Yanto Barker
Seiclwr ffordd proffesiynol o Gymru ydy Yanto Barker (ganwyd 6 Ionawr 1980 yng Nghaerfyrddin[1]). Ef orffenodd yn y safle uchaf y Tour of Britain, 2005, o drigolion gwledydd Prydain. Er iddo fod yn llwyddiannus iawn tra yng nghategori Iau rasio (16-18), dim ond 15 oed oedd Yanto pan ddechreuodd rasio, ymunodd â Mid Devon Cycling Club. Cyd-ddigwyddiad ydyw mai llywydd y clwb hwnnw ydy Colin Lewis, Cymro a chyn seiclwr proffesiynol.
Gwybodaeth bersonol | |
---|---|
Enw llawn | Yanto Barker |
Dyddiad geni | 6 Ionawr 1980 |
Taldra | 1.82m |
Pwysau | 69kg |
Manylion timau | |
Disgyblaeth | Ffordd |
Rôl | Reidiwr |
Tîm(au) Amatur | |
Tîm(au) Proffesiynol | |
2000 2003 2005 2006 2007 |
Linda McCartney Foods MBK - Oktos Driving Force Logistics Driving Force Logistics - Cycling News - Litespeed Wedi ymddeol |
Golygwyd ddiwethaf ar 19 Medi 2007 |
Wedi ennill Pencampwriaeth Cenedlaethol Iau, Rasio Ffordd Prydain, dewiswyd ef i gynyrchioli Prydain ym Mhencampwriaethau Iau'r Byd a gorffennodd yn yr 11eg safle[2]. Bu'n byw yng Nghymru fel plentyn ond symudodd ei deulu i Ddyfnaint. Yn 1999, wrth droi'n 19 oed, symudodd i'r categori hŷn a dewiswyd ef i reidio dros Dîm Cenedlaethol Prydain dan 23 oed. Cafodd ei dalu am hyn a symudodd o Ddyfnaint i Fanceinion i fod yn nes i'r trac a'r tîm meddygol. Erbyn 2000, roedd llai o arian ar gael felly ar gyngor hyfforddwr, symudodd i fyw i Ffrainc, tra'n 20 oed, i allu ennill profiad o rasio tramor[1]. Cynrychiolodd Gymru yng Ngemau'r Gymanwlad yn Melbourne yn 2006 ond ymddeolodd o seiclo proffesiynol yn 2007, a dychwelodd i fyw i Ddyfnaint.
Canlyniadau
golygu- 1998
- 1af Pencampwriaeth Cenedlaethol Iau, Rasio Ffordd Prydain
- 2il Pencampwriaeth Cenedlaethol Cymru, Rasio Ffordd
- 11fed Pencampwriaethau Iau'r Byd, Rasio Ffordd
- 2002
- 12fed Pencampwriaethau Odan 23'r Byd, Rasio Ffordd
- 2003
- 1af Cyfres Cwpan Mavic (DIV 1, FRA)
- 2il Course La Ville, Cyfres Cwpan Mavic (DIV 1, FRA)
- 1af Cam 1, Circuit Des Mines (FRA 2.5)
- 2il Cam 3, Circuit Des Mines (FRA 2.5 UCI)
- 2004
- 1af Cyfres Cwpan Mavic (DIV 1, FRA)
- 5ed GP Rougy, Cyfres Cwpan Mavic (FRA 1.6 UCI)
- 1af GP Carelleur
- 2il Tour De Franch Compte (4 diwrnod)
- 4ydd G.C Nord Isaire (FRA 2.6 UCI)
- 8ed Cam 1, Circuit Des Mines (FRA 2.5 UCI)
- 8ed Cam 1, Tour of Britain (Manceinion - Manceinion)
- 9ed Cam 5, Tour of Britain (San Steffan - Llundain)
- 13ydd Cam 3, Tour of Britain (Bakewell - Nottingham)
- 2005
- 3ydd Pencampwriaeth Cenedlaethol, Rasio Ffordd Prydain
- 1af Ras Sawl Cam Surrey Pum Diwrnod
- 2il East Yorkshire Classic
- 2il Havant GP (GB 1.2 UCI)
- 3ydd Pencampwriaeth Cenedlaethol, Rasio Ffordd Prydain
- 3ydd Cymal o Gyngrhair Surrey, 'Eastway Classic'/'Taunton Criterium'
- 4ydd Cam 4, Circuit des Ardennes (Charleville-Mézières)
- 4ydd FBD Insurance Rás (IRE 2.2 UCI)
- 6ed Paris Troyes (FRA 1.2 UCI)
- 6ed Rout Tourangelle (FRA 1.2 UCI)
- 8fed Lincoln International Grand Prix
- 9fed Tour of Britain
- 6ed Cam 1, Tour of Britain (GB 2.1 UCI)
- 10fed Hel Nan Het Mergelland (NED 1.1 UCI)