Y Sgism Fawr (1378–1417)

holltiad yn yr Eglwys Gatholig o 1378 i 1417

Hollt yn yr Eglwys Gatholig yn ystod yr Oesoedd Canol Diweddar oedd y Sgism Fawr (1378–1417). Wedi i sawl pab deyrnasu o Avignon yn y cyfnod 1309–77, yr hyn a elwir Pabaeth Avignon, dychwelodd y Babaeth i Rufain dan Grigor XI. Bu farw Grigor yn 1378 ac etholwyd Urbanus VI, ac aeth ati i ymateb i lygredigaeth eglwysig. Ymgynullodd criw o gardinaliaid anfodlon yn Agnani i ethol pab arall, Clement VII, gan sbarduno'r sgism. Bu olyniaeth o wrth-babau yn teyrnasu yn Avignon am ddeugain mlynedd arall. Olynwyd Urbanus VI yn Rhufain gan Boniffas IX (1389– 1404), Innocentius VII (1404–1406), a Grigor XII (1406–1415), a olynwyd Clement VII yn Avignon gan Bened XIII (1394–1417).

Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynolschism Edit this on Wikidata
Dechreuwyd1378 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Map yn dangos cefnogaeth yn Ewrop dros Babaeth Avignon (coch) a Phabaeth Rhufain (glas) yn ystod y Sgism Fawr, hyd at Gyngor Pisa yn 1409.

Methiant a fu Cyngor Pisa yn 1409 i ddod â diwedd i'r sgism. Yno, etholwyd pab arall, Alecsander V, na chafodd ei gydnabod gan Babaeth Rhufain na chan Babaeth Avignon. Galwyd Cyngor Konstanz yn 1414 i ddatrys yr anghydfod. Penderfynodd y cyngor ddiorseddu'r Pab Grigor XII a'r Gwrth-Bab Ioan XXIII ac etholwyd y Pab Martin V i aduno'r Eglwys Gatholig â'i phencadlys yn Rhufain. Daeth y sgism i ben yn 1417.[1]

CyfeiriadauGolygu

  1. Tom Streissguth, The Greenhaven Encyclopedia of the Renaissance (Farmington Hills, Michigan: Greenhaven Press, 2008), t. 146.