysni (In Darkness and Confusion, 1947) gan Ann Petry. Cyfieithwyd Harri Pritchard Jones. Taliesin cyf. 29 (Rhagfyr 1974).
- Y Werin Wydr (The Glass Menagerie) gan Tennessee Williams 1945, trosiad Annes Gruffydd. 1992.
- Ein Tre Ni (Our Town), drama gan Thornton Wilder. Cyfieithwyd gan Delyth George. Aberystwyth: Canolfan Astudiaethau Addysg, 1993.
- Dail Glaswellt (Leaves of Grass, 1855) gan Walt Whitman. Cyfieithwyd gan M Wyn Thomas. Academi Gymreig, 1995.
- Cab chwant (A Streetcar Named Desire, 1947) gan Tennessee Williams. Cyfieithwyd gan Emyr Edwards. Aberystwyth: Canolfan Astudiaethau Addysg, 1995.
- Dros Bont Brooklyn (A View From the Bridge) gan Arthur Miller. Cyfieithwyd gan Sion Eirian. Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, 2006.
Lloegr
golygu- Llwybr Hyffordd, 1629 cyfieithiad o The Plaine Man's Pathway to Heaven gan Arthur Dent, cyfieithwyd gan Robert Llwyd, ficer y Waun dan ysgogiad John Hanmer (1575 - 1629), Esgob Llanelwy
- Marchnad y Corachod (Goblin Market gan Christina Rossetti. Troswyd i'r Gymraeg gan Aneirin Talfan Davies. Darluniau gan Mary Harvey. Gwasg Aberystwyth, 1947.
- Llinellau Olaf, Cerdd Emily Bronte. Cyfieithwyd gan D Eirwyn Morgan. Taliesin cyf. 33 (Rhagfyr 1976).
- Anturiaethau Alys yng Ngwlad Hud (Alice's Adventures in Wonderland, 1865) gan Lewis Carroll. Cyfieithwyd gan Selyf Roberts. Gwasg Gomer, 1982. Gweler hefyd Cyfieithiadau o Anturiaethau Alys yng Ngwlad Hud.
- Prolog Chwedlau Caergaint (Cyfieithiad mydryddol o Prologue to the Canterbury Tales) Geoffrey Chaucer. Cyfieithiad Bryan Martin Davies. Gwasg Gomer, 1983
- Ar Gortyn Brau (An Unsuitable Job for a Woman, 1972) gan P. D. James. Cyfieithwyd gan Mari Lisa. Cymdeithas Lyfrau Ceredigion 1990.
- Chyffur Epilio (La Mandragola) (The Duchess of Malfi) gan John Webster, yn Duges, Tywysoges, a Chyffur Epilio; addasiadau gan Gareth Miles o ddramâu gan Niccolò Machiavelli, John Webster, a Pierre de Marivaux (1992).
- Llew a’r Llygod Llydewig gan Pat Moore. Cyfieithydd Gwyn Griffiths. Llandysul: Gwasg Gomer, 1993.
- Leisa a Morris o’r Môr (cyfieithydd Gwyn Griffiths). Gwasg Gomer, 1993.
- Ewythr Barti y Môr-leidr gan Susannah Leigh (cyfieithydd Gwyn Griffiths). Gwasg Gomer, 1994.
- Draig yn y Cwpwrdd gan Karen Dolby, Caroline Church (cyfieithydd Gwyn Griffiths). Llandysul: Gwasg Gomer, 1995.
- Y Dymestl (The Tempest) gan William Shakespeare. Cyfieithwyd gan Gwyn Thomas. Dinbych: Gwasg Gee, 1996.
- Rhwng Cyfnos a Gwawr (She Stoops to Conquer) gan Oliver Goldsmith. Cyfieithwyd gan J. T. Jones. Aberystwyth: Canolfan Astudiaethau Addysg, 1996.
- Harri Potter a Maen yr Athronydd (Harry Potter and the Philosopher's Stone, 1997) gan J.K. Rowling. Cyfieithwyd gan Emily Huws.
- Breuddwyd Nos Ŵyl Ifan (A Midsummer Night's Dream) gan William Shakespeare. Cyfieithwyd gan Gwyn Thomas. Caerdydd: Uned Iaith/CBAC, 2000.
- Amadeus gan Peter Shaffer. Cyfieithwyd gan Ken Owen. Llandysul: Gwasg Gomer, 2004.
- Eisenhower's visit to Franco 1959. a the First Days, Cyfieithiadau gan Jason Walford Davies o stori gan James Wright. Taliesin 127 (Gwanwyn 2006).
- Preludes for Memnon II. Cyfieithiad gan Jason Walford Davies o gerdd gan Conrad Eiken. Taliesin 127 (Gwanwyn 2006).
- Hunanladdiad yn y Ffosydd'. Cerdd Siegfried Sassoon. Troswyd gan Dafydd Iwan. Taliesin cyf. 130 (Gwanwyn 2007).
- O Beth ydy'r Sŵn?' Cerdd W. H. Auden. Troswyd gan Dafydd Iwan. Taliesin cyf. 130 (Gwanwyn 2007).
- Ceisio ei Bywyd Hi (Attempts on her Life, 1997) gan Martin Crimp. Cyfieithwyd gan Owen Martell. Sherman Cymru, 2009.
- Y Peiriant Amser (The Time Machine) gan H. G. Wells (1895). Cyhoeddwyd y cyfieithiad Cymraeg yn 2024 gan Melin Bapur. Cyfieithydd - Adam Pearce
- Yr Hobyd (The Hobbit) gan J.R.R. Tolkien (1937), Cyhoeddwyd y cyfieithiad Cymraeg yn 2024 gan Melin Bapur. Cyfieithydd - Adam Pearce
Cymru
golygu- Gemau yn y llwch (Jewels in the Dust, 1921) gan Edith Nepean. Troswyd gan Dilys Lewis Roberts. Caernarfon: Llyfrfa'r Methodistiaid Calfinaidd, 1970.
- Nadolig Plentyn yng Nghymru (A Child's Christmas in Wales) gan Dylan Thomas. Cyfieithiad Bryan Martin Davies. Gwasg Gomer, 1978.
- Cariad at ein Gwlad (A Discourse on the Love of Our Country) 1789. gan Richard Price. Cyfieithwyd gan P. A. L. Jones. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 1989.
- Daear Dyfed, cerdd gan John Osmond. Cyfieithiad Bedwyr Lewis Jones. Taliesin cyf. 71 (Medi 1990).
- Corff yn y Goedwig (Simeon's Bride) gan Alison G. Taylor. Cyfieithwyd gan Emily Huws. Caernarfon: Gwasg Gwynedd, 1997.
- Absenoldeb cerdd gan Idris Caffrey cyfieithwyd gan Penri Roberts. Taliesin cyf. 108 (Chwefror 2000),
- Y Cyntaf o Fawrth cerdd gan Idris Caffrey cyfieithwyd gan Penri Roberts. Taliesin cyf. 108 (Chwefror 2000).
- Quite Early one Morning, Visit to Grandpas, Return Journey gan Dylan Thomas wedi eu trosi gan T. James Jones. Taliesin cyf. 120 (Gaeaf 2003).
- Y Cilgant (The Crescent 2003) gan Richard John Evans, cyfieithwyd gan Angharad Price. cyhoddwyd gan "Scritture Giovani" (2003).
- Ble Mae fy Rosari? (Where's My Rosary?) gan Jane Mawer. Cyfieithwyd gan Alwena Williams. Caernarfon: Gwasg Pantycelyn, 2003.
- Tair Cerdd Saesneg gan Roced. Cyfieithwyd gan R Arwel Jones (Roced). Taliesin cyf. 121 (Gwanwyn 2004).
- Cymry Newydd Caerdydd (Cardiff Welsh) cerdd gan Gillian Clarke cyfieithwyd gan Menna Elfyn. Taliesin cyf. 126 (Gaeaf 2005).
- Gwrthodiad i Alaru .... cerdd gan Dylan Thomas troswyd gan Dafydd Iwan. Taliesin cyf. 136 (Gwanwyn 2009).
- Wybren Wahanol. Cerdd gan Idris Caffrey troswyd gan Penri Roberts. Taliesin cyf. 136. (Gwanwyn 2009).
- Y Dyn ar Fryn Gwastedyn. cerdd gan Idris Caffrey troswyd gan Penri Roberts. Taliesin cyf. 136 (Gwanwyn 2009).
Astudiaethau ac erthyglau
golygu- Yr Alltud, astudiaeth ar James Joyce gan Aneirin Talfan Davies. Llundain: Gwasg Foyle, 1944.
- Eliot, Pwshcin, Poe (1948). Astudiaeth gan Aneirin Talfan Davies. Llandebie: Llyfrau'r Dryw, 1948.
- Tri erthygl ar R. S. Thomas, Taliesin cyf. 111 (Gwanwyn 2001).
- Dylan Thomas a Llenorion Cymraeg, erthygl gan M. Wyn Thomas. Taliesin cyf. 112 (Haf 2001).
- Cusanau Eironig erthygl ar gyfieithu Saesneg-Cymraeg gan T. James Jones. Taliesin cyf. 112 (Haf 2001).
- Cerddi Cynnar Dylan Thomas, erthygl gan Jane Aaron. Taliesin cyf. 120 (Gaeaf 2003).
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Tŷ Cyfieithu Cymru http://www.academi.org/archif/i/134252/n/126/ Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback