Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Ddwyrain Cymru
Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Ddwyrain Cymru oedd yr ymddiriedolaeth GIG a redai ysbytai a gwasanaethau iechyd y GIG yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Roedd ei rhanbarth yn cynnwys Wrecsam, Sir y Fflint a Glannau Dyfrdwy, gyda phoblogaeth o tua 300,000 o bobl. Lleolwyd y pencadlys yn Ysbyty Wrecsam Maelor, ger Wrecsam. Cafodd ei uno gyda dwy ymddiriedolaeth iechyd arall gogledd Cymru yn 2009 pan sefydlwyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Ysbytai
golygu- Ysbyty Cymunedol Y Fflint, Y Fflint
- Ysbyty Cymunedol Glannau Dyfrdwy, Glannau Dyfrdwy
- Ysbyty Cymunedol Y Waun, Y Waun
- Ysbyty Cymunedol Treffynnon, Treffynnon
- Ysbyty Lluesty, Treffynnon
- Ysbyty Cymunedol Yr Wyddgrug, Yr Wyddgrug
- Ysbyty Pwylaidd Llannerch Banna, Llannerch Banna (caewyd yn 2002)
- Ysbyty Wrecsam Maelor, Wrecsam