Kanye West
Rapiwr, cyfansoddwr caneuon, cynhyrchydd recordiau, a dylunydd ffasiwn o'r Unol Daleithiau yw Ye (Kanye Omari West; ganed 8 Mehefin 1977).
Kanye West | |
---|---|
Kanye West (Ye) yn 2019 | |
Ffugenw | Yeezy, The Louis Vuitton Don, Saint Pablo |
Ganwyd | Kanye Omari West 8 Mehefin 1977 Atlanta |
Man preswyl | Chicago |
Label recordio | GOOD Music, Roc-A-Fella Records, Def Jam Recordings, YZY, The Island Def Jam Music Group |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Addysg | gradd er anrhydedd |
Alma mater | |
Galwedigaeth | rapiwr, canwr, cyfansoddwr caneuon, cynhyrchydd recordiau, dylunydd ffasiwn, entrepreneur, person busnes, cyfarwyddwr |
Cyflogwr | |
Arddull | hip hop, progressive rap, cerddoriaeth boblogaidd, art pop, cerddoriaeth yr efengyl, cerddoriaeth yr enaid, cyfoes R&B, pop rap, chipmunk soul, urban contemporary |
Taldra | 173 centimetr |
Tad | Ray West |
Mam | Donda West |
Priod | Kim Kardashian |
Partner | Amber Rose, Kim Kardashian, Julia Fox, Irina Shayk, Selita Ebanks, Angela Martini, Bianca Censori |
Plant | North West, Saint West, Chicago West, Psalm West |
Llinach | family of Kanye West |
Gwobr/au | BET Award for Best New Artist, BET Award for Best Male Hip-Hop Artist, BET Award for Video of the Year, BET Award for Video of the Year, BET Award for Best Group, Billboard Music Award for Top Rap Artist, American Music Award for Favorite Rap/Hip-Hop Artist, American Music Award for Favorite Rap/Hip-Hop Album, Grammy Award for Best Rap Song, Gwobr Grammy am yr Albwm Rap Gorau, Grammy Award for Best R&B Song, Grammy Award for Best Rap Song, Grammy Award for Best Rap Solo Performance, Gwobr Grammy am yr Albwm Rap Gorau |
Gwefan | https://www.kanyewest.com, http://kanyewest.com/ |
llofnod | |
Ganed Kanye Omari West yn Atlanta, Georgia, Unol Daleithiau America, i deulu Affricanaidd-Americanaidd, a chafodd ei fagu yn Chicago, Illinois. Ffotograffydd a chyn-aelod o'r Pantherod Duon oedd ei dad, ac academydd oedd ei fam. Aeth Kanye i Brifysgol Daleithiol Chicago—lle'r oedd ei fam yn bennaeth y gyfadran Saesneg—am un flwyddyn cyn iddo adael i gychwyn ar ei yrfa yn y diwydiant recordiau. Dechreuodd fel cynhyrchydd i So So Def Recordings yn Atlanta, gan gyfrannu at albymau megis Life in 1472 (1998) gan Jermaine Dupri a The Movement (1999) gan Harlem World, cyn symud i Ddinas Efrog Newydd i weithio i Roc-A-Fella Records. Kanye oedd un o brif gynhyrchwyr The Blueprint (2001) gan Jay-Z, un o'r albymau mwyaf llwyddiannus yn hanes hip-hop, a derbyniodd glod am ei ddefnydd o samplu curiadau wedi eu cyflymu. Daeth yn gynhyrchydd poblogaidd yn y sîn hip-hop, ond yr oedd yn anodd iddo ar y cyntaf wneud record ei hun, yn rhannol oherwydd diffyg "credadwyedd" ohonno fel rapiwr o ganlyniad i ragfarn yn erbyn ei fagwraeth ddosbarth-canol.[1]
O'r diwedd, cyhoeddodd Kanye West ei albwm stiwdio cyntaf, The College Dropout, yn 2004. Yr oedd yn hynod o lwyddiannus, a chafodd ei gymeradwyo gan y beirniaid am ei sain soffistigedig, chwarae ar eiriau, hiwmor, a sylwebaeth wleidyddol. Enillodd Kanye dair Gwobr Grammy yn 2005 am yr albwm rap gorau, y gân rap orau ("Jesus Walks"), a'r gân rhythm-a-blŵs orau (fel un o gyfansoddwyr "You Don't Know My Name" gan Alicia Keys). Yn sgil ei ail albwm, Late Registration (2005), enillodd dair Gwobr Grammy eto yn 2006 am yr albwm rap gorau, y perfformiad rap unigol gorau ("Gold Digger"), a'r gân rap orau ("Diamonds from Sierra Leone"). Yn ogystal â'i lwyddiannau proffesiynol, daeth Kanye yn enwog am ei bersonoliaeth liwgar a di-flewyn-ar-dafod. Yn ystod budd-gyngerdd ar gyfer pobl a effeithwyd gan Gorwynt Katrina, a ddarlledwyd yn fyw ar sianel NBC ym Medi 2005, datganodd Kanye "nid oes ots gan [yr Arlywydd] George Bush am bobl dduon".[2]
Parhaodd i gynhyrchu recordiau ar gyfer artistiaid eraill, gan gynnwys caneuon i Nas, Mariah Carey, a Beyoncé, a sefydlodd y label recordio GOOD Music. Cafodd ragor o lwyddiant, yn fasnachol ac yn feirniadol, gyda'r albymau Graduation (2007), sydd yn defnyddio syntheseisyddion ac arddull "anthemaidd", ac 808s & Heartbreak (2008), sydd yn defnyddio technoleg Auto-Tune i addasu ei lais. Yn ystod seremoni wobrwyo MTV ar gyfer fideos cerdd ym Medi 2009, esgynnodd Kanye i'r llwyfan wrth i Taylor Swift dderbyn y wobr am y fideo gorau gan fenyw, a chymerodd y meicroffon oddi arni i ddatgan "Yo, Taylor, I'm really happy for you, I'mma let you finish, but Beyoncé had one of the best videos of all time! One of the best videos of all time!" Cafodd ei fwio gan y gynulleidfa, ei hel allan o'r sioe, a'i gondemnio gan nifer o ffigurau enwog ym myd adloniant a'r cyfryngau.[3][4][5] Ymddiheuriodd Kanye sawl gwaith am ei ymddygiad.[6][7] Er gwaetha'r helynt, ni achoswyd niwed i waith Kanye yn y stiwdio recordio, ac yn 2010 cyhoeddodd un o'i albymau mwyaf cymhleth ac uchelgeisiol, My Beautiful Dark Twisted Fantasy, sydd yn cynnwys cydweithrediadau gyda Jay-Z, Rihanna, Kid Cudi, ac eraill. Cyrhaeddodd frig siartiau Billboard gyda chydweithrediad arall â Jay-Z, yr albwm Watch the Throne (2011), sydd yn cynnwys tair sengl a enillodd Wobrau Grammy: "Otis", "Niggas in Paris", a "No Church in the Wild". Cyhoeddodd yr albwm dethol Cruel Summer yn 2012, a'i chweched albwm stwdio Yeezus, sydd yn ymdrin â phynciau hil ac enwogrwydd yn yr Unol Daleithiau, yn 2013.
Ers tro, mynegai Kanye ddiddordeb mewn dylunio dillad stryd, ac yn Chwefror 2015 lansiodd y casgliad cyntaf o'i ddyluniadau ffasiwn dan yr enw YEEZY, mewn cydweithrediad â chwmni Adidas, gan gynnwys brand steilus o esgidiau athletaidd a fyddai'n hynod o boblogaidd. Yn ystod y pum mlynedd nesaf, byddai'n rhyddhau casgliadau ffasiwn a recordiau newydd yn weddol gyson, er gwaethaf cyfnodau o ddirywiad yn ei iechyd meddwl. Bu'n rhaid iddo gwtogi ei daith ar gyfer ei seithfed albwm, The Life of Pablo (2016), yn Nhachwedd 2016 am iddo gael ei dderbyn i'r ysbyty yn dioddef o "argyfwng seiciatrig",[8] a chymerodd seibiant o sylw'r cyhoedd trwy gydol 2017, gan barhau i recordio cerddoriaeth a chydweithio gydag artistiaid eraill. Cafodd ymateb cymysg i'w albwm nesaf, Ye (2018), sydd yn ymdrin â'i ddiagnosis o anhwylder deubegwn. Bu ei gydweithrediad â Kid Cudi, Kids See Ghosts (2018), hefyd yn ymwneud â phwnc iechyd meddwl. Enillodd y Wobr Grammy am yr albwm cerddoriaeth Gristnogol gyfoes am Jesus Is King (2019), sydd yn cyfuno hip-hop â cherddoriaeth yr efengyl.
Ar 4 Gorffennaf 2020, cyhoeddodd ei fod am ymgeisio yn etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau, gan ddadlau dros ddiwygio'r heddlu a'r drefn gyfiawnder, ailgyflwyno gweddïo i ysgolion cyhoeddus, a "moeseg fywyd gyson"—hynny yw, yn groes i erthyliad a'r gosb eithaf.[9] Fodd bynnag, ni wnaeth lawer o ymgyrchu, a methodd i gofnodi ei enw ar gyfer y falod yn y mwyafrif o daleithiau; enillodd 0.04 y cant o'r bleidlais genedlaethol. Cyhoeddodd ei ddegfed albwm, Donda, yn 2021, sydd yn cynnwys cydweithrediadau ag artistiaid megis Jay-Z a the Weeknd. Yn 2021 newidiodd ei enw yn swyddogol i Ye.[10] Yn niwedd 2022, yn sgil sylwadau ganddo a ystyriwyd yn wrth-Semitaidd, cafodd Ye ei wahardd o wefannau Twitter a'i ddiarddel o'i berthynas ag Adidas.[11][12]
Priododd Kanye West â'r bersonoliaeth deledu Kim Kardashian yn 2014,[13] a chawsant bedwar plentyn cyn iddynt wahanu yn 2021 a chael ysgariad yn 2022.[14]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Kanye West. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 2 Rhagfyr 2022.
- ↑ (Saesneg) Josh Terry, "10 years ago today, Kanye West said, 'George Bush doesn't care about black people'", Chicago Tribune (2 Medi 2015). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 30 Awst 2021.
- ↑ (Saesneg) Daniel Kreps, "Kanye West Storms the VMAs Stage During Taylor Swift’s Speech", Rolling Stone (14 Medi 2009). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 2 Medi 2021.
- ↑ (Saesneg) Gil Kaufman, "2009 VMAs Oral History: What You Didn’t See When Kanye West Rushed the Stage on Taylor Swift", Billboard (21 Awst 2019). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 10 Chwefror 2022.
- ↑ (Saesneg) Constance Grady, "How the Taylor Swift-Kanye West VMAs scandal became a perfect American morality tale", Vox (26 Awst 2019). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 2 Rhagfyr 2022.
- ↑ Rosie Swash, "Kanye West apologises for interrupting Taylor Swift at VMAs", The Guardian (14 Medi 2009). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 2 Rhagfyr 2022.
- ↑ (Saesneg) Daniel Kreps, "Kanye West Posts Second Apology to Taylor Swift for VMAs Outburst", Rolling Stone (14 Medi 2009). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 2 Rhagfyr 2022.
- ↑ (Saesneg) Joe Coscarelli, "Kanye West Is Hospitalized for ‘Psychiatric Emergency’ Hours After Canceling Tour", The New York Times (21 Tachwedd 2016). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 4 Tachwedd 2022.
- ↑ (Saesneg) Randall Lane, "Kanye West Says He’s Done With Trump—Opens Up About White House Bid, Damaging Biden And Everything In Between", Forbes (8 Gorffennaf 2020). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 8 Gorffennaf 2020.
- ↑ (Saesneg) Amy Woodyatt, "Forget Kanye West. He’s now officially just Ye", CNN (19 Hydref 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 11 Hydref 2022.
- ↑ (Saesneg) Thomas Mackintosh, "Elon Musk suspends Kanye West from Twitter for inciting violence", BBC (2 Rhagfyr 2022). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 2 Rhagfyr 2022.
- ↑ (Saesneg) Faarea Masud, "Adidas cuts ties with rapper Kanye West over anti-Semitism", BBC (26 Hydref 2022). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 26 Hydref 2022.
- ↑ (Saesneg) "Kim Kardashian and Kanye West marry in Florence", The Guardian (24 Mai 2014). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 2 Rhagfyr 2022.
- ↑ (Saesneg) Chloe Melas a Cheri Mossburg, "Kim Kardashian and Kanye West reach divorce settlement", CNN (30 Tachwedd 2022). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 2 Rhagfyr 2022.