Naxos
(Ailgyfeiriad o Ynys Naxos)
Un o ynysoedd Gwlad Groeg yw Naxos (Groeg: Νάξος). Hi yw'r fwyaf o ynysoedd y Cyclades, gyda phoblogaeth o 18,188 yn 2001
Math | ynys |
---|---|
Poblogaeth | 17,930 |
Cylchfa amser | UTC+2, UTC+03:00 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Cyclades |
Lleoliad | Môr Aegeaidd |
Sir | Naxos and Lesser Cyclades Municipality |
Gwlad | Gwlad Groeg |
Arwynebedd | 428 km², 429.785 km² |
Uwch y môr | 1,003 metr |
Gerllaw | Môr Aegeaidd |
Cyfesurynnau | 37.0833°N 25.4667°E |
Hyd | 32.5 cilometr |
Y ddinas fwyaf yw Hora, a elwir hefyd yn Ddinas Naxos, gyda phoblogaeth o 6,533. Mae'r pentrefi ar yr ynys yn cynnwys Filoti, Apiranthos, Vivlos, Agios Arsenios, Koronos a Glinado. Mae'n gyrchfan boblogaidd i dwristiaid, gyda nifer o safleoedd archaeolegol diddorol yn ogystal â thraethau. Mynydd Zas (999 medr) yw'r mynydd uchaf yn y Cyclades.
Ym mytholeg Roeg, dywedir i Zeus gael ei fagu mewn ogof ar lethau Mynydd Zas. Chwedl arall yw bod Theseus wedi gadael Ariadne ar yr ynys, wedi iddi ei helpu i ladd y Minotawr ar ynys Creta.