Y Tafod yw cylchgrawn Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Mae'n cael ei gyhoeddi tua phedair gwaith y flwyddyn, i gyd-daro gyda digwyddiadau pwysig megis Cyfarfod Cyffredinol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Eisteddfod yr Urdd, a'r Eisteddfod Genedlaethol.

Y Tafod
Sefydlwyd Hydref 1963 gan Owain Owain
Gwefan swyddogol cymdeithas.cymru
Tafod y Ddraig: logo gwreiddiol gan Owain Owain; Haf 1963
Tafod y Ddraig: y Rhifyn Cyntaf; Hydref 1963

Yr enw gwreiddiol oedd 'Tafod y Ddraig' a olygwyd yn gyntaf yn Hydref 1963 gan Owain Owain, Bangor. Ef hefyd a ddyluniodd fersiwn gwreiddiol o logo'r gymdeithas i gyd-fynd a'i bapur. Mae'r fersiwn cyntaf hwn i'w weld yn y Llyfrgell Genedlaethol. Yn Chwefror 1969 y gwnaed y fersiwn coch, cyfoes a hynny gan Elwyn Ioan a Robat Gruffudd (gweler ''Golwg'' 21 Mehefin 2020).

Trafododd Gwilym Tudur y dyddiau cynnar yn ei gyfrol Wyt Ti'n Cofio...?:

Ei gymwynas fwyaf fu sefydlu Tafod y Ddraig, y ceir ei hanes rhyfeddol ganddo yn Tân a Daniwyd. Fe dyfodd mewn chwe mis o ddalen ddyblygedig 400 copi i gylchgrawn gloyw â chylchrediad o 2,500, gyda stamp newydd, miniog ar ei holl gynnwys.

Roedd gan wasg y Lolfa gysylltiad agos ond anffurfiol â Chymdeithas yr Iaith Gymraeg a bu'n gyfrifol am argraffu ei chylchgrawn misol, Tafod y Ddraig am gyfnod hir. Ymhlith y golygyddion eraill y mae Gareth Miles ac Angharad Tomos.

Dolennau allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.