Rhestr Ymerodron Bysantaidd
(Ailgyfeiriad o Ymerawdwr Bysantaidd)
Dyma Restr Ymerodron Bysantaidd.
Sylwch: Mae'n anodd dweud pryd daeth yr Ymerodraeth Rufeinig i ben a phryd dechreuodd yr Ymerodraeth Fysantaidd. Rhannodd yr ymerodr Diocletian yr ymerodraeth yn ddwy ran, yr Ymerodraeth Ddwyreinol a'r Ymerodraeth Orllewinol, am bwrpasau gweinyddol, yn y flwyddyn 284.
Mae sawl ymgeisydd am yr anrhydedd o fod yr ymerodr Bysantaidd "cyntaf".
- Cystennin I (yr ymerodr Cristnogol cyntaf, a symudodd y brifddinas i Gaergystennin)
- Valens. Brwydr Adrianople (378) yw un o'r dyddiadau traddodiadol ar gyfer dechrau yr Oesoedd Canol.
- Mae Arcadius (fel Theodosius I) yn cael ei ystyried fel ymerodr olaf yr Ymerodraeth Rufeinig unedig, a Zeno I (fel yr ymerodr gorllewinol olaf).
- Mae eraill yn dadlau bod yr ymerodraeth wedi ddechrau mor hwyr ag yn oes Heraclius (a wnaeth yr iaith Roeg yn iaith swyddogol), ac mae arbenigwyr arian bath yn ei gyfri o'r diwygiad ariannol Anastasius I yn 498. Wrth gwrs, roedd dinesyddion yr ymerodraeth yn dal i alw eu hymerodraeth yn Rhufeinig tan 1453.
Brenhinlin Theodosius
golygu- Valens (328-378 OC), rheolodd 364 - 378
- Theodosius I (Theodosius Fawr) (346-395), rheolodd 379 - 395
- Arcadius (377-408), rheolodd 395 - 408
- Theodosius II (401-450), rheolodd 408 - 450
- Marcianus (392-457), rheolodd 450 - 457
- Leo I (Leo Fawr) (401-474), rheolodd 457 - 474
- Leo II (467-474), rheolodd 474
- Zeno Tarasius (425-491), rheolodd 474 - 491
- Basiliscus (ymerodr mewn gwrthwynebiad) (???-476), rheolodd 475 - 476
- Anastasius I (430-518), rheolodd 491 - 518
Brenhinlin y Justiniaid
golygu- Justinus I Mawr (450-527), rheolodd 518 - 527
- Justinianus I Mawr (482-565), rheolodd 527 - 565
- Justinus II (520-578), rheolodd 565 - 578
- Tiberius II Cystennin (540-582), rheolodd 578 - 582
- Mauricius (539-602), rheolodd 582 - 602
- Phocas y Gormeswr (???-610), rheolodd 602 - 610
Brenhinlin Heraclius
golygu- Heraclius (575-641, rheolodd 610 - 641
- Cystennin III Heraclius (612-641), rheolodd 641
- Heraclonas Constantine (626-641), rheolodd 641
- Constans II Heraclius Pogonatus (y Barfog) (630-668), rheolodd 641 - 668
- Cystennin IV (649-685), rheolodd 668 - 685
- Justinian II Rhinotmetus (y Trwyn-hollt) (668-711), rheolodd 685 - 695
- Leontius (m. 706), rheolodd 695 - 698
- Tiberius III Apsimar (m. 706), rheolodd 698 - 705
- Justinian II, Rhinotmetus, adferwyd 705 - 711
- Philippicus Bardanes (m. 713), rheolodd 711 - 713
- Anastasius II (m. 721), rheolodd Artemius, 713 - 715
- Theodosius III (m. ar ôl 717), rheolodd 715 - 717
Brenhinlin yr Isauriaid
golygu- Leo III yr Isaurydd (675-741), rheolodd 717 - 741
- Cystennin V Copronymus (718-745), rheolodd 741
- Artabasdus (???–???), rheolodd 741 - 743
- Cystennin V Copronymus, adferwyd 743 - 775
- Leo IV y Chasar (750-780), rheolodd 775 - 780
- Cystennin VI y Dall (771-797), rheolodd 780 - 797
- Irene (ymerodres) (755-803), rheolodd 797 - 802
- Nicephorus I (750–811), rheolodd 802 - 811
- Stauracius (m. 812), rheolodd 811
- Mihangel I Rhangabe (m. 844), rheolodd 811 - 813
- Leo V yr Armenwr (775-820), rheolodd 813 - 820
Brenhinlin yr Amoriaid (Phrygiaid)
golygu- Mihangel II yr Amorwr (770-829), rheolodd 820 - 829
- Theophilus II (813-842), rheolodd 829 - 842
- Mihangel III y Meddwyn (840-867), rheolodd 842 - 867
Brenhinlin y Macedoniaid
golygu- Basil I y Macedonwr (811-886), rheolodd 867 - 886
- Leo VI y Call (866-912), rheolodd 886 - 912
- Alexander III (870-913), rheolodd 912 - 913
- Cystennin VII Porphyrogenitus (905-959), rheolodd 913 - 959
- Romanos I Lecapenus (870-948), rheolodd yn gyd ymerodr 919 - 944
- Romanos II Porphyrogentius (939-963), rheolodd 959 - 963
- Nicephorus II Phocas (912-969), rheolodd 963 - 969
- Ioan I Tzimiskes (925-976), rheolodd 969 - 976
- Basil II Bulgaroktonus "lladdwr-Bwlgariaid" (958-1025), rheolodd 976 - 1025
- Cystennin VIII Porphyrogentius (960-1028), rheolodd 1025 - 1028
- Romanos III Argyrus (968-1034), rheolodd 1028 - 1034
- Mihangel IV y Paphlagonwr (1010-1041), rheolodd 1034 - 1041
- Mihangel V Calaphates (1015-1042), rheolodd 1041 - 1042
- Zoë Porphyrogenita (978-1050, rhaglyw 1028 - 1050
- Cystennin IX Monomachus (1000-1054), rheolodd 1042 - 1054
- Theodora Porphyrogenita (980-1056), rheolodd 1054 - 1056
- Mihangel VI Stratioticus, rheolodd 1056 - 1057
Brenhinlin y Proto-Comnenaid
golygu- Isaac I Comnenus (1007-1060), rheolodd 1057 - 1059
- Cystennin X Ducas (1006-1067), rheolodd 1059 - 1067
- Mihangel VII Ducas (1050-1090), rheolodd 1067 - 1078
- Romanus IV Diogenes (1032-1072), rheolodd yn gyd-ymherodr 1067 - 1071
- Nicephorus III Botaniates (1001-1081), rheolodd 1078 - 1081
Brenhinlin Comnenus
golygu- Alexios I Komnenos (1057-1118), rheolodd 1081 - 1118
- Ioan II Komnenos (1087-1143), rheolodd 1118 - 1143
- Manuel I Komnenos (1118-1180), rheolodd 1143 - 1180
- Alexius II Comnenus (1169-1183), rheolodd 1180 - 1183
- Andronicus I Comnenus (1118-1185), rheolodd 1183 - 1185
Brenhinlin Angelus
golygu- Isaac II Angelus (1156-1204), rheolodd 1185 - 1195
- Alexius III Angelus (1153-1211), rheolodd 1195 - 1203
- Alexius IV Angelus (1182-1204), rheolodd 1203 - 1204
- Isaac II Angelus, adferwyd a rheolodd yn gyd-ymherodr 1203 - 1204
- Alexius V Ducas Murzuphlus "yr ael-gwalltog" (1140-1204), rheolodd 1204
Brenhinlin Lascaraid (mewn alltudiaeth fel Ymerodraeth Nicaea)
golygu- Theodore I Lascaris (1174-1222), rheolodd 1204 - 1222
- Ioan III Ducas Vatatzes (1192-1254), rheolodd 1222 - 1254
- Theodore II Lascaris (1221-1258), rheolodd 1254 - 1258
- Ioan IV Lascaris (1250-1305), rheolodd 1258 - 1261
Brenhinlin Palaeologaid
golygu- Mihangel VIII Palaiologos (1224-1282), rheolodd 1259 - 1282
- Andronicus II Palaeologus (1258-1332), rheolodd 1282 - 1328
- Andronicus III Palaeologus (1297-1341), rheolodd 1328 - 1341
- Ioan V Palaeologus (1332-1391), rheolodd 1341 - 1376
- Ioan VI Cantacuzenus (1295-1383), rheolodd yn gyd-ymherodr 1347 - 1354
- Andronicus IV Palaeologus (1348-1385), rheolodd 1376 - 1379
- Ioan V Palaeologus, adferwyd 1379 - 1391
- Ioan VII Palaeologus (1370-1408), rheolodd 1390
- Manuel II Palaeologus (1350-1425), rheolodd 1391 - 1425
- Ioan VII Palaeologus, adferwyd 1399 - 1402
- Ioan VIII Palaeologus (1392-1448), rheolodd 1425 - 1448
- Cystennin XI Palaeologus (1405-1453), rheolodd 1449 - 1453