Llangwyfan, Sir Ddinbych

pentref yn Sir Ddinbych

Pentref yng nghymuned Llandyrnog, Sir Ddinbych, Cymru, yw Llangwyfan[1][2] ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif tua pedair milltir i'r dwyrain o dref Dinbych a dwy filltir i'r dwyrain o Afon Clwyd. Cysegrwyd yr eglwys i Sant Cwyfan; ceir y cofnod cyntaf amdani yn 1254 ond gall y safle fod yn hŷn (ceir eglwys arall ar Ynys Môn, gweler Eglwys Llangwyfan). Mae bryngaer Moel Arthur ychydig i'r gogledd-ddwyrain.

Llangwyfan
Eglwys Sant Cwyfan
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Ddinbych Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.184999°N 3.314737°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auGareth Davies (Ceidwadwyr)
AS/auJames Davies (Ceidwadwyr)
Map
Am y pentrefan o'r un enw yn Ynys Môn, gweler Llangwyfan, Ynys Môn.

Arferai Llangwyfan fod yn adnabyddus fel safle Ysbyty Llangwyfan neu Sanatoriwm Gogledd Cymru. Yn wreiddiol roedd hon yn ysbyty diciau, ac yn ddiweddarach daeth yn ysbyty cyffredinol i anhwylderau'r frest, ond mae wedi cau erbyn hyn.

Eirlysiau ym mynwent Eglwys Sant Cwyfan
Bythynnod ar gwr y pentref

Eglwys Sant Cwyfan golygu

Un o ddilynwyr Sant Beuno oedd Sant Cwyfan a roddodd ei enw i'r eglwys leol. Mae'r eglwys tua 1.5 km i'r gogledd-ddwyrain o Eglwys Sant Tyrnog, Llandyrnog a sonir amdani'n wreiddiol yn 1254 fel "Langeifin", ond dylid cofio nad oedd y cofnodwr trethi yn deall Cymraeg, heb sôn am ei sillafu. Ceir hefyd eglwys o'r un enw ar Ynys Cribinau ym Môn ac un arall yn Nhudweiliog, Gwynedd. Canfyddwyd olion yr eglwys cynharaf, canoloesol ger wal yn y gogledd, ond perthyn i'r 15C mae'r adeilad presennol.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 17 Awst 2022
  3. britishlistedbuildings.co.uk; adalwyd 26 Medi 2016.

Dolenni allanol golygu