Llyfr dylanwadol gan Robert Lloyd (Llwyd o'r Bryn) (1888-1961) a gyhoeddwyd am y tro cyntaf yn 1955 yw Y Pethe. Bathodd Llwyd o'r Bryn y term Y Pethe i gynrychioli'r traddodiad gwerinol Cymraeg diwylliedig a'i werthoedd gorau. Mae'n derm a ddefnyddir yn aml heddiw i ddisgrifio diwylliant traddodiadol Cymru.

Disgrifiad golygu

Mae'r gyfrol yn llawn o ddisgrifiadau ac atgofion o'i fro enedigol a'i chymdeithas drwyadl Gymraeg. Magwyd Llwyd o'r Bryn ar fferm ei rieni rhwng Cefnddwysarn a Llandderfel, ger Y Bala, Meirionnydd. Gweithiodd ar fferm ei dad a daeth ei brofiad o fyd amaeth a diwylliant anghydffurfiol bro Penllyn yn ddylanwad mawr arno. Roedd yn gymdeithas amaethyddol o werinwyr diwylliedig a'i gwreiddiau'n ddwfn yn 'Y Pethe', sef byd y capel a'r Eisteddfod, "Byd y Pethe".

Cyfeiriadau golygu


  Eginyn erthygl sydd uchod am lyfr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.