Ymerodraeth Japan

Gwladwriaeth imperialaidd yn Nwyrain Asia gyda chenedl-wladwriaeth ynysfor Japan yn ganolog iddi oedd Ymerodraeth Japan a fodolai o 1868 i 1947.

Baner y Codiad Haul, baner ryfel Byddin Ymerodrol Japan (1870–1945) a lluman Llynges Ymerodorol Japan (1889–1945).

Sefydlwyd ar 3 Ionawr 1868 yn sgil adferiad y Meiji, sef diddymu hen drefn y siogyniaeth a chyhoeddi'r Ymerawdwr Meiji yn rheolwr absoliwt dros Japan oll. Cychwynnodd oes o foderneiddio a diwydiannu, ac aeth y llywodraeth ati i ddiwygio cyfundrefnau gwleidyddol, economaidd a milwrol y wlad ar batrwm arferion a sefydliadau'r Gorllewin. Cyflwynwyd cyfansoddiad newydd ym 1889 i sefydlu system seneddol dan oruchafiaeth yr ymerawdwr. Erbyn diwedd y 19g, esgynnai Japan yn un o bwerau mawrion y byd, gyda'r galluoedd economaidd a milwrol i gystadlu ag Unol Daleithiau America, Rwsia, ac ymerodraethau Ewrop.

Wedi rhyw 250 mlynedd o dra-ynysiaeth, polisi tramor a masnach a elwir sakoku, mabwysiadodd Japan bolisi militaraidd ac ehangiadol yng nghyfnod Meiji. Japan oedd yr unig wlad y tu hwnt i'r Gorllewin i ffurfio ymerodraeth drefedigaethol yn ystod Oes yr Imperialaeth Newydd.[1] Ymyrrodd Japan yn Joseon (Teyrnas Corea), un o wladwriaethau teyrngedol y Qing Fawr (Tsieina), gan sbarduno Rhyfel Cyntaf Japan a Tsieina (1894–95). Yn sgil buddugoliaeth Japan, collodd y Qing ei phenarglwyddiaeth ar Gorea yn ogystal â thiriogaeth Taiwan ac ynysfor Penghu. Japan oedd y wladwriaeth gyntaf yn Asia i drechu un o bwerau mawrion Ewrop yn yr oes fodern, gan ennill Rhyfel Japan a Rwsia (1904–05) a sicrhau ei rheolaeth dros Gorea a rhannau o Manshwria. Ym 1910, cafodd Corea ei gyfeddiannu'n ffurfiol gan Japan. Erbyn 1914, roedd yr ymerodraeth yn cynnwys Taiwan a Penghu, Corea, de Sachalin, a rhyw 1,400 o ynysoedd bychain yn ynysforoedd Marshall, Mariana, a Caroline yn Ne'r Cefnfor Tawel. Ymgynghreiriodd Japan â'r Cynghreiriaid yn y Rhyfel Byd Cyntaf (1914–18), ac enillodd hawliau tiriogaethol yn Tsieina. Wedi diwedd y rhyfel, derbyniodd Japan Fandad y Deheuforoedd oddi ar Gynghrair y Cenhedloedd.

Yn y cyfnod rhwng y rhyfeloedd, daeth arweinwyr milwrol i'r blaen yng ngwleidyddiaeth Japan, a throdd bolisïau'r ymerodraeth yn fwyfwy filitaraidd ac ymosodol. Goresgynnwyd Manshwria gan Japan ym 1931 a sefydlwyd Manchukuo yn wladwriaeth byped yng ngogledd-orllewin Tsieina. Lansiwyd goresgyniad mawr yn erbyn Gweriniaeth Tsieina ym 1937, gan ddechrau rhyfel hynod o ddinistriol a gwaedlyd, gan gynnwys cyflafan Nanjing.

Japan oedd un o brif bwerau'r Echel yn ystod yr Ail Ryfel Byd (1939–45), a brwydrodd ar sawl ffrynt yn erbyn lluoedd Unol Daleithiau America, yr Undeb Sofietaidd, Tsieina, ac ymerodraethau Prydain, Ffrainc, a'r Iseldiroedd. Cyrhaeddodd tiriogaeth yr ymerodraeth ei hanterth ym 1942, gan gynnwys pyped-wladwriaethau ym Maleisia, Singapôr, Byrma, Indo-Tsieina, Indonesia, y Philipinau, a Gini Newydd. Wedi i Japan ildio i'r Cynghreiriaid yn Awst 1945, collodd ei holl diriogaethau tramor a meddiannwyd y wlad gan luoedd yr Unol Daleithiau.

Diddymwyd yr ymerodraeth yn ffurfiol pan ddaeth y cyfansoddiad newydd i rym ar 3 Mai 1947. Cedwir yr ymerawdwr o hyd yn bennaeth y wladwriaeth, ond bellach brenhiniaeth gyfansoddiadol gyda thŷ imperialaidd seremonïol ydy Japan.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Sally Marks, The Ebbing of European Ascendancy: An International History of the World 1914–1945 (Llundain: Arnold, 2002), t. 207–08.