Mae microgenedl yn endid gwleidyddol y mae ei aelodau'n honni eu bod yn perthyn i genedl annibynnol neu wladwriaeth sofran, sydd heb gydnabyddiaeth gyfreithiol gan lywodraethau'r byd neu sefydliadau rhyngwladol mawr.[1] Mae'r mwyafrif yn fach iawn, ond yn gallu amrywio o un droedfedd sgwâr i filiynau o filltiroedd sgwâr (Westarctica). Maent fel arfer yn tyfu allan o un unigolyn.

Microgenedl
Enghraifft o'r canlynolformer or current state Edit this on Wikidata
Mathquasi-state Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Mae Tywysogaeth Sealand yn ficrogenedl wedi'i leoli ym môr oddi ar arfordir y Deyrnas Unedig.

Mae microgenedl yn mynegi honiad ffurfiol a pharhaus dros ryw diriogaeth gorfforol, er na fu chydnabyddiaeth o'r sofraniaeth. Mae microgenhedloedd yn wahanol i wir symudiadau ymwahaniaeth; mae gweithgareddau microgenhedloedd bron bob amser yn ddigon dibwys i gael eu hanwybyddu yn hytrach na'u herio gan y cenhedloedd sefydledig y maent yn honni eu tiriogaeth. Mae sawl microgenedl wedi cyhoeddi darnau arian, baneri, stampiau post, pasbortau, medalau ac eitemau eraill sy'n gysylltiedig â'r wladwriaeth, yn aml fel ffynonellau refeniw.

Dechreuodd peth o'r hyn a allai bellach gael ei ystyried yn ficrogenhedloedd yn yr 20fed ganrif. Daeth y rhyngrwyd yn ffordd i bobl greu llawer o ficrogenhedloedd newydd, gyda'u haelodau wedi'u gwasgaru ledled y byd ac yn rhyngweithio'n bennaf trwy ddulliau electronig, yn aml yn alw eu cenhedloedd yn "wledydd crwydrol". Mae'r gwahaniaethau rhwng "microgenhedloedd y rhyngrwyd", mathau eraill o grwpiau rhwydweithio cymdeithasol, a gemau chwarae rôl, yn aml yn anodd eu diffinio.[2]

Mae'r term "microgenedl" i ddisgrifio'r endidau hyn yn dyddio o leiaf i'r 1970au.[3] Defnyddir y term micropatrioleg weithiau i ddisgrifio'r astudiaeth o ficrogenhedloedd a microwladwriaethau gan ficrogenedlaetholwyr. Mae rhai ohonynt yn cyfeirio at cenedl-wladwriaethau sofran fel "macrogenhedloedd".

Mae microgenhedloedd yn cyferbynnu â microwladwriaethau, sef wladwriaethau sofran bach ond cydnabyddedig megis Andorra, Liechtenstein, Lwcsembwrg, Monaco, San Marino, a'r Fatican.[4] Maent hefyd yn wahanol i wledydd dychmygol ac i fathau eraill o grwpiau cymdeithasol (megis eco-bentrefi, campysau, llwythau, claniau, sectau, a chymdeithasau cymunedol preswyl).

Diffiniad golygu

 
"Croeso i'r Weriniaeth Conch" - arwydd ym Maes Awyr Rhyngwladol Key West

Yn gyffredinol mae gan ficrogenhedloedd nifer o nodweddion cyffredin, er y gall y rhain amrywio'n fawr. Efallai bod ganddyn nhw strwythur tebyg i wladwriaethau sofran sefydledig, gan gynnwys hawliadau tiriogaethol, sefydliadau'r llywodraeth, symbolau swyddogol a dinasyddion, er ar raddfa lawer llai. Mae microgenhedloedd yn aml yn eithaf bach, yn eu tiriogaeth a'u poblogaethau - er bod rhai eithriadau i'r rheol hon, mae gan wahanol ficrogenhedloedd gwahanol ddulliau ar gyfer derbyn dinasyddiaeth. Gall microgenhedloedd hefyd gyhoeddi cyfryngau ffurfiol megis stampiau post, darnau arian, a phasbortau, a chyflwyno anrhydeddau a theitlau boneddigeiddrwydd.

Roedd Confensiwn Montevideo yn ymgais i greu diffiniad cyfreithiol yn gwahaniaethu rhwng gwladwriaethau a rheini nad yw'n wladwriaethau. Mae rhai microgenhedloedd yn cwrdd â'r diffiniad hwn, rhai ddim, a rhai eraill yn gwrthod y confensiwn. Mae rhai microgenhedloedd megis Sealand neu Afon Hutt yn gwrthod y term microgenedl ac yn ystyried eu hunain fel gwladwriaethau sofran. Nid oes gan ficrogenhedloedd eraill megis Flandrensis neu Molossia unrhyw fwriad i gael eu cydnabod fel gwladwriaethau go iawn.

Cyfreithlondeb golygu

Mewn cyfraith ryngwladol, mae Confensiwn Montevideo ar Hawliau a Dyletswyddau Gwladwriaethau yn nodi'r meini prawf ar gyfer fod yn wladwriaeth yn erthygl 1: "Dylai'r wladwriaeth fel person cyfraith ryngwladol feddu ar y cymwysterau canlynol: (a) poblogaeth barhaol; (b) a thiriogaeth ddiffiniedig; (c) llywodraeth; ac (d) y gallu i gael perthynas â gwladwriaethau eraill." Mae brawddeg gyntaf erthygl 3 o Gonfensiwn Montevideo yn nodi'n benodol bod "Bodolaeth wleidyddol y wladwriaeth yn annibynnol o gydnabyddiaeth gan y gwladwriaethau eraill."

O dan y canllawiau hyn, gellir ystyried unrhyw endid sy'n cwrdd â'r holl feini prawf a nodir yn erthygl 1 yn sofran o dan gyfraith ryngwladol, p'un a yw gwladwriaethau eraill wedi ei gydnabod ai peidio.

Rhestr o ficrogenhedloedd golygu

Mae llawer o wahanol fathau o ficrogenhedloedd wedi'u hawlio dros y blynyddoedd.

Microgenhedloedd golygu

 
Y ffin yn croesi o'r Eidal i Dywysogaeth Seborga
  • Yn gynnar yn yr 1970au adeiladodd Operation Atlantis, grŵp rhyddfrydol o Efrog Newydd, llong â chorff concrit o'r enw Freedom. Hwylion nhw i'r Caribî, gan fwriadu ei hangori'n barhaol fel eu "tiriogaeth". Suddodd y llong mewn corwynt ac yna rhoddwyd y gorau i'r prosiect.
 
Glanio ar Minerva
  • Gweriniaeth Minerva, prosiect rhyddfrydol arall a lwyddodd i adeiladu ynys fach ar y riffiau Minerva i'r de o Ffiji ym 1972 cyn cael ei goresgyn gan filwyr o Tonga, a dinistriodd yr ynys.[5]
  • Tywysogaeth Freedonia, prosiect rhyddfrydol a gefnogodd ymdrechion Cwmni Awdal Road i brydlesu tir o Swltan yr Awdal yn Somaliland yn 2001. Os oedd y Cwmni Awdal Road yn gallu adeiladu ffordd, yna bydd Swltan yr Awdal yn rhoi tir i ganiatáu i'r cwmni creu parth economaidd rhydd, ac yna bydd peth o'r diriogaeth honno'n cael ei throsglwyddo i Dywysogaeth Freedonia. Nid yw'r prosiect yn weithredol rhagor.
  • Gweriniaeth yr Ynys Rose, ynys artiffisial a adeiladwyd ym 1968 gan y pensaer Eidalaidd Giorgio Rosa yn y Môr Adriatig. Adeiladwyd y strwythur fel atyniad i dwristiaid, ond yn fuan ar ôl iddo gael ei orffen, datganodd Rosa sofraniaeth. Dinistriodd y llynges Eidalaidd y strwythur y flwyddyn ganlynol gyda dynameit.[6]
  • Cyhoeddwyd y Wlad Heddwch Byd-Eang (Global Country of World Peace), fel "gwlad heb ffiniau i bobl sy'n caru heddwch ym mhobman", gan Maharishi Mahesh Yogi yn 2000. Gwnaeth sawl ymgais i brynu neu brydlesu tir ar gyfer tiriogaeth sofran.[7] Bellach mae'n cael ei lywodraethu gan Maharaja Tony Nader.[8] Ei arian cyfred yw'r Raam ac mae ei brifddinasoedd yn cynnwys Maharishi Vedic City, Iowa a Vlodrop.
  • Sefydlwyd Asgardia ar 12 Hydref 12 2016 gan Igor Ashurbeyli. Y mae'n genedl arfaethedig wedi'i lleoli yn y gofod. Y cynlluniau yw i'r wlad fod yn heddychlon, cael heb iaith swyddogol, i gynnal cystadleuaeth i ddylunio ei baner a'i hanthem genedlaethol, a dod yn rhan o'r Cenhedloedd Unedig. Ar 25 Mawrth 2017 mae dros 169,327 o bobl[9] wedi ymuno ac wedi dod yn aelodau cydnabyddedig o'r wlad.[10]
  • Mae Gweriniaeth Rydd Liberland, a sefydlwyd yn 2015, yn honni darn bach o dir rhwng Chroatia a Serbia o'r enw Siga. Mae'n rhannu ffin tir â Croatia ac mae ei ffin ddwyreiniol ar y Donaw. Oherwydd ddadl am ffiniau Croatia-Serbia, mae rhywfaint o dir yn cael ei hawlio gan y ddwy wlad ac mae parseli eraill yn cael eu hawlio gan y naill na'r llall.[11] Mae'r microgenedl wedi sefydlu cysylltiadau ffurfiol â Somaliland[12].

Microgenhedloedd yn seiliedig ar honiadau hanesyddol golygu

Mae nifer fach o ficrogenhedloedd wedi'u seilio ar anghysondebau hanesyddol neu ar anghysonderau cyfreithiol (sy'n deillio o ddehongliadau dadleuol o'r gyfraith). Mae'r mathau hyn o ficrogenhedloedd wedi eu lleoli fel arfer ar mewngloadau tiriogaethol bach, yn cynhyrchu gweithgarwch economaidd bach wedi seilio ar dwristiaeth a gwerthu darnau arian a stampiau post. Caiff eu goddef neu eu hanwybyddu gan y cenhedloedd y maent yn honni eu bod wedi ymwahanu. Mae'r categori hwn yn cynnwys:

  • Tywysogaeth Seborga, tref yn rhanbarth Liguria, yr Eidal, sy'n olrhain ei hanes yn ôl i'r Oesoedd Canol.[5]
  • Mae Tiriogaeth Ddibynnol y Goron Forvik yn ynys yn Shetland, a gydnabyddir ar hyn o bryd fel rhan o'r DU. Mae Stuart Hill yn honni bod annibyniaeth yn dod o drefniant 1468 rhwng y Brenin Christian I o Ddenmarc / Norwy ac Iago III yr Alban, lle gwerthodd Christian yr Ynysoedd Shetland i Iago er mwyn codi arian ar gyfer gwaddol ei ferch. Mae Hill yn honni na thalwyd y gwaddol erioed ac felly nid yw'n rhan o'r DU ac y dylai fod yn diriogaeth ddibynnol y goron fel Ynys Manaw. Mae Hill hefyd wedi annog gweddill Shetland i ddatgan annibyniaeth.[14]
  • Mae'r Ymerodraeth Romanov, yn ficrogenedl a grëwyd yn 2011 gan ddyn busnes a gwleidydd o Rwsia, y Tywysog Anton Bakov, cadeirydd Plaid Frenhiniaethol Ffederasiwn Rwsia. Yn 2014, cyhoeddodd yr Ymerodraeth fod y Tywysog Karl Emich o Leiningen, un o sawl hawliwr i'r llinell frenhinol Romanov, bellach yn Nicholas III, Ymerawdwr Holl Rwsia. Mae'r Ymerodraeth yn honni ei fod mewn cysylltiad â llywodraethau Montenegro a Gogledd Macedonia ynglŷn â rhoi tiriogaeth a chydnabyddiaeth.

Cyfeiriadau golygu

  1. Sawe, Benjamin. "What Is a Micronation?". World Atlas: World Facts. World Atlas. Cyrchwyd 6 Rhagfyr 2017.
  2. Mateusz Kudła,"Jak zostać premierem nie odchodząc od komputera" (yn Polish). onet.pl. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 Tachwedd 2011. Cyrchwyd 27 Ebrill 2013.CS1 maint: unrecognized language (link)
  3. The People's Almanac #2, page 330.
  4. Sack, John; Silverstein, Shel (1959). Report from practically nowhere. Harper.
  5. 5.0 5.1 Sellars, John Ryan, George Dunford, Simon (2006). Micronations : [the Lonely Planet guide to home-made nations]. London: Lonely Planet Publications. tt. 28–33. ISBN 978-1-74104-730-1.
  6. "Riemerge l'isola dell'Utopia - Corriere della Sera". www.corriere.it (yn Eidaleg). Cyrchwyd 19 Mai 2018.
  7. McGirk, Jan (8 Mehefin 2001). "Yogi's disciples want to create new utopia". The Independent. London (UK). t. 17. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Mai 2013.
  8. MIZROCH, AMIR (23 Gorffennaf 2006). "Forget the F-16s, Israel needs more Yogic Flyers to beat Hizbullah. 30-strong TM group, sole guests at Nof Ginnosar Hotel, say they need another 235 colleagues to make the country safe". Jerusalem Post. t. 4. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 Gorffennaf 2011.
  9. . Asgardia. 19 Ionawr 2018 https://asgardia.space/chronicles/igor-ashurbeylis-address-to-asgardians. Missing or empty |title= (help)
  10. "Asgardia". Asgardia. 25 Hydref 2016.
  11. "Balkans: Czech man claims to establish 'new state'". BBC News. 16 Ebrill 2015.
  12. "Somaliland says it wants closer cooperation with unrecognised Liberland". BBC News. 26 Medi 2017.
  13. "Journeys: The Spirit of Discovery: Simon Sellars braves wind and waves to visit the unlikely North Sea nation of Sealand". The Australian. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Tachwedd 2007. Cyrchwyd 2007-11-10.
  14. Hill, Stuart (21 Mehefin 2008). "Forvik Declaration of Direct Dependence". The Crown Dependency of Forvik. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 Ebrill 2009. Cyrchwyd 4 Mai 2009.