Y wasg yn y Traeth Ifori

Mae'r wasg yn y Traeth Ifori (Ffrangeg: la presse écrite en Côte d'Ivoire) yn cynnwys nifer o bapurau newydd dyddiol ac wythnosol yn ogystal â chylchgronau. Cyhoeddir bron pob un ohonynt yn yr iaith Ffrangeg ac yn Abidjan, dinas fwyaf y wlad.

Y wasg yn y Traeth Ifori
Detholiad o gyhoeddiadau o'r Traeth Ifori.
Enghraifft o'r canlynolmedia of Ivory Coast Edit this on Wikidata
GwladwriaethY Traeth Ifori Edit this on Wikidata

Gellir olrhain hanes y wasg Iforaidd frodorol yn ôl i 1935, yng nghyfnod Gwladfa'r Traeth Ifori, pan gyhoeddwyd Eclaireur de la Côte d'Ivoire, y papur newydd cyntaf i'w sefydlu gan Affricanwr croenddu mewn un o drefedigaethau Ffrainc. Dim ond ychydig o'r boblogaeth oedd yn llythrennog, ac felly byddai datblygiad y wasg yn araf. Bu'r llywodraeth drefedigaethol yn ddrwgdybus o unrhyw gyfryngau a anelid at gynulleidfa frodorol, a ni wnaed fawr o ymdrech gan wladychwyr Ewropeaidd i feithrin diwylliant llenyddol chwaith. Er gwaethaf, sefydlwyd Notre Voix, papur newydd y Blaid Sosialaidd, ym 1937 gyda chyhoeddwr a golygydd Ewropeaidd, a menter breifat gan drefedigaethwr oedd Le Cri du Planteur a gyhoeddwyd ym 1939. Wedi diwedd yr Ail Ryfel Byd, lansiwyd Abidjan-Matin gan y cwmni Ffrengig Breteuil a Fraternité gan Blaid Ddemocrataidd y Traeth Ifori (PDCI), a sefydlwyd ym 1946 gan Félix Houphouët-Boigny.[1]

Yn sgil annibyniaeth y Traeth Ifori oddi ar Ffrainc ym 1960, a ffurfio gwladwriaeth un-blaid y PDCI dan arweiniad yr Arlywydd Houphouët-Boigny, sefydlwyd asiantaeth newyddion yr Agence Ivoirienne de Presse (AIP) a'r papur newydd Fraternité Matin er mwyn sicrhau monopoli'r llywodraeth ar gyfryngau torfol y wlad.[1] Ni chydnabyddid rhyddid y wasg gan Gyfansoddiad 1960, a byddai'r llywodraeth ond yn caniatáu pedwar cyfnodolyn am y 30 mlynedd i ddod: y papurau dyddiol Fraternité Matin ac Ivoir Soir, papur swyddogol y PDCI Fraternité Hebdo, a'r cylchgrawn diwylliannol wythnosol Ivoire Dimanche.[2]

Cafodd y cyfyngiadau ar bleidiau a chyfryngau anwladwriaethol eu llacio gan Gyfansoddiad 1990, ac o hynny ymlaen tyfai'r y wasg annibynnol ar y cyd â lluosogaeth wleidyddol. Er i'r cyfansoddiad newydd sicrhau rhyddid y wasg, cyflwynwyd deddf i reoleiddio'r wasg ym 1991 (gan ddisodli'r hen gyfraith Ffrangeg a fu ar waith ers diwedd y 19g) a rhoddwyd grym i'r llywodraeth atafaelu cyhoeddiadau a chwtogi ar fuddsoddiad tramor yn y cyfryngau.[1] Ymhen chwe mlynedd, cyhoeddwyd bron 200 o gyfnodolion yn y Traeth Ifori, er nad oedd eto mwyafrif o'r boblogaeth yn medru darllen. Gostyngodd y nifer i ryw hanner cant erbyn troad y ganrif. Yn ystod arlywyddiaethau Henri Konan Bédié, Robert Guéï, a Laurent Gbagbo, defnyddiwyd y Conseil National de la Presse (CNP), corff rheoleiddio'r wasg, yn fynych i roi taw ar newyddiadurwyr a fynnai beirniadu'r llywodraeth.

Ers i Alassane Ouattara ddod yn arlywydd yn 2010 mae rheolaeth y llywodraeth ar y wasg wedi llacio rhywfaint, er bod ataliadau arni'n barhau, gan gynnwys gohirio cyhoeddi, anrheithio swyddfeydd, erlyn a charcharu newyddiadurwyr a golygyddion, a dirwyon. Bu hefyd sawl achos o ymosodiadau corfforol ar newyddiadurwyr a golygyddion. Erbyn canol y 2010au bu oddeutu hanner o boblogaeth y Traeth Ifori yn llythrennog, gan gynnwys y mwyafrif o'r ieuenctid, a chyhoeddwyd rhyw 40 o bapurau newydd. Mae nifer ohonynt yn dabloidau a phapurau pleidgar, ac mae pryder bod ffug newyddion, newyddiaduraeth gyffro, a thuedd wleidyddol yn niweidio enw'r wasg yn y wlad.[1] Er i'r niferoedd o gyhoeddiadau a darllenwyr ffynnu ers 1990, mae'n debyg mae'r radio o hyd ydy'r brif gyfrwng a ffynhonnell newyddion i drwch y boblogaeth.

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Cyril K. Daddieh, Historical Dictionary of Côte d'Ivoire (The Ivory Coast), 3ydd argraffiad (Lanham, Maryland: Rowman & Littlefield, 2016), tt. 404–05.
  2. Nanourougo Coulibaly, "La « titrologie » en Côte d’Ivoire. Discours médiatique et perpétuation des antagonismes politiques", Communication & langages 190:4 (1 Rhagfyr 2016), tt. 125–141. doi:10.3917/comla.190.0125