Ymdeithiwr y derw
Oak Processionary | |
---|---|
Ymdeithiwr y derw | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Urdd: | Lepidoptera |
Teulu: | Thaumetopoeidae |
Genws: | Thaumetopoea |
Rhywogaeth: | T. processionea |
Enw deuenwol | |
Thaumetopoea processionea Linnaeus, 1758 |
Gwyfyn sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw ymdeithiwr y derw, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy ymdeithwyr y derw; yr enw Saesneg yw Oak Processionary, a'r enw gwyddonol yw Thaumetopoea processionea.[1][2] Mae i'w ganfod ledled Ewrop gan gynnwys Lloegr a Chymru ers 2006.
25–35 mm ydy lled yr adenydd agored ac mae'n hedfan ym Medi a Hydref, mewn un genhedlaeth.
Gwenwyn
golyguMae tua 63,000 o binnau bychain y lindys yn llawn o wenwyn a all achosi asma, trafferthion anadlu arall a hyd yn oed anaphylaxis.
Cyffredinol
golyguGellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.
Wedi deor o'i ŵy mae'r ymdeithiwr y derw yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
- ↑ Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.