Llyffantod (drama Gymraeg)

Drama lwyfan hir gan y dramodydd Huw Lloyd Edwards yw Llyffantod. Seiliwyd y ddrama "ar un o'r comedïau enwocaf a ysgrifennwyd erioed", sef Y Llyffantod gan y Groegwr Aristoffanes.[1] Llwyfannwyd y ddrama Gymraeg gan Gwmni Theatr Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Dyffryn Clwyd 1973.[2]

Llyffantod
AwdurHuw Lloyd Edwards
CyhoeddwrGwasg Gee
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi1973
GenreDramâu Cymraeg

Cefndir

golygu

Er mwyn deall y ddrama Gymraeg, a'r cyd-destun, dylid bod yn ymwybodol o'r ddrama Roegaidd wreiddiol o'r enw Y Llyffantod gan Aristoffanes, a welodd olau dydd gyntaf oll mewn cystadleueth ddrama yn y flwyddyn 405 CC.

"Roedd dwy gomedi arall yn y gystadleuaeth ond Y Llyffantod aeth â'r wobr ac mae'n debyg iddi gael cryn gymeradwyaeth gan y gynulleidfa a'i gwelodd hi gyntaf oherwydd fe fu'n rhaid trefnu i'w llwyfannu ar frys yr eildro o fewn ychydig ddyddiau. [...]

Pan Iwyfannwyd Y Llyffantod [...], buasai Athen yn amddiffyn ei hun rhag ymosodiadau Sparta ers chwe mlynedd ar hugain, ac o fewn ychydig fisoedd i'r Ilwyfaniad fu’n rhaid [...] iddi ildio i nerth arfau dinas Sparta lle rhoddwyd bri ar nerth corfforol. [...]

I Aristoffanes, pan ysgrifennodd Y Llyffantod, yr oedd y dyfodol yn hollol ddu er na wyddai, wrth gwrs, y byddai tranc ei ddinas yn cael ei gyflawni o fewn ychydig fisoedd. Felly, yr hyn a gawn ni yn nrama Aristoffanes yw'r dramodydd, yn ei anobaith ynglŷn â'r dyfodol, yn troi tua'r gorffennol i chwilio am arweinwyr doeth i arbed Athen rhag difodiant Ilwyr. [...]

Yn y ddrama Roegaidd, mae Aristoffanes yn anfon y duw Dionysus - un o'r mân dduwiau - i Hades, sef y byd arall, i ofyn cyngor dau o brif ddramodwyr trasiedi Athen, sef Aeschylus ac Euripides. Er ei fod yn fân dduw, roedd gan Dionysus gyfrifoldeb mewn dau faes; y gyntaf, ef oedd duw drama; ac yn ail, ef oedd duw gwin. A hanes anturiaethau Dionysus ar ei ffordd i Hades ac yn Hades ei hun i ymgynghori â'r ddau ddramodwr yw Y Llyffantod Aristoffanes.

Ond nid yw Dionysus yn croesi'r afon Styx i Hades yng nghwch Charon ar ei ben ei hun; y mae ganddo gwmni gwas go ddigri Xanthias digon tebyg o ran personoliaeth ydy hwn i Sancho Panza, gwas yr arwr Sbaenaidd hwnnw, Don Quixote. Ac with groesi'r afon Styx caiff y ddau eu cyfarch gan gorws o Iyffantod. Ar ôl cyrraedd yr ochr draw caiff Dionysus a Xanthias eu hunain ar ganol gŵyl fawr lle mae pobl ifanc yn cael eu derbyn yn aelodau cymdeithas gyfriniol. Yna, ceir mwy o anturiaethau digri ac yn y man cawn Dionysus yn farnwr mewn cystadleuaeth farddoni rhwng Euripides ac Aeschylus. Yn y gystadleuaeth, sydd yn ôl y beirniaid llenyddol yn un o'r enghreifftiau gorau a ysgrifennwyd erioed o ddychan llenyddol, gwelwn y ddau ddramodydd yn gwrthwynebu ei gilydd mewn brwydr eiriol - yn ymladd ar gownt arddull lenyddol a syniadau ynglŷn â chynnwys llenyddiaeth."[1]

Y ddrama Gymraeg

golygu

"Yn y ddrama Gymraeg gan Huw Lloyd Edwards fe gawn lawer iawn mwy nag addasiad o hen chwedl; cawn ganddo gymhwyso hen stori i ateb gofynion cyfoes. Mae'r tebygrwydd rhwng y ddwy ddrama yn hollol amlwg. Athen yw'r ddinas gan Huw Lloyd Edwards fel ydoedd gan Aristoffanes; Dionysus yw'r duw sy'n mynd i Hades ganddo yntau, ond yng nghwmni Nicias nid Xanthias. Maent hwythau yn croesi'r afon Styx yng nghwch Charon ac ar y daith yn clywed y llyffantod yn crawcian eu gwaeau. Ac ar yr ochr cânt hwythau eu hanturiaethau annisgwyl - rhai yn wirioneddol ddoniol fel yr helyntion â Cherberws ac eraill yn fwy arswydus megis wrth fynd heibio pwll Tartarws."[1]

"Ar lawer cyfrif dramodydd y mae'r gorffennol yn ei swyngyfareddu yw Huw Lloyd Edwards. Nid i ddianc iddo rhag gorfod wynebu dyryswch, ac ing yn wir, ein bywyd cyfoes ond er mwyn ceisio eì amgyffred yn well ac o'r herwydd canfod hwyrach fod 'na obaith am ffordd ymwared o ganol y trybestod i gyd."[3]

"Alegorïau yw ei ddramâu Y Gŵr O Wlad US ac Y Gŵr O Gath Heffer a'u cymysgedd o eironi deheuig a theimlad diffuant yn un ffordd o danlinellu'r berthynas rhwng doe a heddiw. Ond dychan a ddewisodd Huw Lloyd Edwards yn bennaf yn Llyffantod, fel petai wedi penderfynu y talai chwerthin a gwawdio lawn cymaint â cheisio argyhoeddi drwy fod yn ddifrifol ddwys."[3]

"Manteisiodd Huw Lloyd Edwards ar fframwaith drama'r Groegwr ond sylwadaeth ar lawer agwedd ar hurtrwydd, twpdra, anghyfiawnder a ffaeleddau ein Cymru ni sy'n ei gwneud yn ddrama wreiddiol. Ys dywed yr awdur: "Drama newydd sbon yw hon ... ond mae'n syndod mor debyg oedd argyfwng Athen yn y cyfnod cynnar hwnnw i'n sefyllfa ni yng Nghymru heddiw". Rhan o foddhad darllen y ddrama nodedig hon fydd sylwi pa mor wir yw hynny; ond y pennaf boddhad mae'n sicr fydd gwybod fod dyn yn profi llenyddiaeth o werth."[3]

"Rwy'n rhoi'r bai am y ddrama hon yn solet ar sgwyddau fy nghyfeillion yn Adran Ddrama y Coleg Normal, Bangor" ebe'r dramodydd yn y Rhagair i'r ddrama:[3]

"Ers tro byd, mi fuon nhw'n ceisio fy mherswadio i sgrifennu drama a fyddai'n rhoi cyfle i'r myfyrwyr ymarfer amryfal agweddau ar weithgaredd llwyfan, gan gynnwys cydadrodd, dawns a meim. Ar ôl hir ymesgusodi a gohirio, penderfynais o'r diwedd mai'r ffordd orau i wneud hynny fyddai cymhwyso ffurf yr Hen Gomedi Roegaidd, a chymryd Y Llyffantod gan Aristoffanes yn rhyw fath o batrwm. Sgrifennwyd hi ganddo yn fuan ar ôl marw Ewripides, ac ynddi ceir hanes Dionysus, nawdd-dduw Drama a Gwin, yn mynd i Hades i geisio denu'r dramodydd enwog hwnnw yn ôl i Fyd y Byw er mwyn sicrhau dyfodol y Theatr yn Athen. I werthfawrogi ergyd dychan Aristoffanes, mae'n rhaid gwybod rhywbeth am ei gefndir cymdeithasol a pholiticaidd, ac mae'n syndod mor debyg oedd argyfwng Athen yn y cyfnod cynnar hwnnw i'n sefyllfa ni yng Nghymru heddiw. Nid wyf wedi ystumio dim ar yr ychydig ffeithiau a digwyddiadau hanesyddol y cyfeirir atyn nhw yn fy nrama; y cyfan a wnes oedd eu dethol a'u haildrefnu. Drama newydd sbon yw hon, serch hynny, ond wrth fenthyca mymryn o'r un hen chwedl — ynghyd â'r teitl — beiddiais geisio tywallt gwin cyfoes i hen gostrel. Os digwydd i hyn beri iddo egru, rwy'n siwr mai Aristoffanes fyddai'r cyntaf i faddau imi."[3]

Cymeriadau

golygu
  • Nicias, Atheniad cyffredin
  • Iris, ei wraig
  • Harmonia, ei fam-yng-nghyfraith
  • Dionysos, duw Gwin a Drama [Dionysus]
  • Merch, un ifanc yn rhannu pamffledi, ac un arall
  • Côr, (a) fel Dinasyddion Athen, (b) fel Cynghorwyr Plwton yn Hades
  • Côr A
  • Côr B
  • Côr y Llyffantod
  • Pobl Ifainc
  • Cleon, llefarydd y Democratiaid Eithafol
  • Cadmos, llefarydd yr Oligarchiaid
  • Dyn 1
  • Dyn 2
  • Dyn 3
  • Hen Wraig
  • Dyn Busnes
  • Gweithiwr 1
  • Gweithiwr 2
  • Gweddw ifanc
  • Charon, cychwr yr Afon Stycs
  • Cerberws, gwarcheidwad Hades
  • Plwton, pennaeth Hades
  • Ysgrifenyddes Plwton
  • Blaenor y Côr
  • Dyn Ifanc
  • Llanc
  • Y Dorf
  • Un o'r Grŵp
  • Llais
  • Lleisiau

Cynyrchiadau nodedig

golygu

Llwyfannwyd y ddrama gan Gwmni Theatr Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Dyffryn Clwyd 1973 gyda "30 o gwmni" oedd yn cynnwys myfyrwyr o'r Coleg Normal, Bangor.[2] Cyfarwyddwr Edwin Williams gyda chymorth darlithwyr y Coleg Normal, J.O Roberts a Morien Phillips; cynllunydd Martin Morley; coreograffi Molly Kelly; cast Elen Roger Jones, Christine Pritchard, Glyn Williams, J.O Roberts, Guto Roberts, Stewart Jones, Dic Hughes ac Aled Roberts, ynghyd â myfyrwyr o'r Coleg Normal, Bangor. [2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 Edwards, D Gareth (Chwefror 1977). "Y Llyffantod". Barn 169.
  2. 2.0 2.1 2.2 Williams, Arthur (19 Ebrill 1973). "New Play to be staged". Daily Post.
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 Edwards, Huw Lloyd Edwards (1973). Y Llyffantod. Gwasg Gee.