Ymarfer aerobig

Ymarfer corff o ddwyster sy'n dibynnu'n bennaf ar y broses o gynhyrchu ynni aerobig yw ymarfer aerobig neu ymarfer erobig (a elwir hefyd yn cardio).[1]

Ymarfer aerobig, 1980au.

Mae “aerobig” yn golygu “yn ymwneud â, yn cynnwys, neu'n gofyn am ocsigen rhydd”,[2] ac yn cyfeirio at y defnydd o ocsigen i gwrdd yn ddigonol â gofynion ynni yn ystod ymarfer corff trwy fetabolaeth aerobig.[3] Yn gyffredinol, gellir perfformio gweithgareddau aerobig dwyster isel i gymhedrol am gyfnodau estynedig.[1] Gwell o bosib yw galw'r hyn a elwir yn ymarfer aerobig yn "aerobig yn unig", gan ei fod wedi'i fwriadu i fod yn ddigon dwys i'r holl garbohydradau gael eu troi'n egni.

Mathau o ymarfer aerobigGolygu

Dan do Awyr agored Dan do neu yn yr awyr agored
Hyfforddwr Elliptig Cerdded Nofio
Rhwyfwr dan do Beicio Cicfocsio
Beic llonydd Rhedeg Rhaff sgipio neu raff neidio
Melin draed Sgïo traws gwlad Hyfforddiant cylched
Rhedeg traws gwlad Jacs neidio
Cerdded Nordig Ymarfer aerobeg dŵr
Sglefrio Loncian
Sglefrfyrddio
Rhwyfo
 
Enghraifft o weithgareddau aerobig.

Beth sydd yn digwydd ir corff wrth wneud gweithgaredd?Golygu

Pan byddwch yn gwneud gwahanol gweithgareddau, byddwch yn defnyddio llawer mwy o egni nag yr arfer. Mae'r calon yn pwmpio yn gyflymach pan yn gweithredol. Bydd y gwyneb yn troi'n goch gan bod celloedd coch yn dod a ocsigen a glwcos I pob rhan or corff. Yno, bydd yr ysgyfaint yn gorfod gweithio'n gyflymach gan bod y corff yn anadlu llawer o ocsigen I fewn.

 
Respiratory system complete cy

Y System AnadluGolygu

Er mwyn cael anadlu'n rhwydd, mae rhaid ir ocsigen mynd trwyr trwyn neu'r ceg, yno ir tracea, ir bronci, wedyn trwy'r bronciolynnau ir alfeolws. Mae'r nwyon yn cyfnewid yn yr alfeolws. Wedyn, bydd yr ocsigen yn cael ei cludo mewn celloedd coch yn y plasma ogwmpas yr alfeolws, sydd yn ei newid yn ôl i garbon deuocsid ac yn cael ei anadlu'n ôl allan. Bydd hyn yn digwydd yn yr ysgyfaint lle bydd yr asennau ac y cyhyrau rhyng-asennol.


CyfeiriadauGolygu

  1. 1.0 1.1 Sharon A. Plowman; Denise L. Smith (1 Mehefin 2007). Exercise Physiology for Health, Fitness, and Performance. Lippincott Williams & Wilkins. t. 61. ISBN 978-0-7817-8406-1. Adalwyd 13 Hydref 2011
  2. Kenneth H. Cooper (1997). Can stress heal?. Thomas Nelson Inc. t. 40. ISBN 978-0-7852-8315-7. Adalwyd 19 Hydref 2011
  3. William D. McArdle; Frank I. Katch; Victor L. Katch (2006). Essentials of exercise physiology. Lippincott Williams & Wilkins. t. 204. ISBN 978-0-7817-4991-6. Adalwyd 13 Hydref 2011