Myanmar

(Ailgyfeiriad o Byrma)

Gwlad yn ne-ddwyrain Asia yw Undeb Myanmar neu Myanmar (hefyd cyn 1989: Undeb Myanmar neu Myanmar, Bwrma). Mae'n ffinio â Bangladesh i'r gorllewin, India i'r gogledd-orllewin, Gweriniaeth Pobl Tsieina i'r gogledd-ddwyrain, Laos i'r dwyrain a Gwlad Tai i'r de-ddwyrain. Mae llywodraethau milwrol yn rheoli'r wlad ers 1962.

Myanmar
ArwyddairGadewch i'r daith ddechrau Edit this on Wikidata
Mathgwladwriaeth sofran, gwlad, gweriniaeth Edit this on Wikidata
PrifddinasNaypyidaw Edit this on Wikidata
Poblogaeth53,370,609 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd4 Ionawr 1948: Annibyniaeth oddi wrth Lloegr
AnthemKaba Ma Kyei Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethMin Aung Hlaing Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+06:30, Asia/Yangon Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Byrmaneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolDe-ddwyrain Asia Edit this on Wikidata
GwladBaner Myanmar Myanmar
Arwynebedd676,577.2 ±0.1 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaBangladesh, Gweriniaeth Pobl Tsieina, India, Laos, Gwlad Tai Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau22°N 96°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholCynulliad yr Undeb Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Arlywydd Myanmar Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethMyint Swe Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Cyngor Gweinyddiaeth y Wladwriaeth, Cwnsler Gwladriaeth Myanmar Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethMin Aung Hlaing Edit this on Wikidata
Map
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$65,125 million, $59,364 million Edit this on Wikidata
Ariankyat Edit this on Wikidata
Canran y diwaith3 ±1 canran Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant2.05 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.585 Edit this on Wikidata

O ran maint, hi yw'r wlad fwyaf ar dir mawr De-ddwyrain Asia (Indo-Tsieina) ac mae ganddi boblogaeth o tua 55 miliwn.[1] Prifddinas y wlad yw Naypyidaw, a'i dinas fwyaf yw Yangon (Rangoon gynt).[2]

Ymhlith y gwareiddiadau cynnar yn yr ardal roedd y dinas-wladwriaethau Pyu sy'n siarad Tibeto-Bwrmaidd ym Myanmar Uchaf a theyrnasoedd Mon ym Myanmar Isaf.[3] Yn y 9g, aeth pobl Bamar i mewn i ddyffryn Irrawaddy uchaf, ac yn dilyn sefydlu'r Deyrnas Baganaidd yn y 1050au, yn araf bach daeth yr iaith Byrmaneg, diwylliant, a Bwdhaeth Theravada yn flaenllaw yn y wlad. Syrthiodd y Deyrnas Baganaidd i'r Mongoliaid, a daeth sawl gwladwriaeth ryfelgar i'r amlwg. Yn yr 16g, wedi'i haduno gan linach Taungoo, daeth y wlad yn ymerodraeth fwyaf yn hanes De-ddwyrain Asia am gyfnod byr. Roedd llinach Konbaung o ddechrau'r 19g yn rheoli ardal a oedd yn cynnwys Myanmar modern ac yn rheoli Assam, Bryniau Lushai, a Manipur. Cipiodd Cwmni India'r Dwyrain reolaeth ar weinyddiaeth Myanmar ar ôl tri Rhyfel Eingl-Bwrma yn y 19g, a daeth y wlad yn wladfa Brydeinig. Ar ôl i Japan ei meddiannu am gyfnod byr, ailorchfygwyd Myanmar gan y Cynghreiriaid. Ar 4 Ionawr 1948, datganodd Myanmar ei hannibyniaeth oddi wrth Lloegr dan delerau Deddf Annibyniaeth Burma 1947.

Bu cryn aflonyddwch yn dilyn annibyniaeth Myanmar, gyda gwrthdaro parhaus hyd heddiw. Arweiniodd y coup d'état yn 1962 at unbennaeth filwrol o dan Blaid Rhaglen Sosialaidd Burma. Ar 8 Awst 1988, arweiniodd Gwrthryfel 8888 at drawsnewidiad i system amlbleidiol ddwy flynedd yn ddiweddarach, ond gwrthododd y cyngor milwrol ildio pŵer, ac mae wedi parhau i reoli’r wlad hyd heddiw. Mae'r wlad yn parhau i fod yn llawn ymryson ethnig ymhlith llawer o grwpiau ethnig ac mae ganddi un o'r rhyfeloedd cartref sydd wedi para hiraf, yn y byd. Mae'r Cenhedloedd Unedig a sawl sefydliad arall wedi adrodd am droseddau cyson a systemig ar ddiffyg hawliau dynol yn y wlad.[4] Yn 2011, diddymwyd y junta milwrol yn swyddogol yn dilyn etholiad cyffredinol 2010, a gosodwyd llywodraeth sifil mewn enw. Rhyddhawyd Aung San Suu Kyi a charcharorion gwleidyddol a chynhaliwyd etholiad cyffredinol Myanmar 2015, gan arwain at well cysylltiadau tramor a lleddfu sancsiynau economaidd,[5] er bod triniaeth y wlad o'i lleiafrifoedd ethnig yn parhau i godi gwrychyn gwledydd eraill.[6]

Yn dilyn etholiad cyffredinol Myanmar 2020, pan enillodd plaid Aung San Suu Kyi fwyafrif clir yn y ddau dŷ, cipiodd byddin Bwrma (y Tatmadaw) bŵer eto mewn coup d'état.[7] Arweiniodd y coup, a gondemniwyd yn eang gan y gymuned ryngwladol, at brotestiadau eang a pharhaus ym Myanmar ac gwelwyd gormes gwleidyddol treisgar gan y fyddin.[8] Arestiwyd Aung San Suu Kyi er mwyn ei thynnu o fywyd cyhoeddus, a’i chyhuddo o droseddau’n amrywiol o lygredd, torri protocolau COVID-19 ayb; mae pob un o'r cyhuddiadau yn ei herbyn "wedi'u cymell yn wleidyddol" yn ôl sylwedyddion annibynnol.[9]

Mae Myanmar yn aelod o Uwchgynhadledd Dwyrain Asia, y Mudiad Heb Aliniad, ASEAN, a BIMSTEC, ond nid yw'n aelod o Gymanwlad y Cenhedloedd er ei fod unwaith yn rhan o'r Ymerodraeth Brydeinig. Mae Myanmar yn Bartner o fewn Sefydliad Cydweithredu Shanghai. Mae'r wlad yn gyfoethog iawn ei hadnoddau naturiol, megis jâd, gemau, olew, nwy naturiol, tîc a mwynau eraill, yn ogystal ag ynni adnewyddadwy, sydd â'r potensial pŵer solar uchaf o'i gymharu â gwledydd eraill yr ardal. Fodd bynnag, mae Myanmar wedi dioddef ers amser maith o ansefydlogrwydd, trais carfannol, llygredd, seilwaith gwael, yn ogystal â hanes hir o ecsbloetio trefedigaethol heb fawr o ystyriaeth i ddatblygiad dynol.[10]

Yn 2013, roedd ei CMC (enwol) yn US$56.7 biliwn o'i gymharu â Chymru a oedd yn US$98 biliwn yn 1918; bron dwywaith mor gyfoethog â Mayanmar. Roedd ei CMC (PPP) yn US$221.5 biliwn.[11] Mae'r bwlch incwm (rhwng y cyfoethogion a'r bobl dlawd) ym Myanmar ymhlith y bwlch ehangaf yn y byd, gan fod cyfran fawr o'r economi yn cael ei rheoli gan gyfeillion y jwnta milwrol.[12] Myanmar yw un o'r gwledydd lleiaf datblygedig yn y byd. Ers 2021, dadleoliwyd mwy na 600,000 o bobl ledled Myanmar oherwydd yr ymchwydd mewn trais ar ôl y coup, gyda mwy na thair miliwn o bobl mewn angen dybryd am gymorth dyngarol.[13]

Cynhanes

golygu
Dinas-wladwriaethau Pyu yn yr 8g.

Mae tystiolaeth archeolegol yn dangos bod Homo erectus yn byw yn y rhanbarth a elwir bellach yn Myanmar mor gynnar â 750,000 o flynyddoedd yn ôl (CP).[14] Gwyddom fod yr Homo sapiens cyntaf yn dyddio i tua 25,000 CP gyda darganfyddiadau o offer carreg yng nghanol Myanmar.[15] Ceir tystiolaeth o ddofi planhigion ac anifeiliaid o’r oes Neolithig a’r defnydd o offer carreg caboledig yn dyddio i rywbryd rhwng 10,000 a 6,000 CC wedi’i ddarganfod ar ffurf paentiadau ogof yn Ogofâu Padah-Lin.[16]

Cyrhaeddodd yr Oes Efydd tua 1500 CC, pan oedd pobl y rhanbarth yn troi copr yn efydd, yn tyfu reis ac yn dofi dofednod a moch; roedden nhw ymhlith y bobl gyntaf yn y byd i wneud hynny. Darganfuwyd olion dynol ac arteffactau o'r cyfnod hwn yn Ardal Monywa yn Rhanbarth Sagaing.[17] Dechreuodd yr Oes Haearn tua 500 CC (tua'r un pryd a Chymru) pan ddaeth gwaith haearn i'r amlwg mewn ardal i'r de o Mandalay heddiw. Mae tystiolaeth hefyd yn dangos presenoldeb aneddiadau tyfu reis a oedd yn masnachu cyn belled â Tsieina rhwng 500 BCE a 200 CE.[18] Roedd diwylliannau Byrmanaidd yr Oes Haearn wedi dylanwadu ar wledydd fel India a Gwlad Thai, fel y gwelir yn eu harferion angladdol o gladdu plant. Mae hyn yn dynodi rhyw fath o gyfathrebu rhwng grwpiau ym Myanmar a lleoedd eraill, o bosibl trwy fasnach.

Daearyddiaeth

golygu

Lleolir Myanmar rhwng Bangladesh a Gwlad Tai, â Tsieina i'r gogledd ac India i'r gogledd-orllewin, efo arfordir ar Bae Bengal a'r Môr Andaman. Mae gan y wlad gyfanswm arwyneb o 678,500 km² (261,970 mi sg.), gyda bron ei hanner yn goedwig neu goetir. Yn dopograffegol, ar ei ffiniau â India a Tsieina yn y gorllewin mae gan y wlad fynyddoedd sy'n amgylchynu iseldir canolog o gwmpas Afon Ayeyarwady, ac sy'n ffurfio delta ffrwythlon lle mae'n llifo i'r môr. Mae rhan fwyaf poblogaeth y wlad yn byw yn yr iseldir canolog yma.

Diwylliant

golygu
 
Dawns Bwrmaidd: y Kinnayi Kinnaya

Mewn pentref traddodiadol, y fynachlog yw canolbwynt bywyd diwylliannol. Mae mynachod yn cael eu parchu a'u cefnogi gan y lleygwyr. Seremoni o'r enw shinbyu yw'r digwyddiadau dod i oed pwysicaf i fachgen, pan aiff i'r fynachlog am gyfnod byr.[19] Anogir pob plentyn gwrywaidd mewn teuluoedd Bwdhaidd i fod yn brentis (dechreuwr Bwdhaeth) cyn ei ugain oed ac i fod yn fynach ar ôl hynny. Caiff merched seremonïau tyllu clustiau ar yr un pryd.[19] Mae diwylliant Burma'n fwyaf amlwg mewn pentrefi lle cynhelir gwyliau lleol trwy gydol y flwyddyn, a'r pwysicaf yw'r ŵyl pagoda.[20][21] Mae gan lawer o bentrefi warchodwr ac mae ofergoeliaeth a thabŵau yn gyffredin.

 
Merch o Arakan (Rakhine) yn arllwys dŵr yn ystod Gŵyl Ddŵr Thingyan Blwyddyn Newydd Burma yn Yangon.

Cyflwynodd rheolaeth drefedigaethol Lloegr elfennau Seisnig, estron i ddiwylliant Myanmar a modelwyd y system addysg ar system addysg Lloegr. Mae dylanwadau pensaerniaeth drefedigaethol Prydeinig yn fwyaf amlwg mewn dinasoedd mawr fel Yangon.[22] ceir llawer o leiafrifoedd ethnig, yn enwedig y Karen yn y de-ddwyrain a'r Kachin and Chin sy'n poblogi'r gogledd a'r gogledd-ddwyrain, yn ymarfer Cristnogaeth.[23]

Coginio

golygu

Nodweddir bwyd Bwrmaidd gan y defnydd helaeth o gynhyrchion o'r môr, megis pysgod, saws pysgod, ngapi (bwyd môr wedi'i eplesu) a chorgimwch sych. Mohinga yw'r pryd brecwast traddodiadol a dyma saig genedlaethol Myanmar. Mae bwyd môr yn gynhwysyn cyffredin mewn dinasoedd arfordirol, tra bod cig a dofednod yn cael eu defnyddio'n fwy cyffredin mewn dinasoedd â thir mewnol e.e. ym Mandalay. Mae pysgod dŵr croyw a berdys wedi'u hymgorffori mewn coginio mewndirol fel prif ffynhonnell protein ac fe'u defnyddir mewn amrywiaeth o ffyrdd, yn ffres, wedi'u halltu neu'n ffiled, wedi'u halltu a'u sychu, wedi'u gwneud yn bast hallt, neu wedi'u eplesu'n sur a'u gwasgu. Mae bwyd Bwrmaidd hefyd yn cynnwys amrywiaeth o saladau (thoke), sy'n canolbwyntio ar un cynhwysyn mawr, yn amrywio o startsh fel nwdls reis, gwenith a reis, nwdls gwydr a vermicelli, i datws, sinsir, tomato, leim kaffir, ffa hir, a lahpet (dail te wedi'u piclo).

Chwaraeon

golygu

Mae'r Lethwei, Bando, Banshay, Pongyi thaing a chinlone yn grefftau ymladd traddodiadol ym Myanmar.[24] Mae pêl-droed yn cael ei chwarae ledled y wlad, hyd yn oed mewn pentrefi, ac mae ei dîm cenedlaethol yn cael ei reoli gan Ffederasiwn Pêl-droed Myanmar. Cynhaliwyd Gemau De-ddwyrain Asia 2013 yn Naypyidaw, Yangon, Mandalay a Thraeth Ngwesaung yn Rhagfyr gan gynrychioli'r trydydd tro i'r digwyddiad gael ei gynnal ym Myanmar. Cyn hynny cynhaliodd Myanmar y gemau ym 1961 a 1969.[25]

 
Merched Caian mewn pentref ger Llyn Inle, 2010

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Myanmar Population 2024 (Live)". worldpopulationreview.com. Cyrchwyd 2024-08-10.
  2. "Burma". The World Factbook. U.S. Central Intelligence Agency. 8 August 2023. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 February 2021. Cyrchwyd 23 January 2021.
  3. O'Reilly, Dougald JW (2007). Early civilizations of Southeast Asia. United Kingdom: Altamira Press. ISBN 978-0-7591-0279-8.
  4. "Burma". Human Rights Watch. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 December 2011. Cyrchwyd 6 July 2013.
  5. Madhani, Aamer (16 November 2012). "Obama administration eases Burma sanctions before visit". USA Today. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 January 2013. Cyrchwyd 22 August 2017.
  6. Greenwood, Faine (27 May 2013). "The 8 Stages of Genocide Against Burma's Rohingya | UN DispatchUN Dispatch". Undispatch.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 June 2013. Cyrchwyd 13 April 2014.
  7. "Myanmar military takes control of country after detaining Aung San Suu Kyi" (yn Saesneg). BBC News. 1 February 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 31 January 2021. Cyrchwyd 1 February 2021.
  8. Wee, Sui-Lee (5 December 2021). "Fatalities Reported After Military Truck Rams Protesters in Myanmar". The New York Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 December 2021. Cyrchwyd 7 December 2021.
  9. Ratcliffe, Rebecca (6 December 2021). "Myanmar's junta condemned over guilty verdicts in Aung San Suu Kyi trial". The Guardian. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 December 2021. Cyrchwyd 7 December 2021.
  10. Wong, John (March 1997). "Why Has Myanmar not Developed Like East Asia?". ASEAN Economic Bulletin 13: 344–358. doi:10.1355/AE13-3E (inactive 22 November 2024) . ISSN 0217-4472. JSTOR 25773443. https://www.jstor.org/stable/25773443. Adalwyd 8 May 2023.
  11. "Burma (Myanmar)". World Economic Outlook Database. International Monetary Fund. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 March 2021. Cyrchwyd 19 May 2017.
  12. Eleven Media (4 September 2013). "Income Gap 'world's widest'". The Nation. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 September 2014. Cyrchwyd 15 September 2014.
  13. "Issue Brief: Dire Consequences: Addressing the Humanitarian Fallout from Myanmar's Coup - Myanmar". ReliefWeb. 21 October 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 February 2022. Cyrchwyd 9 August 2022.
  14. Win Naing Tun (24 July 2015). "Prehistory to Protohistory of Myanmar: A Perspective of Historical Geography" (PDF). Myanmar Environment Institute. t. 1. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 26 October 2021. Cyrchwyd 22 November 2016. Homo erectus had lived in Myanmar 750,000 years ago
  15. Schaarschmidt, Maria; Fu, Xiao; Li, Bo; Marwick, Ben; Khaing, Kyaw; Douka, Katerina; Roberts, Richard G. (January 2018). "pIRIR and IR-RF dating of archaeological deposits at Badahlin and Gu Myaung Caves – First luminescence ages for Myanmar". Quaternary Geochronology 49: 262–270. doi:10.1016/j.quageo.2018.01.001. https://ro.uow.edu.au/smhpapers1/425. Adalwyd 21 January 2020.
  16. Cooler, Richard M. (2002). "The Art and Culture of Burma (Chapter 1)". DeKalb: Northern Illinois University. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 December 2016. Cyrchwyd 22 March 2012.
  17. Yee Yee Aung. "Skeletal Remains of Nyaunggan, Budalin Township, Monywa District, Sagaing Division". Perspective July 2002. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 December 2008. Cyrchwyd 7 October 2008.
  18. Hudson, Bob (March 2005). "A Pyu Homeland in the Samon Valley: a new theory of the origins of Myanmar's early urban system". Myanmar Historical Commission Golden Jubilee International Conference: 1. http://acl.arts.usyd.edu.au/~hudson/BH2005Jan.pdf.
  19. 19.0 19.1 Chit, Khin Myo (1980). Flowers and Festivals Round the Burmese Year.
  20. Tsaya (1886). Myam-ma, the home of the Myanmarn. Calcutta: Thacker, Spink and Co. tt. 36–37.
  21. Yoe, Shway (1882). The Myanmarn – His Life and Notions. New York: Norton Library 1963. tt. 211–216, 317–319.
  22. Martin, Steven (March 2004). "Burma maintains bygone buildings". BBC News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 April 2008. Cyrchwyd 9 July 2006.
  23. Scott O'Connor (1904). The Silken East – A Record of Life and Travel in Burma. Scotland: Kiscadale. t. 32.
  24. Hays, Jeffrey. "SPORTS IN MYANMAR: SOCCER, OLYMPICS AND TRADITIONAL SPORTS". Facts and Details. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 June 2017. Cyrchwyd 5 June 2017.
  25. "Myanmar prepares for the 2013 Southeast Asian Games". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 June 2018. Cyrchwyd 5 January 2012.

Dolenni allanol

golygu