Ymgais i lofruddio Donald Trump

Ar Ddydd Sadwrn 13 Gorffennaf 2024, ger Butler, Pennsylvania, Unol Daleithiau America, gwnaed ymgais i lofruddio Donald Trump, 45ain Arlywydd yr Unol Daleithiau, yn ystod rali ar gyfer ei ymgyrch yn yr etholiad arlywyddol. Wrth annerch y dorf, cafodd Trump ei saethu yn ei glust dde. Yr un a ddrwgdybir oedd Thomas Matthew Crooks, a saethwyd yn farw gan un o'r Gwasanaeth Cudd.

Ymgais i lofruddio Donald Trump
Map diagram yn dangos lleoliad Thomas Matthew Crooks (coch), Donald Trump (du), a Thîm Gwrth-Ymosodd y Gwasanaeth Cudd (glas).
Enghraifft o'r canlynolassassination attempt, Trais gwleidyddol, shooting attack Edit this on Wikidata
Dyddiad13 Gorffennaf 2024 Edit this on Wikidata
Lladdwyd2, 1 Edit this on Wikidata
LleoliadButler Farm Show Edit this on Wikidata
Map
GwladwriaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
RhanbarthButler County Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Yn ôl llygad-dystion ar gyrion y rali, dringodd y saethwr, gyda gwn yn ei feddiant, ar ben adeilad unlawr y tu allan i'r terfyn diogelwch a godwyd gan yr heddlu, ac ymlusgodd ar hyd y to i anelu at Trump. Taniodd wyth rownd o'i reiffl AR-15, cyn iddo gael eiladd gan gêl-saethwr o Dîm Gwrth-Ymosodd y Gwasanaeth Cudd ar ben adeilad y tu ôl i Trump. Wedi i fwled mynd trwy ei glust, disgynnodd Trump o'r llawr a chafodd ei amgylchynu gan asiantau'r Gwasanaeth Cudd. Cododd ar ei draed, gyda gwaed ar ei wyneb, a chododd ei ddwrn o flaen y dorf gan weiddi "fight, fight, fight!" Cafodd ei dywys ar frys i mewn i car i'w ddwyn i'r ysbyty. Yn ogystal â'r anaf i Trump, cafodd un aelod o'r dorf ei ladd a dau arall eu hanafu'n ddifrifol. Trannoeth, cafodd yr un a lofruddiwyd ei enwi gan Josh Shapiro, Llywodraethwr Pennsylvania, fel Corey Comperatore, diffoddwr tân 50 oed.[1]

Nid oedd unrhyw gardiau adnabod ar gorff y saethwr, felly roedd yn rhaid i'r heddlu ei adnabodd o'i DNA. Cyhoeddodd yr FBI taw Thomas Matthew Crooks, dyn 20 oed o Bethel Park, Pennsylvania, ydoedd.[2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) Katie Bernard, "Gov. Josh Shapiro identifies man killed at Trump rally and denounces extreme political rhetoric", The Philadelphia Inquirer (14 Gorffenanf 2024). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 14 Gorffennaf 2024.
  2. (Saesneg) Emily Davies, Steve Hendrix ac Annabelle Timsit, "Suspected Trump rally shooter Thomas Matthew Crooks is from Bethel Park, Pa.", The Washington Post (14 Gorffennaf 2024). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 14 Gorffennaf 2024.