Y Twrch Trwyth (drama)

Drama Gymraeg yw Y Twrch Trwyth gan T. James Jones. Perfformiwyd y ddrama am y tro cyntaf yn 2002 gan Gwmni Theatr Felinfach. [1]. Dyma ail ddrama o drioleg T James Jones i'w llwyfannu gan Gwmni Theatr Felinfach (y ddwy arall oedd Y Dyn Eira a Nest).

Disgrifiad

golygu

Cawn gyfle i ymweld â chartref Charlie ac Annie Welsh yn Nanhyfer, Sir Benfro, rhwng gwyliau'r Pasg a'r Pentecost ar ddechrau'r 1990au. Mae'r ddau yn gorfod ymgodymu ag ymweliad cyntaf Ceri, eu merch, ar ôl iddi gael deng mlynedd o garchar am lofruddio ei phartner lesbiaidd pan oeddent yn cyd-fyw fel protestwyr Greenham Common.

Gweler hefyd

golygu

Menyw a Duw yn Dial - cyfrol yn cynnwys sgript y ddrama.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Y Twrch Trwyth,Tivy-Side Advertiser 19 Mawrth 2002
  Eginyn erthygl sydd uchod am ddrama. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.