Y Tincer
Papur bro a sefydlwyd ym 1977 yw'r Tincer. Cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf ym Medi 1977.
Enghraifft o'r canlynol | papur bro |
---|
Yr ardal
golyguPlwyfi Genau’r-glyn, (Llandre, Dôl-y-bont), Trefeurig, (Penrhyn-coch, Pen-bont Rhydybeddau, Capel Madog, Capel Dewi) Tirymynach (Bow Street, Pen-y-garn, Rhydypennau a Dolau, ) a’r Borth - ymunodd plwyf Melindwr yn Ionawr 1982 (pentrefi Pen-llwyn/Capel Bangor, Goginan a Chwmrheidol/Aber-ffrwd)
Yr enw
golyguDewiswyd yr enw, a gynigwyd gan Tegwyn Jones, gan mai dyma ardal y nofelydd Tom Macdonald (1900-1980). Fe’i ganwyd yn Llandre i rieni o dinceriaid Gwyddelig. Ar ôl bod ym Mhrifysgol Aberystwyth bu’n newyddiadurwr a golygydd papur newydd yn Lloegr, Tsieina, Awstralia ac am ddeng mlynedd ar hugain (30) yn Ne Affrica, nes iddo ddychwelyd i Gymru ym 1965. Cyhoeddodd chwe nofel yn Saesneg - Gareth the ploughman (1939), (a gyfieithwyd i’r Gymraeg gan Nansi Griffiths fel Croesi’r bryniau (1981); The peak (1941), Gate of gold (1946), The black rabbit (1948), How soon hath time (1950), a The song of the valley (1951), pob un wedi ei lleoli yng Nghymru.
Ysgrifennodd hefyd ddwy nofel Gymraeg Y nos na fu (1974) a Gwanwyn serch (1982) a gyhoeddwyd ar ôl ei farw, a hefyd gyfrol o atgofion Y Tincer tlawd (1971) a gyfieithwyd yn The white lanes of summer (1975). Mae’r gyfrol o atgofion am ei blentyndod yng Ngorllewin Cymru yn y blynyddoedd cyn y Rhyfel Byd Cyntaf (1914-8). Mae’r enw yn awgrymu fod y Tincer yn casglu newyddion wrth fynd oddi amgylch yr ardal.
Yn ôl y Cyfansoddiad "Y Gymraeg fydd iaith y Tincer a'i holl weithgareddau"
Mae modd gweld ôl-rifynnau diweddar o'r Tincer ar y wefan http://www.trefeurig.org/tincer.php Archifwyd 2008-11-20 yn y Peiriant Wayback Dechreuwyd ei gyhoeddi mewn lliw gyda rhifyn 311 ym Medi 2008.
Golygyddion
golygu- Tegwyn Jones, Medi 1977-Mehefin 1983
- Mary Thomas, Medi 1983-Hydref 1985
- Richard Lewis, Tachwedd 1985-Mehefin 1987
- Alun Jones, Medi 1987-Mehefin 1990
- Ceris Gruffudd, Medi 1990-